Ymweliadau â chartrefi gofal yn gynt na'r disgwyl

  • Cyhoeddwyd
GofalFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe fydd ymweliadau dan do â chartrefi gofal oedolion a phlant yn cael ailddechrau o ddydd Gwener meddai Llywodraeth Cymru.

Mae hyn ddiwrnod yn gynt na'r hyn oedd wedi ei gyhoeddi'n flaenorol.

Pwysleisiodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething mai canllaw yn unig yw'r dyddiad ailagor, ac mai penderfyniad pob sefydliad unigol yw pryd yn union y bydd modd iddyn nhw groesawu ymwelwyr drwy eu drysau unwaith eto.

Dywedodd Mr Gething: "Bydd y cadarnhad hwn yn newyddion da iawn i gymaint o bobl ledled Cymru.

"Mae cyfyngu ar ymweliadau â chartrefi gofal wedi bod yn gwbl angenrheidiol i ddiogelu rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau rhag effeithiau niweidiol COVID-19 ond rydym yn llwyr werthfawrogi'r effaith y mae hyn wedi'i chael ar breswylwyr a'u hanwyliaid."

Ychwanegodd: "O ystyried y manteision i les preswylwyr, rwy'n gobeithio y gall llawer o gartrefi ddiweddaru eu gweithdrefnau yn gyflym i allu cynnal ymweliadau dan do yn ddiogel.

"Serch hynny, rwy'n gwerthfawrogi'r pryder a fydd gan rai darparwyr ynghylch y newid arwyddocaol hwn, ac y gall fod angen ychydig mwy o amser ar rai i roi trefniadau ar waith.

"Byddwn i'n annog teuluoedd a chyfeillion i fod yn amyneddgar wrth i gartrefi ddechrau gweithio drwy'r ystyriaethau ymarferol i hwyluso ymweliadau dan do unwaith eto."

Mae'r newid yn y drefn yfory yn berthnasol hefyd i hosbisau a llety diogel i blant a phobl ifanc medd y llywodraeth.