Jonathan Davies yw Personoliaeth Chwaraeon BBC Cymru 2017

  • Cyhoeddwyd
Jonathan Davies
Disgrifiad o’r llun,

Doedd Jonathan Davies methu bod yn bresennol yn y noson wobrwyo ond roedd ei rieni yng Nghasnewydd ar ei ran

Canolwr Cymru a'r Llewod Jonathan Davies yw Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru 2017.

Daeth Davies i frig y bleidlais gyhoeddus, ar y blaen i Geraint Thomas, a ddaeth yn ail, a Natalie Powell yn y trydydd safle.

Mae Jonathan wedi cael blwyddyn ddisglair yn 2017; arweiniodd ei berfformiad cadarn i'r Llewod iddo gael ei enwebu yn chwaraewr y gyfres yn Seland Newydd.

Chwaraeodd y canolwr bob munud o'r tri Phrawf yn erbyn y Crysau Duon wrth i'r Llewod greu hanes drwy sicrhau cyfres gyfartal.

Klopp a Woodburn
Disgrifiad o’r llun,

Rheolwr Lerpwl Jurgen Klopp yn cyflwyno'r wobr i Ben Woodburn

Roedd Davies ar y rhestr fer gyda'r pêl-droediwr Gareth Bale, y seiclwr Elinor Barker, y para-athletwr Aled Siôn Davies, yr ymladdwr Judo Natalie Powell a'r seiclwr Geraint Thomas.

Cafodd y canlyniadau eu cyhoeddi yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru yng Nghasnewydd, ble roedd BBC Cymru a Chwaraeon Cymru yn dathlu llwyddiant timau ac unigolion y wlad dros y flwyddyn ddiwethaf.

Catrin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Catrin Jones o Fangor gafodd ei choroni'n Athletwraig Ifanc y Flwyddyn yng nghategori'r merched

Tîm Hoci Iâ Devils Caerdydd enillodd wobr Tîm y Flwyddyn wedi blwyddyn lwyddiannus ar ôl ennill y Gynghrair Elît a'r Gwpan Her.

Asgellwr Lerpwl a Chymru, Ben Woodburn enillodd gwobr Athletwr Ifanc y Flwyddyn Carwyn James.

Mae perfformiadau cyson Woodburn wedi sicrhau cytundeb newydd iddo gyda Lerpwl ac fe sgoriodd ei gôl ryngwladol gyntaf i Gymru yn y fuddugoliaeth yn erbyn Awstria ym mis Medi.

Y codwr pwysau, Catrin Jones o Fangor oedd yn fuddugol yng nghategori Athletwraig Ifanc y Flwyddyn Carwyn James.

Daeth Catrin yn bencampwraig Cymru yn 2017 ac fe enillodd hi fedal arian yn Gemau Gymanwlad Ieuenctid yn Awstralia.

Cardiff DevilsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cardiff Devils yw Tîm y flwyddyn yn dilyn blwyddyn llwyddianus ar y Iâ

Fe gafodd yr hyfforddwr pêl-droed Alan Curtis ei anrhydeddu gyda Gwobr Cyfraniad Oes.

Fe wnaeth Curtis chwarae 35 o weithiau i Gymru a sgorio chwe gôl. Mae hefyd wedi bod yn amlwg fel hyfforddwr yng nghlwb Pêl-droed Abertawe ar ôl ymddeol o'i yrfa chwarae.

Fe gafodd y cyn-chwaraewr rygbi David Watkins wobr cyfraniad arbennig.

Fe chwaraeodd Watkins Rygbi'r Undeb a Rygbi'r Gynghrair gan chwarae a hyfforddi Cymru a thîm Prydain Fawr.

Alan Curtis
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewr canol cae Abertawe Leon Britton wnaeth gyflwyno'r wobr am gyfraniad oes i Alan Curtis

Y cyn athletwr Christian Malcolm sydd wedi ennill gwobr Hyfforddwr y Flwyddyn. Fe wnaeth Malcolm hyfforddi tîm y dynion i ennill aur ym Mhencampwriaethau'r Byd. Llwyddodd tîm y merched hefyd i ennill y fedal arian yn y bencampwriaeth.

Fe wnaeth Malcolm, sy'n gweithio fel hyfforddwr gwibio i Anabledd Cymru hefyd hyfforddi'r athletwr paralympaidd Jordan Howe i fedal arian.

Christian Malcolm
Disgrifiad o’r llun,

Mae Christian Malcolm yn gweithio fel hyfforddwr gwibio i Anabledd Cymru