Gyrwyr anghyfreithlon yn difrodi safleoedd pwysig

  • Cyhoeddwyd
sign

Dywed yr heddlu fod safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn y canolbarth yn cael eu difrodi gan bobl sy'n gyrru oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon.

Mae tîm troseddau cefn gwlad Heddlu Dyfed-Powys wedi cynyddu patrolau yng Ngheredigion yn ardal Llynnoedd Teifi ger Ffair Rhos ac yng Nghoedwig Tywi.

Maen nhw'n poeni am bobl sy'n defnyddio rhan anghysbell o'r canolbarth fel "maes chwarae".

Yn ystod y cyfnod clo, fe gafodd dirwyon eu rhoi i bobl a oedd wedi teithio i'r ardaloedd hyn er mwyn gyrru oddi ar y ffyrdd.

Ers i gyfyngiadau gael eu lleddfu, bu mwy o achosion o'r fath.

GLASS - neu'r Green Lane Association - yw'r grŵp sy'n cynrychioli pobl sy'n gyrru ar ffyrdd sydd heb eu tarmacio.

Mae yna hen lonydd, neu gilffyrdd, lle mae'n gyfreithlon i yrru cerbyd.

Mae gan y sefydliad dros 4,000 o aelodau ledled Prydain ac mae'n gweithio gyda'r heddlu i dargedu "gyrru oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon" sydd, meddai'r gymdeithas, yn cael effaith negyddol ar hobi cyfreithlon.

'Perthynas wych'

Dywedodd Lauren Eaton o'r gymdeithas: "Mae Cymru yn rhywle i fynd iddo, o ran gyrru ar lonydd gwyrdd, mae'n hynod boblogaidd.

"Mae'n debyg bod gan fwy o bobl ddiddordeb mewn gyrru ar lonydd gwyrdd nawr.

"Yr hyn nad oes ganddyn nhw ddiddordeb ynddo o reidrwydd yw ymuno â sefydliadau.

"Felly, yn hytrach na gofyn am gyngor a help maen nhw'n ceisio ei wneud eu hunain heb y wybodaeth i'w wneud yn gyfreithlon.

"Bydden i'n hoffi gweld yr heddlu'n gwneud mwy yn bendant. Mewn rhai ardaloedd mae gennym berthynas wych gyda'r heddlu."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu wedi cynyddu eu patrolau yn yr ardal

Mae'r heddlu'n cyd-weithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i dargedu gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd.

Dywedodd Jim Ralph, rheolwr ardal goedwigaeth CNC: "Gall gyrru beiciau modur oddi ar y ffordd fod yn boblogaidd iawn - fodd bynnag, gellir defnyddio'r cerbydau hyn hefyd mewn ffordd beryglus, swnllyd a gwrthgymdeithasol, gan gynhyrchu llawer o gwynion i ni a'r heddlu.

"Ry'n ni'n derbyn cwynion yn rheolaidd ynghylch y defnydd gwrthgymdeithasol o feiciau modur oddi ar y ffordd."

Mae gyrru oddi ar y ffordd yn gyfreithlon ar rwydwaith o ffyrdd cyhoeddus hynafol a hawliau tramwy lle caniateir mynediad i gerbydau.

Mae'r rhain yn cael eu galw'n "lonydd gwyrdd".

Disgrifiad o’r llun,

"Ni'n credu dylai pobl barchu'r ardal yn fwy," meddai Charlotte Carter

Mae lonydd gwyrdd yn ardal Llynnoedd Teifi a Choedwig Tywi - ond mae'r heddlu'n poeni am rai perchnogion cerbydau sy'n gadael y lonydd hyn ac yn gyrru ble bynnag maen nhw'n dewis.

Wrth gyfeirio at ardal Llynnoedd Teifi dywedodd yr Arolygydd Matthew Howells o Heddlu Dyfed-Powys: "Ni'n cael 4x4s, scramblers yn dod lan i ardaloedd fel hyn.

"Mae hawl 'da pobl i fynd off-road, ond un o'r problemau sy' 'da ni yw pobl yn mynd bant o'r green lanes.

"Mae'r scramblers yn enwedig yn mynd ble bynnag maen nhw mo'yn mynd. So nhw'n gwybod dim am y green lanes.

"Yn yr ardal yma mae lot o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, felly ni'n gweithio'n agos gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i daclo'r broblem o ddifrod i'r ardaloedd hynny."

'Rhoi cerbyd ar dân'

Mae'r heddlu wedi gweld achosion o ddifrod i dir a giatiau, aflonyddu ar anifeiliaid a niwed i'r amgylchedd.

Yn ôl yr Arolygydd Howells mae nifer o'r bobl sy'n gyfrifol am y gyrru anghyfreithlon yn dod mewn i Gymru o dros y ffin - a bu rhai yn gwneud hynny hefyd yn ystod y cyfnod clo.

"Roedd hi'n brysur yma yn ystod y lockdown, yn enwedig pan wnaeth Lloegr agor lan cyn Cymru," meddai.

"Cawson ni broblemau am ddwy neu dair wythnos gyda phobl yn dod lawr mewn gangiau o tua 10 neu 15 o bobl gyda'i gilydd, gyda scramblers yng nghefn fan.

"Does dim maps 'da nhw, ddim yn gwybod ble o'n nhw, jest yn chwilio am le i fynd i chwarae ar y beics."

Mewn un achos, daeth yr heddlu o hyd i gerbyd 4x4 a oedd wedi'i adael a'i roi ar dân mewn afon.

Ffynhonnell y llun, Empics
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio ar y cyd i dargedu troseddwyr

Dywedodd Charlotte Carter, swyddog cymorth cymunedol gyda Heddlu Dyfed-Powys: "O'n nhw wedi mynd bant o'r green lane ac wedi mynd lawr un ochr yr afon ond roedd e bach yn rhy ddwfn iddyn nhw, ac roedd yn drafferth cael e mas felly gwnaethon nhw benderfynu gadael e 'na a chynnau tân ac yn anffodus gadael e lle'r oedd e.

"Mae'n gwneud ni'n bach yn grac fel swyddogion achos ni'n credu dylai pobl barchu'r ardal yn fwy."

Mae gan yr heddlu bŵer i gipio beiciau a cheir sy'n cael eu defnyddio mewn ffordd sy'n aflonyddu, dychryn neu'n achosi pryder.

Rhoddir rhybudd yn gyntaf ond os defnyddir y cerbyd mewn modd gwrthgymdeithasol eto, bydd yn cael ei gymryd oddi arnynt.

"Y cyngor yw peidio mynd wyneb yn wyneb gyda'r bobl yma achos pan mae gang o 10 neu ddwsin o bobl a chi'n trio stopio nhw fe allai hynny droi yn broblem," meddai'r Arolygydd Howells.

"Y peth gorau i wneud yw ffonio'r heddlu - ni yn yr ardal bron pob penwythnos nawr, felly cysylltu gyda ni i ni ymateb yn glou."