Pro14: Gweilch 20-20 Dreigiau

  • Cyhoeddwyd
Ashton HewittFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Ashton Hewitt yn sgorio cais cyntaf y Dreigiau

Gêm gyfartal oedd hi rhwng y Gweilch a'r Dreigiau yn y Pro14 yn Stadiwm Liberty ddydd Sul.

Roedd hwn yn ddechrau newydd i'r Gweilch gyda'r hyfforddwr newydd Toby Booth wrth y llyw.

Roedd y Dreigiau yn chwarae heb eu canolwr newydd, Jamie Roberts wedi iddo gael prawf positif am coronafeirws yn ystod yr wythnos.

Bu'r ddau dîm ar y blaen am gyfnodau yn ystod yr hanner cyntaf ac am hir roedd y ddau wedi sgorio dau gais yr un, ond yn y munudau olaf roedd yna gais arall i'r Dreigiau wrth i Ashton Hewitt groesi.

Ef hefyd a sgoriodd gais cyntaf y tîm o Went, gyda Leon Brown yn sgorio'r ail. George North a Sam Parry groesodd i'r Gweilch.

Fe ddaeth gweddill y pwyntiau drwy gicio Stephen Myler i'r Gweilch a Sam Davies i'r Dreigiau.

Ffynhonnell y llun, Ben Evans/Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd George North ei yrru o'r maes ar ôl llai na chwarter awr o chwarae

Roedd yna siom i George North wedi chwarter awr - fe gafodd ei anfon o'r cae am y tro cyntaf yn ei yrfa broffesiynol am dacl beryglus ar Hewitt yn yr awyr.

Mae gemau cynghrair y Pro14 yn ôl wedi seibiant o bum mis oherwydd argyfwng coronafeirws ac yn ystod yr wythnosau nesaf bydd timau o'r un genedl yn wynebu ei gilydd mewn gemau darbi cartref ac oddi cartref.

Fe ddaw'r tymor i ben gyda rownd gynderfynol a rownd derfynol.

Y timau fydd yn gorffen yn y ddau safle uchaf yn Adrannau A a B fydd yn chwarae yn y rownd gynderfynol.