Covid 19: Prifysgol Caerdydd yn sefydlu canolfan brofi

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol CaerdyddFfynhonnell y llun, Colin Smith/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Prifysgol Caerdydd yn annog myfyrwyr i gael prawf coronafeirws yn y coleg

Mae Prifysgol Caerdydd wedi sefydlu gwasanaeth profi haint coronafeirws ei hun ac yn "annog myfyrwyr" sy'n cyrraedd ym mis Medi i'w ddefnyddio.

Bydd myfyrwyr yn cael gwahoddiad i gael prawf ond bydd yn rhaid iddynt wneud hynny o'u gwirfodd. Dyw'r prawf ddim yn orfodol.

Dywed Prifysgol Abertawe eu bod nhw wedi ystyried gwasanaeth o'r fath ond eu bod, wedi cyngor gan y bwrdd iechyd lleol, wedi penderfynu yn erbyn hynny.

Dywed Llywodraeth Cymru nad ydyn nhw'n argymell cynnal profion yn fewnol ac mai prifysgolion ddylai benderfynu os ydynt am gynnig gwasanaeth o'r fath.

Daw'r newyddion wrth i undeb yr UCU ddweud y gallai miliwn o fyfyrwyr, wrth symud ar draws y DU yn ystod y dyddiau nesaf, achosi ton newydd o achosion.

Mae'r undeb yn galw am gael gwared â dysgu wyneb yn wyneb tan y Nadolig.

'Amddiffyn cymuned Caerdydd'

Mewn e-bost at fyfyrwyr dywed dirprwy is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, Claire Morgan, y bydd myfyrwyr yn cael eu gwahodd i un canolfan brofi i gael "prawf cwbl ddiogel na sy'n rhaid poeni amdano".

"Er bod y prawf yn wirfoddol," meddai, "ry'n yn eich annog i gael y prawf ac amddiffyn cymuned Caerdydd.

"Y mwyaf eich ymrwymiad chi, mwyaf fydd effaith y gwasanaeth i'n cadw ni gyd yn ddiogel."

Ychwanegodd Ms Morgan y byddai unrhyw un sy'n cael prawf positif yn gorfod hunan-ynysu ac os byddant yn byw gydag eraill bydd yn rhaid i rheiny aros adref ac hunan-ynysu hefyd.

"Byddwn yn gweithio yn agos gyda'r Gwasanaeth Iechyd er mwyn darparu cefnogaeth ychwanegol os oes ei angen," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Prifysgol Abertawe na fyddan nhw yn cynnwys gwasanaeth profi wedi cyngor gan y bwrdd iechyd lleol

Dywed Prifysgol Caerdydd eu bod yn "paratoi'n hynod ofalus ar gyfer dyfodiad myfyrwyr".

Ychwanegodd llefarydd: "Mae trafodaethau am gyflwyno ein gwasanaeth profi ein hunain a chreu cysylltiadau agos gyda'r GIG ac awdurdodau iechyd cyhoeddus eraill yn parhau."

Prifysgolion eraill

Dywed Andrew Rhodes, prif swyddog gweithredol Prifysgol Abertawe eu bod nhw wedi penderfynu peidio cael gwasanaeth profi mewnol wedi cyfarfod gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

"Roeddent yn bendant na fyddent yn rhoi cefnogaeth i'r brifysgol gael cynllun profi ei hun a dyna pam na fyddwn yn cynnig y gwasanaeth," meddai.

"Roeddent yn bendant na fyddai'r profion yn rhan o'r system profi, olrhain a diogelu."

Dywed Prifysgol Aberystwyth y byddan nhw yn dilyn cyngor Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru na fyddan nhw yn cynnig profion mewnol a dywedodd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam na fyddan nhw'n "mynnu" bod myfyrwyr yn cael eu profi.

Mae Prifysgol Bangor a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant wedi cael cais am sylw.

Yn ôl llywydd Undeb Myfyrwyr Cymru, Becky Ricketts, dylai iechyd myfyrwyr fod yn flaenoriaeth i brifysgolion.

"Dylai unrhyw fyfyriwr neu aelod o staff sy'n dysgu wyneb yn wyneb gael eu profi'n gyson a chael rhwydd hynt i ganolfan brofi yn lleol," meddai.

"Ry'n yn annog Llywodraeth Cymru a phrifysgolion i gydweithio er mwyn ystyried sut y gall hyn ddigwydd ar draws Cymru."

Dywed Llywodraeth Cymru nad yw profi'n fewnol yn cael ei argymell ond bod prifysgolion unigol yn gallu cynnig y gwasanaeth petaent yn dymuno.