Canolfan Gymraeg Y Lle yn Llanelli wedi cau yn barhaol

  • Cyhoeddwyd
Y Lle
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Llywodraeth Cymru bod y ganolfan wedi derbyn £110,500 mewn cefnogaeth ariannol

Mae canolfan Gymraeg yn Llanelli wedi cau yn barhaol ac mae'r adeilad erbyn hyn ar werth.

Roedd Y Lle, a agorodd ei ddrysau yn 2014, yn un o'r canolfannau Cymraeg a dderbyniodd gyfanswm o £2.5m o goffrau Llywodraeth Cymru.

Mae cofnodion y Gofrestrfa Tir yn dangos y cafodd yr adeilad ei brynu am £60,000 ym mis Gorffennaf 2013 gan Owain Glenister, oedd yn gyfrifol am sefydlu'r ganolfan.

Doedd Mr Glenister ddim ar gael i wneud cyfweliad ond dywedodd wrth BBC Cymru ei fod wedi buddsoddi ei arian ei hun yn yr adeilad, ond fod y cynllun wedi dod i ben ar ôl cyfnod o bum mlynedd.

Roedd yn dweud hefyd bod ei amgylchiadau personol wedi newid ers sefydlu'r ganolfan.

'Trist ond ddim yn syndod'

Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru bod y ganolfan wedi derbyn cyfanswm o £110,500 mewn cefnogaeth ariannol.

Mae'r adeilad ar werth gyda chynigion o dros £110,000 yn cael eu croesawu.

Yn ôl Helen Mary Jones, AS Plaid Cymru dros Orllewin a Chanolbarth Cymru, mae'r newyddion bod Y Lle ar gau ac ar werth yn "drist iawn ond ddim yn syndod".

Mae hi'n dweud bod yna amheuon wedi bod am y "model o ariannu" ers y dechrau.

"Roedd pobl yn gofyn ar y pryd, pwy mor gynaliadwy ydy'r model yna achos roedd arian ar gael i brynu adeilad... roedd arian ar gael i brynu nwyddau fel cyfrifiaduron ond dim cefnogaeth a chymorth i gadw'r Lle i fynd," meddai.

"Mewn ardal dlawd fel Llanelli roedd e wastad yn mynd i fod yn anodd i godi arian i gadw'r Lle i fynd. Os ydy'r llywodraeth yn ddifrifol am sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg, mae angen buddsoddiad tymor hir nid jyst grantiau one off."

Mae Manon Elin James, wnaeth gwblhau gwaith ymchwil ar y canolfannau Cymraeg dair blynedd yn ôl, hefyd yn dweud fod hynny yn broblem.

"Mae hi'n syndod bod Y Lle wedi cau ac yn drueni," meddai. "Pan wnes i'r gwaith ymchwil, roedd Y Lle yn un o'r llefydd mwyaf llwyddiannus ac yn cynnal llawer o weithgareddau, yn enwedig i bobl ifanc.

"Dwi'n teimlo bod hyn yn amlygu y broblem gyda grant y llywodraeth, mai dim ond cyllid i sefydlu'r canolfannau oedd i gael yn hytrach na chymorth ariannol hir dymor."

Disgrifiad o’r llun,

Fe agorodd Y Lle ei ddrysau yn 2014

Wrth ymateb i'r feirniadaeth, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae cynnal gofodau Cymraeg yn ganolog i'n gweledigaeth - ac mae'r canolfannau i gyd wedi cyfrannu mewn ffyrdd gwahanol i'r weledigaeth hon mewn cydweithrediad gyda'r holl bartneriaid.

"Mae'n rhaid i bolisi iaith addasu i gyd-destun sy'n newid yn barhaus. Byddwn yn plethu gwersi pwysig y canolfannau yma wrth ddatblygu polisïau newydd."

'Bywyd Cymraeg diwylliannol ar stop'

Mae'r Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd hefyd wedi cau eu drysau yn ddiweddar, ac mae yna bryder nawr am effaith Covid-19 ar ganolfannau eraill.

Yn ôl Heini Gruffudd, un o gyfarwyddwyr Tŷ Tawe a chadeirydd Dyfodol i'r Iaith, mae'r sefyllfa yn "anodd iawn".

"Mae'r bywyd Cymraeg yn dibynnu ar sefydliadau. Y gwir amdani, dyw'r sefydliadau hynny ddim wedi gallu cyfarfod," meddai.

"Mae'r bywyd Cymraeg diwylliannol ar stop am bedwar, bum mis. Mae'n anodd iawn i ni yn Tŷ Tawe. Mae gyda ni rhyw £20,000 wrth gefn, felly rwy'n gobeithio y byddwn ni yn goroesi, ond fe fyddwn ni yn colli llawer iawn o incwm. Mae'n rhaid i ni chwilio am ffynonellau ariannol newydd."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Yr Hen Lyfrgell ei hagor yn swyddogol ym mis Chwefror 2016

Mae Mr Gruffudd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi cefnogaeth ariannol i gefnogi Tŷ Tawe a chanolfannau tebyg "yn yr un modd" ag a roddwyd cefnogaeth i faes y celfyddydau.

"Mae angen arolwg o beth sydd yn digwydd i ganolfannau Cymraeg ac i'r bywyd Cymraeg ledled y wlad," meddai.

Wrth ymateb i'r alwad honno, dywedodd Llywodraeth Cymru bod "cynnal gofodau Cymraeg yn ganolog i'n gweledigaeth".

"Mae'n rhaid i bolisi iaith addasu i gyd-destun sy'n newid yn barhaus. Does dim amheuaeth bod cael peuoedd saff i ymwneud â'r Gymraeg yn bwysig, ond efallai bod y pandemig wedi gorfodi gwthio ffiniau ac ystyried ffyrdd newydd i greu y bwrlwm hwn," meddai llefarydd.

"Yn sicr mae ein partneriaid Cymraeg i gyd, wedi ymateb yn bositif iawn i'r her ac i'r cyfleoedd newydd y mae'r pandemig wedi ei gyflwyno. Mae creu bwrlwm ieithyddol gymunedol yn hollbwysig a byddwn yn parhau i gefnogi ein cymunedau i arloesi yn y Gymraeg dros y ddegawd nesa."

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths o Gyngor Sir Gâr, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol sy'n gyfrifol am ddatblygu'r Gymraeg bod "Menter Gwendraeth Elli bellach yn cwmpasu ardal Llanelli, yn ogystal â Chwm Gwendraeth, ac mae'r cyngor sir yn ychwanegu ei gefnogaeth ariannol a gweithredol i'r holl fentrau yn y sir".