Yr ymateb i Covid-19 yn 'siom' i'r sector addysg bellach

  • Cyhoeddwyd
MyfyrwyrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Colegau Cymru eu bod yn parhau i bryderu am y cwestiynau niferus sydd heb eu hateb

Mae darparwyr addysg bellach wedi cael eu "siomi" gan Lywodraeth Cymru yn yr ymateb i'r pandemig coronafeirws, yn ôl Colegau Cymru.

Dywedodd y prif weithredwr, Iestyn Davies, ei bod wedi cymryd gormod o amser i gael y wybodaeth berthnasol i'r colegau.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau newydd i gynorthwyo darparwyr addysg bellach ar 31 Gorffennaf, tra bod colegau'n paratoi ar gyfer dechrau'r tymor newydd ym mis Medi.

Dywedodd llefarydd bod y llywodraeth wedi cydweithio'n agos â cholegau wrth ddatblygu'r canllawiau diweddaraf a'u bod yn cefnogi'r sector gyda dros £28m o gyllid ychwanegol i ymdopi â'r pandemig.

'Erfyn am eglurder'

Mae'r canllawiau'n cynnwys gwybodaeth am fesurau diogelu, gan gynnwys sut i fanteisio ar raglen profi, olrhain a diogelu a chyngor ar gyfarpar diogelu personol.

Dywedodd Colegau Cymru eu bod yn parhau i bryderu am y cwestiynau niferus sydd heb eu hateb a'u bod yn "erfyn am eglurder" cyn gynted â phosib.

"Mae'r canllawiau sy'n ymwneud â materion trafnidiaeth, dysgwyr agored i niwed a staff yn parhau i fod yn aneglur.

"Mae angen mwy o eglurder hefyd ynglŷn â darpariaeth ar gyfer dysgwyr â sgiliau dysgu annibynnol."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Iestyn Davies bod angen i'r canllawiau fod yn "ddigon hyblyg i adael i ni ddarparu addysg"

Mae sefydliadau addysg bellach yn unigryw a chymhleth yn ôl Mr Davies.

"Mae colegau yn wahanol o gampws i gampws ac o adran i adran felly mae'n bwysig bod ni'n cydnabod hynny tu fewn i unrhyw gyd-destun polisi," meddai.

"Mae gennym ni ddysgwyr ifanc sy'n dod o ysgolion, mae gennym ni oedolion sy'n dod 'nôl mewn i addysg, mae gennym ni bobl sydd yn dilyn cyrsiau academaidd a galwedigaethol i gyd o fewn yr un campws."

Dywedodd ei fod yn croesawu bod dysgwyr yn dychwelyd i golegau, ond bod angen i'r canllawiau fod yn "ddigon hyblyg i adael i ni ddarparu addysg yn ein colegau".

"Mae'r neges gan y sector addysg bellach i'r llywodraeth yn glir, sef bod eisiau cymorth, mae eisiau help ac wrth gwrs arian sydd yn sbesiffig i'r anghenion sy'n wynebu colegau addysg bellach."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Djainizio Brito yn dweud ei fod yn dal i aros am "yr holl fanylion bach" am ei gwrs sy'n dechrau ym mis Medi

Mae Djainizio Brito, sy'n 17, yn dweud ei fod yn "gyffrous" i ddechrau cwrs cynhyrchu a thechnoleg yn y cyfryngau creadigol ym mis Medi.

Ond oherwydd y pandemig, nid yw'n gwybod fawr ddim am gam nesaf ei addysg.

"Dwi'n gwybod beth dwi eisiau ei wneud. Dwi ddim yn gwybod pryd y byddaf yn gallu ei wneud neu a yw'n mynd i fod ar-lein neu wyneb yn wyneb," meddai.

"Yr holl fanylion bach y dylai person wybod erbyn hyn."

Mae rhai o gyfeillion Djainizio wedi penderfynu aros yn chweched dosbarth ei ysgol, a dywedodd fod ganddynt fwy o sicrwydd.

"Maen nhw'n gwybod yn barod beth maen nhw'n mynd i'w wneud y flwyddyn nesaf," meddai.

"Dydw i ddim yn gwybod pryd rydw i'n mynd i ddechrau neu hyd yn oed os ydyn ni'n dechrau ym mis Medi."

Fodd bynnag, mae'n cydnabod ei bod yn "anodd" i'r sefydliadau.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dafydd Evans eu bod yn cynllunio ar gyfer "gwahanol senarios"

Er nad yw myfyrwyr efallai wedi clywed llawer o fanylion gan golegau, mae'r sefydliadau wedi bod ar waith i sicrhau bod modd i fyfyrwyr ddychwelyd yn ddiogel, yn ôl prif weithredwr y sefydliad addysg bellach mwyaf yng Nghymru.

Dywedodd Dafydd Evans o Grŵp Llandrillo Menai bod "cynllunio gwahanol senarios wedi bod yn digwydd gan ein rheolwyr canol ni".

"Tydi'r myfyrwyr bob amser ddim yn ymwybodol o hyn a hwyrach bod gan y myfyrwyr beth pryder," meddai.

"Y peth pwysicaf i ni ar hyn o bryd ydy cyfathrebu hefo'r myfyrwyr y bydd 'na ddarpariaeth o ansawdd i'w ddisgwyl ym mis Medi."

Ychwanegodd mai'r "her fwyaf" oedd gwybod y bydd "cyfnodau lle fyddwn ni yn gorfod addasu'r ffordd 'da ni'n gweithredu" ar y ffordd, "a hwyrach y bydd 'na newid yn y data a bydd rhai ardaloedd yn cael eu cau lawr ac yn y blaen ac y bydd rhaid i ni felly fod yn fwy dibynnol ar adegau ynglŷn â dysgu o bell".

'Angen buddsoddiad eithaf sylweddol'

Os all y sefydliad oresgyn rhwystrau fel sicrhau offer cyfrifiadurol i bob dysgwr, dywedodd Mr Evans ei fod yn hyderus y gallai "fod yn llwyddiannus iawn blwyddyn nesa'".

"Dwi'n gwybod ein bod ni wedi cael peth arian yn barod, ond dydy o ddim ond yn crafu wyneb y broblem, a dwi'n credu bod rhaid i ni gal trafodaeth arall yn nhermau sicrhau bod pob myfyriwr yng Nghymru hefo'r offer digidol priodol i fedru gweithredu'n effeithiol," meddai.

"Ac mae angen buddsoddiad eithaf sylweddol i wneud hynny."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "darparu mwy na £3m ar gyfer offer digidol fel gliniaduron i ddysgwyr ôl-16" a hynny fel rhan o £28m maen nhw wedi ei ddarparu i gefnogi colegau a myfyrwyr drwy'r pandemig.

"Rydym wedi gweithio'n agos gyda cholegau wrth ddatblygu'r canllawiau diweddaraf, gan sicrhau ei fod mor gynhwysfawr â phosib, tra'n parhau i fod yn berthnasol i newidiadau cyflym ar lefel genedlaethol ar faterion allweddol fel ymbellhau cymdeithasol," meddai llefarydd.

"Rydym wedi ymateb i gwestiynau penodol gan Colegau Cymru ac rydym yn parhau i weithio gyda'r sector ac iechyd cyhoeddus Cymru i ddatrys ymholiadau a allai godi wrth i golegau roi'r canllawiau ar waith."

Ychwanegodd llefarydd y bydd y llywodraeth yn "parhau i weithio gyda'r sector yn ystod y cyfnod heriol hwn".