Gyrwyr heb weld seiclwr A487 am fod yr haul yn eu 'dallu'

  • Cyhoeddwyd
Christopher Jones a Lowri Powell
Disgrifiad o’r llun,

Mae Christopher Jones a Lowri Powell yn gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn

Mae dau berson sydd wedi eu cyhuddo o achosi marwolaeth cynghorydd o Geredigion yn dweud eu bod wedi eu "dallu" gan haul isel ac na wnaethon nhw ei weld.

Roedd Paul James, 61, yn seiclo ar yr A487 tuag at Aberystwyth pan gafodd ei daro oddi ar ei feic rhwng Waunfawr a Chomins Coch ar 11 Ebrill 2019.

Mae Lowri Powell, 43 o Benrhyn-coch, a Christopher Jones, 40 o Bontarfynach, yn gwadu achosi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal.

Dywedodd yr erlynydd Jim Davis wrth Llys y Goron Abertawe fod Mr James yn seiclo fyny allt tuag at dro yn y ffordd pan gafodd ei daro gan ddrych ochr car Lowri Powell.

Fe ddisgynnodd i'r ffordd ac yna cafodd ei daro gan Vauxhall Vectra Christopher Jones a'i lusgo am tua 35 metr.

Dechreuodd teulu Mr James lefain wrth i'r rheithgor glywed ei fod wedi marw ar y ffordd.

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Paul James, oedd yn gynghorydd Plaid Cymru, ei ddisgrifio fel 'dyn anhygoel'

Clywodd y llys fod y ddau yrrwr wedi dweud wrth yr heddlu nad oeddent wedi gweld Paul James o achos bod yr haul yn tywynnu.

Y llygad dyst cyntaf i roi tystiolaeth wyneb yn wyneb oedd Gwawr Williams oedd yn gweithio gyda Mr James ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dywedodd Ms Williams ei bod ar ffordd yr A487 y noson honno, a bod yr haul yn llachar.

'Dim arwydd o'r seiclwr'

Gwelodd gar Lowri Powell yn nesáu ond wnaeth hi ddim adnabod y gyrrwr tan iddi basio.

Mae Ms Williams yn gymydog drws nesaf i Lowri Powell ym Mhenrhyn-coch.

Fe ddisgrifiodd Paul James yn siglo ar ei feic cyn i gar Christopher James yrru drosto.

"Fe welais y seiclwr ar y ffordd a char yn dod wedyn ac yn mynd dros y seiclwr," meddai.

"Fe edrychais i weld lle oedd y beic wedi disgyn a doedd yna neb yno. Doedd yna ddim arwydd o'r seiclwr."

"Doedd ganddo ddim cyfle i frecio."

Mae Lowri Powell a Christopher Jones yn gwadu achosi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal ac mae'r achos yn parhau.