'Dim angen cau tafarndai a bwytai i ailagor ysgolion'

  • Cyhoeddwyd
dynion ifanc yn yfedFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Vaughan Gething wedi rhybuddio pobl rhag mynd i'r dafarn gyda phobl sydd y tu allan i'w cartrefi estynedig

Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething wedi dweud "nad oes angen" cau tafarndai a bwytai er mwyn galluogi ysgolion i ailagor yng Nghymru.

Dywedodd nad oedd am ddiystyru unrhyw beth, ond nad oedd rheswm ar hyn o bryd i gau busnesau oherwydd cynnydd yn nifer yr achosion Covid-19 yng Nghaerdydd.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi y bydd gweithwyr gofal sy'n gorfod hunan ynysu oherwydd Covid-19 yn cael arian ychwanegol ar ben eu cyflog salwch er mwyn sicrhau nad ydyn nhw ar eu colled.

Yn y cyfamser mae disgwyl cyhoeddiad erbyn dydd Mercher ynghylch a fydd yn rhaid i ddisgyblion uwchradd wisgo masgiau pan fydd ysgolion yn ailagor ym mis Medi.

'Dim partïon plu a stag'

Wrth siarad yn y gynhadledd i'r wasg ddydd Mawrth, pwysleisiodd Mr Gething yr angen i barhau i ddilyn y rheolau sy'n dweud y dylai pobl ond fynd allan i yfed a bwyta gydag eraill o fewn eu cartrefi estynedig.

Daw hynny yn dilyn twf yn nifer yr achosion coronafeirws yn y brifddinas, gyda'r gweinidog iechyd yn dweud bod hynny o ganlyniad i'r haint yn ymledu "dan do".

Yn gynharach ar BBC Radio Wales roedd wedi rhybuddio pobl i beidio "anwybyddu'r rheolau" ynghylch cwrdd mewn tafarndai, gan gynnwys osgoi cynnal partïon plu a stag fel yr arfer.

"Dwi ddim eisiau i bobl fynd yn ôl i'r crôls tafarndai eto, gan anwybyddu'r cyngor ar faint o bobl ddylech chi fod yn yfed gyda," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwisgo mwgwd yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, ond nid mewn siopau

Dywedodd Mr Gething hefyd y byddai'n ceisio sicrhau'r ychwanegiad i gyflogau gweithwyr gofal sy'n hunan ynysu "mor fuan â phosib".

Mae disgwyl i'r manylion hynny gael ei gadarnhau gydag undebau, cyflogwyr a chynghorau lleol ond y bwriad, meddai, yw gwneud hynny o fewn "wythnosau yn hytrach na misoedd".

"Rydyn ni'n dod lan at yr hydref pan fydd mwy ohonom yn cael symptomau tebyg i coronafeirws," meddai.

"Bydd 'na bobl sydd i ffwrdd o'r gweithle, yn hunan ynysu a gwneud y peth iawn ac rydyn ni'n gwybod fod hyn yn risg."

Ysgolion yn aros i weld

Mae disgwyl penderfyniad erbyn dydd Mercher ar wisgo mygydau mewn ysgolion yng Nghymru, gyda Mr Gething yn dweud ei fod yn awyddus i roi gwybod i bobl "mor fuan ag sy'n bosib".

Bydd yn rhaid i ddisgyblion uwchradd yn Yr Alban wisgo masgiau yn y coridor, ardaloedd cymunedol ac ar fysus ysgol o ddydd Llun ymlaen.

Ychwanegodd Mr Gething nad oedd angen darparu profion coronafeirws yn benodol i ysgolion, gan fod y system sydd ar gael i'r cyhoedd archebu yn gweithio'n dda.

Doedd dim prinder chwaith yng Nghymru o'r citiau profi yn y cartref, meddai, er gwaethaf adroddiadau eu bod wedi rhedeg yn brin ohonynt yn Lloegr a'r Alban ddydd Llun.