Myfyrwyr BTec yn dal i aros am eu canlyniadau

  • Cyhoeddwyd
Two student mechanics repairing carFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae angen datrysiad "Cymreig" i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â chymwysterau wrth i fyfyrwyr aros am ganlyniadau BTec, meddai pennaeth Colegau Cymru.

Dywedodd Iestyn Davies fod angen gwneud mwy i gefnogi dysgwyr gyda chynnydd mewn cyrsiau galwedigaethol penodol i Gymru yn cael eu cyflwyno'r flwyddyn nesaf.

Cafodd canlyniadau BTec eu gohirio gan y bwrdd arholi Pearson yr wythnos diwethaf, gan adael miloedd o fyfyrwyr yn y niwl am eu marciau.

Fe ymddiheurodd Pearson am yr oedi, gan ddweud na fyddai unrhyw raddau yn cael eu gostwng.

Cafodd y canlyniadau eu gohirio gan Pearson er mwyn rhoi mwy o amser i'r bwrdd ail-gyfrifo'r graddau yn dilyn y cythrwfl yn ymwneud â'r canlyniadau Safon Uwch a TGAU.

Bydd yr holl ganlyniadau yn cael ei rhyddhau cyn dydd Gwener.

Fodd bynnag, cafodd graddau galwedigaethol gan fwrdd arholi CBAC eu rhyddhau ddydd Iau diwethaf.

Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi ymddiheuro am y ffordd y cafodd rhai canlyniadau eu rheoli a bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad annibynnol.

Ffynhonnell y llun, Huw Fairclough
Disgrifiad o’r llun,

Kirsty Williams AS yn siarad gyda myfyrwraig BTec yn Ysgol Stanwell, Penarth

Dywedodd Mr Davies ei bod yn hanfodol bod Ms Williams yn nodi telerau ei hadolygiad yn glir ac yn gyflym er mwyn sicrhau bod gan Gymru offer i fynd i'r afael ag unrhyw faterion addysg a allai effeithio ar fyfyrwyr yn y dyfodol.

"Bydd gennym hyd yn oed fwy o gymwysterau galwedigaethol y flwyddyn nesaf, sy'n benodol i Gymru.

"Bob blwyddyn wrth i ni symud ymlaen trwy'r gwaith y mae Cymwysterau Cymru wedi'i lunio, bydd mwy a mwy o gymwysterau a ddarperir yn ein colegau a'n hysgolion yn unigryw i Gymru, felly mae angen ateb 'Cymreig' i'r broblem, ac mae wedi bod yn deg er hynny ledled y DU", ychwanegodd.

"Yr her nawr i Gymwysterau Cymru, y rheoleiddiwr, i gyrff dyfarnu sy'n gweithio yng Nghymru, a'r llywodraeth yw gwneud pethau'n iawn i bobl ifanc yng Nghymru."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Iestyn Davies bod angen rhoi sicrwydd i fyfyrwyr y dyfodol

Mae BTec yn gymwysterau galwedigaethol sy'n darparu sgiliau yn y gwaith ar draws meysydd gan gynnwys busnes, gofal iechyd a pheirianneg.

Maen nhw'n cael eu hasesu trwy arholiadau, gwaith cwrs ymarferol ac, mewn llawer o achosion, lleoliadau yn y gweithle.

Dywedodd Dr Jennifer May Hampton, o Brifysgol Caerdydd, fod cymwysterau galwedigaethol yn aml yn rhan bwysig o'r dirwedd addysgol yng Nghymru sy'n cael ei hanwybyddu.

"Er bod llawer o'r sylw wedi bod yn canolbwyntio ar ganlyniadau Safon Uwch dros yr wythnosau diwethaf, mae'n bwysig nodi bod mwyafrif y bobl ifanc mewn addysg ôl-16 yng Nghymru yn cymryd rhyw fath o gymhwyster galwedigaethol," meddai.

Dywedodd fod cymwysterau Lefel tri, fel BTec, yn cyfateb i Safon Uwch ac y gellir eu defnyddio fel mynediad i'r brifysgol.

Dywedodd Dr Hampton fod y cyfnod estynedig hwn o oedi, a bod "bwydo canlyniadau fesul tamaid i fyfyrwyr" yn arwain at "ansicrwydd a straen diangen i'r unigolion hyn".