Ysgolion: Ystyried newid amserlen arholiadau

  • Cyhoeddwyd
School children in playground

Yn ystod cynhadledd y wasg Llywodraeth Cymru ddydd Mawrth dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams fod Cymwysterau Cymru, y corff sy'n rheoleiddio cymwysterau, mewn trafodaethau gyda rheoleiddwyr eraill yn y DU am newidiadau posib yn amserlen arholiadau yn yr haf.

Dywedodd fod y cydbwyllgor addysg eisoes wedi dweud wrth athrawon am addasu cyrsiau er mwyn hwyluso'r gwaith o asesu.

Dywedodd fod y newidiadau hyn yn mynd ymhellach nag yn Lloegr.

Ond ychwanegodd y byddai gohirio arholiadau yn cael effaith ar bethau fel dilyniant addysg a'r diwrnod canlyniadau.

Dim dirwyo

Yn gynharach ddydd Mawrth, dywedodd Ms Williams y bydd y drefn ar gyfer dirwyo rhieni sydd ddim yn danfon eu plant yn ôl i'r ysgol yn cael ei adolygu yn ôl y gweinidog addysg.

Daw sylwadau Kirsty Williams wrth i blant baratoi i ddychwelyd i'r ysgol ar ôl gwyliau'r haf.

Oherwydd pryderon am coronafeirws bydd dirwyon am driwantiaeth ddim yn cael eu rhoi ar ddechrau'r flwyddyn academaidd.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Kirsty Williams: 'Angen rhoi sicrwydd i rieni'

Dywedodd Ms Williams fod angen rhoi sicrwydd i rieni fod pethau'n ddiogel yn hytrach "na'u bygwth gyda dirwyon."

Fe wnaeth ysgolion Cymru ailagor ddiwedd Mehefin am dair wythnos cyn gwyliau'r haf ar ôl y cyfnod clo.

Ond yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru fe wnaeth bron i 40% o ddisgyblion benderfynu peidio dychwelyd.

Wrth gyfeirio at y cyfnod cyn gwyliau'r haf dywedodd Ms Williams bod rhai rheini wedi bod yn bryderus am y sefyllfa.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth ysgolion Cymru ailagor am dair wythnos cyn gwyliau'r haf

"Ond wrth i rieni weld plant eraill yn dychwelyd i'r ysgol, a bod hyn yn cael ei wneud mewn modd mor ddiogel â phosib, a bod plant yn cael budd, fel welsom hyder rhieni yn dychwelyd," meddai mewn cyfweliad ar raglen Breakfast BBC Radio Wales.

Dywedodd y byddai'r sefyllfa yn cael ei adolygu yn ystod y tymor, gan gynnwys rhoi dirwyon i rieni'r plant sy'n absennol.

"Rydym am gael trafodaethau er mwyn rhoi sicrwydd i rieni, yn hytrach nag eu bygwth gyda dirwyon," meddai.

Profion i staff a disgyblion

Dywedodd Ms Williams fod dychwelyd i'r ysgol yn "allweddol" ar gyfer datblygiad ac iechyd plant a bod pob cam yn cael ei gymryd i leihau risg.

Ychwanegodd er bod popeth yn cael ei wneud i sicrhau fod ysgolion mor ddiogel â phosib, doedd yna ddim opsiynau oedd yn gwbl rydd rhag risg yn ystod y pandemig.

Pwysleisiodd ei bod yn bwysig fod plant ysgol yn cael profion pe baent yn dangos symptomau.

"Bydd pob plentyn sy'n tagu yn barhaol, gyda thymheredd neu yn colli blas a gallu arogli yn gorfod cael prawf," meddai.

"Rwy'n gwerthfawrogi wrth i ni ddod at gyfnod y gaeaf bod modd drysu hyn gydag anhwylderau eraill ond ar hyn o bryd bydd angen i unrhyw blentyn neu aelod o staff sy'n dangos unrhyw symptomau gymryd prawf."

Disgrifiad o’r llun,

Disgyblion yn protestio cyn i'r llywodraeth newid meddwl am y broses o ddyfarnu cymwysterau

'Adnoddau ychwanegol'

Yn ôl Ms Williams byddai adolygiad corff annibynnol sy'n edrych ar yr hyn ddigwyddodd i'r broses o ddyfarnu cymwysterau eleni yn cael ei adrodd ym mis Hydref, gydag adroddiad terfynol ac argymhellion yn cael eu rhyddhau ganol Rhagfyr.

Dywedodd y byddai gwersi yn cael eu dysgu.

Yn ystod y gynhadledd cyfeiriodd at waith ymchwil oedd yn codi pryderon am effaith colli ysgol ar addysg plant - yn enwedig ar fechgyn a disgyblion o gartrefi difreintiedig.

Dywedodd fod £29m yn ychwanegol wedi ei ddarparu ar gyfer cynghorau Cymru, er mwyn rhoi mwy o adnoddau i ysgolion i roi ffocws penodol ar ddisgyblion fydd yn eistedd arholiadau allanol a'r "addysgwyr mwyaf bregus".

Pryderon eraill

Yn y gynhadledd, fe wnaeth y gweinidog hefyd son am bryderon Llywodraeth Cymru am ddiffyg cyfyngiadau posib ar awyren ddaeth i Gaerdydd o Zante wythnos yn ôl.

Bydd rhaid i bron 200 o bobl hunan ynysu am bythefnos wedi i nifer o deithwyr ar awyren Tui brofi'n bositif am Covid-19.

Dywedodd Ms Williams fod y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, yn siarad gyda'r bobl berthnasol ac y bydd yn gwneud datganiad yn ddiweddarach.

Dywedodd Ms Williams hefyd ei bod yn deall rhwystredigaeth pobl Banwen ger Bannau Brycheiniog lle cafodd rêf anghyfreithlon ei gynnal dros y penwythnos.

Dywedodd: "Yr hyn fyddwn i'n dweud wrth bobl aeth yno yw hyd yn oed os nad yw'n bryder i chi eich bod yn peryglu eich iechyd eich hunan, cofiwch eich bod yn mynd adre at anwyliaid ac i'ch cymuned."