Ieuan Gwynedd: Gŵr a frwydrodd dros ferched Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae 5 Medi yn nodi 200 mlynedd ers genedigaeth y bardd, awdur, athro, newyddiadurwr, cyfansoddwr emynau, gweinidog a chenedlaetholwr o Ddolgellau, Evan Jones.
Ond mae'n debyg ei bod yn fwy adnabyddus fel ei enw barddol, Ieuan Gwynedd.
Cafodd Ieuan Gwynedd ei eni mewn tyddyn o'r enw Bryntynoriad yn Rhyd-y-main, ger Dolgellau yn 1820, ond yn Tŷ Croes Isaf ychydig yn agosach at Ddolgellau cafodd ei fagu.
Roedd Dwyryd Williams o Ddolgellau yn brifathro ar Ysgol Ieuan Gwynedd yn Rhyd-y-main (sydd bellach yn rhan o Ysgol Bro Idris, dalgylch Dolgellau):
"Does 'na fawr yn weddill o'r bwthyn ble y'i ganed - Bryntynoriaid, sydd rhwng Drws y Nant â'r Garneddwen - yn ôl y sôn aethpwyd â cherrig oddi yno er mwyn adeiladu capel bach Soar, sydd ger llaw."
'Pulpud Ieuan Gwynedd'
Yn dioddef o salwch tra'n blentyn, daeth Ieuan Gwynedd o gefndir cyffredin gyda chrefydd yn ganolog yn ei fywyd, fel esboniai Dwyryd Williams:
"Roedd yn blentyn gwantan ac o ganlyniad chafodd o fawr o addysg ffurfiol, ond roedd ganddo athrawes abl a chydwybodol yn ei fam.
"Pan oedd yn blentyn yn byw yn Nhŷ Croes ger pentref Brithdir, arferai eistedd ar gangen coeden dderwen ifanc yn pregethu i'r defaid a'r ŵyn ac am flynyddoedd wedyn cyfeiriwyd at y goeden honno fel 'pulpud Ieuan Gwynedd'."
Yn 1836, yn 16 oed cafodd swydd mewn banc yn Nolgellau, ond dim ond blwyddyn yr oedd yn y swydd. Yn yr un flwyddyn fe wnaeth sawl cais i agor ysgolion yn ardal Dolgellau, ond fe fethodd gael y gefnogaeth angenrheidiol.
Y flwyddyn ganlynol, aeth oddi cartref i'r ysgol yn Aberhonddu ac fe setlodd yn ne Cymru, gan ddod yn weinidog gyda'r Annibynwyr yn Nhredegar. Yno fe briododd Catherine Sankey o Sir Amwythig, ond bu farw hithau a'u plentyn yn ifanc.
Gadawodd Ieuan Gwynedd yr eglwys a throdd at lenyddiaeth a newyddiaduriaeth.
Symudodd i Gaerdydd yn 1848 gan olygu papur newydd wythnosol Saesneg, The Principality. Bu wedyn yn olygydd ar bapur newydd radicalaidd The Standard of Freedom ac ar dîm golygu The Pathway yn Llundain. Roedd hefyd yn olygydd ar Almanac y Cymru yn 1849.
Ond roedd y cyfnod yma yn gythryblus yn niwylliant Cymru. Yn 1847 cyhoeddwyd adroddiad addysg o ysgolion Cymru gan dri Sais - Ralph Robert Wheeler Lingen, Jelinger Cookson Symons a Henry Robert Vaughan Johnson - o dan yr enw Inquiry into the State of Popular Education in Wales.
Brad y Llyfrau Gleision yw sut mae'r adroddiad yn cael ei gofio heddiw, gyda'r casgliadau o'r adroddiad yn hynod feirniadol o blant Cymru, yn enwedig merched y genedl. Roedd merched Cymru wedi cael eu beirniadu'n hallt: yn ôl y comisiynwyr addysg roedd ganddyn nhw safonau moesol gwael iawn.
Amddiffyn merched Cymru
Tair blynedd yn ddiweddarach, mewn ymateb i'r 'Llyfrau Gleision', fe benderfynodd Ieuan Gwynedd sefydlu'r cylchgrawn cyntaf i ferched yng Nghymru, Y Gymraes.
Fel golygydd y cylchgrawn, nod Ieuan Gwynedd oedd i geisio codi safon addysg merched Cymru a gwrthbrofi honiadau enllibus a milain y comisiynwyr addysg. Yn Y Gymraes roedd amrywiaeth o erthyglau a chynghorion ar bynciau fel crefydd, priodas, dirwest a moesoldeb.
Roedd yn falch iawn o bobl ei ardal ac roedd yn ystyried hi'n ddyletswydd i amddiffyn enw pobl Cymru, yn enwedig ei merched.
Er i Ieuan Gwynedd weithio mewn sawl proffesiwn, dywed Dwyryd Williams mai fel rhywun a frwydrodd dros bobl Cymru mae'n cael ei gofio:
"Yn ystod ei oes rhoddodd gynnig ar amrywiol yrfaoedd - gweithio mewn banc, athro, golygydd cylchgrawn, gweinidog - ond fe gofir amdano yn bennaf oherwydd iddo amddiffyn Cymru, ei hiaith a'i thrigolion pan ddaethant dan lach yr arolygwyr yn Adroddiad y Llyfrau Gleision yn 1847."
Priododd Ieuan Gwynedd am yr ail dro â Rachel Lewis o Dredwstan. Ond dirywiodd ei iechyd a bu farw yn 31 oed ar fore Chwefror 23, 1852, yng Nghaerdydd.
Meddai Dwyryd Williams: "Er nad oedd yn ffigwr amlwg ar y llwyfan cenedlaethol, cafodd ei haeddiant am ei waith arloesol, yn enwedig felly ym myd cyhoeddi, pan adroddodd O.M. Edwards ei hanes yn rhai o'i gyhoeddiadau.
"Gan iddo farw yn ifanc chafodd o ddim mo'r cyfle i wireddu ei botensial yn llawn mewn unrhyw faes penodol ond yn ystod y chwe blynedd ar hugain y bûm i yn bennaeth ar yr ysgol leol a enwyd ar ei ôl, roedd disgyblion yr ysgol bob amser yn cael eu haddysgu amdano.
"Yn wir roedd yn rhan bwysig o'r cwricwlwm hanes lleol ac Oes Fictoria.
'O flaen ei amser'
"Roedd pawb a oedd yn gysylltiedig â'r ysgol yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn ŵr diwylliedig, gŵr a oedd o flaen ei amser mewn sawl ffordd, a oedd yn adlewyrchu gwerthoedd, iaith a diwylliant bro ei febyd."
Cafodd Ieuan Gwynedd ei gladdu ym mynwent Capel Annibynwr Y Groes-wen ger Caerffili, ac mae cofeb crand iddo yn bodoli yn y fynwent heddiw.
Hefyd o ddiddordeb: