Pro 14: Gleision 29-20 Gweilch
- Cyhoeddwyd
Fe orffennodd Gleision Caerdydd tymor y Pro 14 yn llwyddiannus yn eu cartref dros dro ar faes Rodney Parade wedi buddugoliaeth yn erbyn y Gweilch.
Sicrhaodd Jason Tovey 19 pwynt (dau drosiad a phump cic gosb) a chafwyd dau gais gan Josh Adams a Jason Harries.
Dan Evans a sgoriodd i'r Gweilch yn gyntaf ac roedd yna gais hwyr i Luke Morgan. Fe ddaeth y pwyntiau eraill drwy drosi llwyddiannus gan Stephen Myler a Mat Protheroe a Myler hefyd a sicrhaodd weddill y pwyntiau wedi dwy gic gosb.
Mae tîm Toby Booth felly yn gorffen ar waelod Grŵp B.
Dyma gêm olaf y tymor 2019-20 i'r timau o Gymru a Leinster, Munster, Ulster a Chaeredin fydd yn chwarae yng ngemau cyn-derfynol y Pro14.
Bydd y Scarlets a'r Dreigiau yn herio Toulon a Bryste ganol Medi ond bydd yn rhaid i'r Gleision a'r Gweilch aros tan wythnos gyntaf fis Hydref cyn chwarae yng ngemau'r tymor newydd.
Cafodd gêm heddiw ei chynnal ar Rodney Parade am fod Parc yr Arfau yn rhan o ysbyty maes Stadiwm y Principality.
Y timau
Gleision Caerdydd: Matthew Morgan; Jason Harries, Garyn Smith, Max Llewellyn, Josh Adams; Jason Tovey, Lloyd Williams; Corey Domachowski, Liam Belcher, Dmitri Arhip, Seb Davies, Josh Turnbull, Shane Lewis-Hughes, James Botham, Josh Navidi (capten).
Eilyddion: Ethan Lewis, Brad Thyer, Scott Andrews, James Ratti, Sam Moore, Lewis Jones, Ben Thomas, Ioan Davies.
Gweilch: Dan Evans; Dewi Cross, Owen Watkin, Tiaan Thomas-Wheeler, Luke Morgan; Stephen Myler, Rhys Webb; Rhodri Jones, Scott Otten, Tom Botha, Bradley Davies, Alun Wyn Jones, Olly Cracknell, Justin Tipuric (capten), Gareth Evans.
Eilyddion: Dewi Lake, Nicky Smith, Nicky Thomas, Adam Beard, Morgan Morris, Reuben Morgan-Williams, Mat Protheroe, Kieran Williams.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Awst 2020
- Cyhoeddwyd22 Awst 2020