Galw am ymestyn y gwaharddiad ar orfodi rhentwyr i adael
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alwadau ar i bobl sy'n rhentu yng Nghymru i gael mwy o gymorth i'w diogelu rhag cael eu gorfodi o'u cartrefi gan landlordiaid.
Dywedodd Shelter Cymru bod y rheiny sy'n rhentu yn breifat ymysg y bobl sydd wedi'u taro waethaf gan y pandemig.
Yn Lloegr, oni bai bod amgylchiadau arbennig, bydd angen i landlordiaid roi gwybod i rentwyr chwe mis o flaen llaw os oes rhaid iddyn nhw adael, ac mae hynny mewn grym nes Mawrth 2021.
Mae gan Gymru reol debyg i'r un yn Lloegr am roi chwe mis o rybudd i rentwyr sy'n gorfod gadael, ond mae'r rheol hynny'n dod i ben fis nesaf yma.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n parhau i adolygu'r rheolau.
'15,000 o rentwyr wedi'u bygwth'
Cafodd y gyfraith ei newid yng Nghymru ar ddechrau'r pandemig gan olygu y byddai'n rhaid rhoi tri mis o rhybudd i denantiaid cyn eu gorfodi i adael, cyn i hynny gael ei ymestyn i chwe mis yn ddiweddarach.
Mae elusen Shelter eisiau i Lywodraeth Cymru newid y rheolau fel bod gan rentwyr yma yr un gefnogaeth ag yn Lloegr.
Yn ôl arolwg barn gan YouGov o 1,000 o gartrefi yng Nghymru, gafodd ei gomisiynu gan Shelter, roedden nhw'n amcangyfrif bod tua 15,000 o rentwyr preifat wedi cael eu bygwth gyda gorchymyn i adael eu cartrefi ers dechrau'r cyfnod clo.
Dywedodd yr elusen bod hynny'n "anhygoel" o ystyried bod y ffigwr blynyddol arferol yn tua 1,500.
Yn ôl Jennie Bibbings o Shelter Cymru, mae 'na bryder na fydd gwasanaethau digartrefedd yn gallu ymdopi gyda'r cynnydd yn y galw am gymorth pan fydd y gwaharddiad ar orfodi rhentwyr o'u cartrefi yn dod i ben ar 20 Medi.
"Dydyn ni ddim wedi gweld diwedd hyn - mae mwy o bobl am golli eu swyddi a'u cartrefi," meddai.
"Mae angen i Lywodraeth Cymru ymestyn y ddeddfwriaeth frys nes o leiaf diwedd Mawrth, neu yn ddelfrydol am 12 mis arall fel bod tenantiaid dan lai o bwysau."
70,000 wedi mynd i ddyled rhent
Mae data diweddaraf Rent Smart Wales yn awgrymu bod mwy 'na 70,000 o denantiaid preifat wedi mynd ar ei hôl hi ar dalu eu rhent ers dechrau'r pandemig.
Ond mae Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl (NRLA) yn dweud y byddai estyniad yn "annerbyniol", gan alw ar y llywodraeth i ddigolledu landlordiaid preifat am unrhyw incwm sydd wedi'i golli yn ystod y pandemig.
Cafodd Beth (nid ei henw iawn), sy'n gymhorthydd ym Mlaenau Gwent, a'i phartner orchymyn ym mis Gorffennaf i dalu eu dyled rhent neu adael eu cartref o fewn tri mis.
Fe wnaeth y cwpl fethu â thalu'r rhent yn llawn ar ôl i Beth gael ei rhoi ar gynllun ffyrlo Llywodraeth y DU ym mis Mawrth.
Dywedodd eu bod wedi derbyn y rhybudd gan eu landlord reit cyn i'r cyfnod gael ei ymestyn o dri mis i chwech, a bod y landlord "ddim yn cyfathrebu'n dda".
"Dyw'r ffaith 'mod i wedi bod yn denant da ddim yn golygu unrhyw beth i'r landlord, y cwmni tai na'r llywodraeth," meddai.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynllun ble mae modd benthyg arian er mwyn helpu rhentwyr sydd wedi mynd i ddyled yn ystod y pandemig, a dywedodd Beth ei bod yn gobeithio y bydd hi'n gymwys i wneud cais.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddan nhw yn "parhau i weithio'n agos gyda rhanddeiliaid i fonitro'r effaith ar y sector rhentu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Awst 2020
- Cyhoeddwyd3 Awst 2020
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2020