'Amhosib' cael un rheol i bawb ar fygydau mewn ysgolion
- Cyhoeddwyd
Mae Gweinidog Addysg Cymru'n dweud ei bod yn "amhosib" cael un rheol ar gyfer yr holl wlad ar wisgo mygydau mewn ysgolion uwchradd.
Dywedodd Kirsty Williams wrth Radio Wales bod prifathrawon yn "ddigon galluog" i wneud y penderfyniad ar gyfer yr ysgolion unigol.
Ychwanegodd hefyd bod ganddi bryder y gallai gwneud gwisgo masgiau yn orfodol arwain at fwlio.
Daw ei sylwadau wedi i undeb NAHT Cymru, sy'n cynrychioli prifathrawon, ddweud ei bod yn "annerbyniol disgwyl i arweinwyr ysgolion ysgwyddo'r baich".
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi galw am dynnu'r cyngor newydd yn ôl a chyhoeddi "canllawiau clir" yn eu lle.
Mygydau â 'rôl i'w chwarae'
Brynhawn Mercher fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru mai ysgolion a chynghorau fydd yn penderfynu a oes angen i ddisgyblion wisgo mygydau mewn ysgolion ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod gan orchuddion wyneb "rôl i'w chwarae mewn ysgolion" mewn ardaloedd sy'n gweld nifer cynyddol o achosion o Covid-19.
Nid yw'r llywodraeth wedi gorfodi defnydd mygydau, ac yn hytrach fe fydd angen i ysgolion a cholegau gwblhau "asesiadau risg" o'u hadeiladau.
"Mae pob un o'n hysgolion uwchradd mewn sefyllfaoedd gwahanol iawn," meddai Ms Williams fore Iau.
"Mae'n amhosib ar hyn o bryd, gyda chyfraddau trosglwyddo yn y gymuned yn isel, i gael un penderfyniad i bawb.
"Rwy'n credu ein bod yn llawer mwy tebygol o gael mwy i gydymffurfio a defnyddio mygydau yn llwyddiannus os ydyn ni'n galluogi i'r bobl leol wneud y penderfyniadau yna."
Dywedodd cyfarwyddwr NAHT Cymru, Laura Doel: "Nid yw prifathrawon yn arbenigwyr meddygol ac ni ddylai Llywodraeth Cymru eu rhoi yn y sefyllfa yma."
Fe wnaeth UCAC groesawu'r datganiad, ond gan feirniadu ei amseriad a'r "cyfrifoldeb ychwanegol ar ein penaethiaid".
Ond dywedodd David Evans o NEU Cymru: "I ni mae'r datganiad yn glir - mewn llefydd lle nad oes modd cadw pellter cymdeithasol, mae angen i bawb dros 11 wisgo mwgwd, gan gynnwys mewn ysgolion ac ar drafnidiaeth."
'Arbenigwyr ar sut i redeg ysgolion'
Yn ymateb i feirniadaeth NAHT Cymru dywedodd Ms Williams: "Mae'r NAHT yn gywir, dydy ein harweinwyr ysgolion ddim yn arbenigwyr meddygol - maen nhw'n arbenigwyr addysg, ac maen nhw hefyd yn arbenigwyr ar sut i redeg eu hysgolion.
"Mae 'na wahaniaeth barn, ac yn anffodus does 'na ddim byd yn syml gyda Covid-19.
"Ry'n ni'n gwneud y penderfyniad yma ar sail canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd, sydd wedi cael ei adolygu gan ein hymgynghorwyr gwyddonol ni yn Llywodraeth Cymru a swyddfeydd y Prif Swyddog Meddygol."
Ychwanegodd Ms Williams ei bod yn credu y gallai cael un rheol i bawb arwain at wahaniaethu neu fwlio.
"Mae'n bosib y bydd 'na rai plant ble nad yw hi'n addas iddyn nhw orchuddio eu hwynebau," meddai.
"Fe allai hynny fod am reswm meddygol, ac efallai nad ydy gweddill yr ysgol neu eu cyfoedion yn ymwybodol o hynny.
"Dyna pam na allwch chi gael un rheol i bawb - mae'n rhaid i ni ystyried ar lefel leol, ac mae barn plant yn bwysig iawn."
Er eu bod wedi croesawu cyhoeddiad y llywodraeth, dywedodd ysgrifennydd cyffredinol UCAC, Dilwyn Roberts Young ei fod "yn ddifrifol o hwyr".
"Mae'n hynod o siomedig mai dim ond dau ddiwrnod cyn dechrau'r tymor y daw'r cyhoeddiad yma, gan y bydd yn rhaid i'n penaethiaid ailedrych ar eu hasesiadau risg ac ar holl systemau diogelwch yr ysgol i wirio bod angen defnyddio gorchuddion wyneb a'u bod yn cael eu cadw wrth gyrraedd yr ystafell ddosbarth.
"Mae'n siom hefyd nad yw Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud hi'n orfodol gwisgo gorchuddion wyneb yn ein hysgolion gan ychwanegu cyfrifoldeb ychwanegol ar ein penaethiaid."
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi dweud bod penderfyniad y llywodraeth yn "golygu y bydd ysgolion ac awdurdodau lleol unigol ar ben eu hunain".
Mewn llythyr at y prif weinidog, dywedodd Adam Price: "Rydw i'n ennyn arnoch i dynnu'r cyngor yma'n ôl a chyhoeddi canllawiau clir sy'n rhoi'r arweiniad cenedlaethol mae'r gymuned addysg yng Nghymru yn edrych amdano."
'Hollol annheg ar ysgolion'
Dywedodd Dr Eilir Hughes, sy'n feddyg teulu yn Llŷn wrth y Post Cyntaf bod Llywodraeth Cymru o bosib ddim yn gwerthfawrogi effaith gwisgo mygydau.
"Yr hyn dwi'n bryderus iawn amdano ydy bod datganiad y llywodraeth yn rhoi neges gamarweiniol i bobl am be' ydy potensial defnyddio mygydau er mwyn gostwng risg y lledaeniad," meddai.
"'Da ni'n gwybod oherwydd y wyddoniaeth sydd wedi'i wneud dros y misoedd diwetha' bod mygydau, ynghyd ag elfennau eraill yn yr amgylchedd dan do, yn gallu cael effaith fawr ar ostwng y risg o ledaeniad.
"Dyna ydy ysgolion - bod dan do mwyafrif yr amser, dydy'r awyru yn aml iawn ddim yr un mwyaf effeithiol, ac mae'n rhaid defnyddio lleisiau - dyna natur addysg.
"Wrth betruso a dirprwyo'r penderfyniad yma, dwi'n meddwl bod hynny'n hollol annheg ar ysgolion, rhieni a phrifathrawon.
"Mae'r amseriad yn warthus i ysgolion - rhai ohonyn nhw efo llai na tri diwrnod gwaith rŵan i baratoi a gwneud asesiadau risg."
Asesu'r risg
Mae'r Alban a Gogledd Iwerddon eisoes wedi dweud bod mygydau i ddisgyblion yn orfodol mewn ardaloedd cymunedol o ysgolion, ac mae'r Alban hefyd yn dweud y dylid eu gwisgo ar fysiau ysgol.
Yn Lloegr, bydd angen mwgwd mewn coridorau ysgolion yn yr ardaloedd sydd dan fesurau clo arbennig.
Mewn nifer o ardaloedd fel Luton, Northampton, Caerlŷr ac ardaloedd ym Manceinion mae yna gyfyngiadau ar yr hyn y gall pobl wneud yn sgil twf yn nifer yr achosion o Covid-19.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Awst 2020
- Cyhoeddwyd24 Awst 2020