Arholiadau: Adolygiad i ddysgu gwersi 'hanfodol'

  • Cyhoeddwyd
CanlyniadauFfynhonnell y llun, PA Media

Mae manylion adolygiad annibynnol o'r broses o ddyfarnu canlyniadau arholiadau yng Nghymru'r haf hwn wedi eu cyhoeddi gan y gweinidog addysg.

Dywedodd Kirsty Williams ei fod yn "hanfodol fod gwersi'n cael eu dysgu" o'r profiad eleni.

Fe ymddiheurodd y gweinidog "yn ddiamod" am y modd y deliwyd gyda chanlyniadau Safon Uwch disgyblion, wedi i'r llywodraeth wneud tro pedol ar y ffordd yr oedd graddau'n cael eu safoni.

Roedd miloedd o ganlyniadau Lefel A wedi eu gostwng yn wreiddiol dan broses safoni, cyn i asesiadau athrawon gael eu defnyddio wedi gwrthwynebiad chwyrn.

Mae Ms Williams wedi cadarnhau y bydd yr adolygiad annibynnol "yn ystyried cwestiynau allweddol sydd wedi codi yn sgil y trefniadau a sefydlwyd ar gyfer cymwysterau yr haf hwn, a'r heriau a wynebwyd yn 2020".

"Mae'n hanfodol bod gwersi yn cael eu dysgu yn sgil profiad eleni, er mwyn gallu llunio argymhellion a nodi materion i'w hystyried ar gyfer 2021.

"Bydd yr argymhellion hyn yn canolbwyntio ar anghenion ein dysgwyr a'u cynnydd, ac ar yr angen i barhau i gynnal safonau ac uniondeb y system addysg a chymwysterau yma yng Nghymru.

Myfyrwyr yn dal baneri mewn protest yn erbyn eu graddau Safon Uwch
Disgrifiad o’r llun,

Myfyrwyr yn dal baneri mewn protest yn erbyn eu graddau Safon Uwch ym mae Caerdydd wedi cyhoeddi'r canlyniadau gwreiddiol

Dywedodd Ms Williams y bydd yr adolygiad yn cael ei gadeirio gan Gyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru, Louise Casella.

Ychwanegodd ei bod wedi gofyn am "adroddiad interim o'r prif ganfyddiadau erbyn diwedd Hydref, ac adroddiad terfynol ac argymhellion erbyn canol Rhagfyr" o achos "angen dybryd i sefydlu mesurau ar gyfer cyfres arholiadau 2021".