Penodi aelodau newydd i fwrdd Chwaraeon Cymru

  • Cyhoeddwyd
Chwaraeon Cymru

Mae is-gadeirydd ac aelodau newydd wedi eu penodi gan y llywodraeth i fwrdd Chwaraeon Cymru.

Pippa Britton sydd wedi ei dewis fel is-gadeirydd. Mae'n gadeirydd ar hyn o bryd gyda Chwaraeon Anabledd Cymru ac yn gyn-athletwr rhyngwladol.

Ashok Ahir, Ian Bancroft, Christian Malcolm ac Alison Thorne yw'r aelodau newydd i'r bwrdd, ac mae dau gyn aelod, Richard Parks a Samar Wafa, yn parhau yn eu gwaith.

Gwaith Chwaraeon Cymru, sy'n cael cyllideb flynyddol o £22m, yw hyrwyddo chwaraeon elît ac ar lawr gwlad.

Grey line

Trafferthion Chwaraeon Cymru

  • Yn 2016 cafodd gwaith bwrdd Chwaraeon Cymru ei wahardd dros dro gan y llywodraeth a hynny yn sgil pryderon gan weinidogion bod y bwrdd yn camweithredu.

  • Roedd adolygiad mewnol tua'r un pryd wedi bod yn feirniadol o'r corff ond y gred oedd nad oedd y gwaharddiad gan y llywodraeth yn ymwneud yn uniongyrchol gyda'r adolygiad.

  • Cafodd Lawrence Conway ei benodi yn gadeirydd dros dro. Bydd cadeirydd parhaol yn cael ei benodi yn y dyfodol.

  • Casgliad yr adolygiad annibynnol ym mis Gorffennaf oedd bod angen i Chwaraeon Cymru wella'r ffordd maen nhw'n rheoli perfformiad a datblygu sgiliau o fewn y corff.

Grey line

Ym mis Hydref y bydd y pum aelod newydd yn dechrau ar eu gwaith a byddant yn parhau yn eu gwaith am dair blynedd.

Penodiad tair blynedd fydd gan y ddau gyn aelod hefyd.

Pippa BrittonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Pippa Britton yn arfer cystadlu yng nghamp saethyddiaeth

Dywedodd Gweinidog Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans bod yr unigolion sydd wedi eu dewis gyda'r sgiliau sydd eu hangen i wneud y gwaith.

"Gyda'i gilydd, mae ganddynt brofiad helaeth o ysbrydoli cymunedau llai egnïol i gymryd mwy o ran mewn chwaraeon, yn ogystal â dealltwriaeth o anghenion athletwyr elît.

"Rwy'n ddiolchgar i'r aelodau newydd am dderbyn y gwahoddiad i wasanaethu ar y Bwrdd. Rwy'n ddiolchgar i'r aelodau hynny sy'n gadael am eu gwasanaeth.

"Rwy'n hyderus bod gan y bwrdd yr arbenigedd a'r profiad angenrheidiol i'm helpu i a staff Chwaraeon Cymru i gyflawni ein huchelgais i greu cenedl fwy egnïol a llwyddiannus."

'Profiad eang'

Yn ôl Cadeirydd dros dro y corff, Lawrence Conway, daw'r cyhoeddiad mewn cyfnod pan maent wrthi yn "datblygu strategaeth gorfforaethol newydd".

"Bydd gwybodaeth a phrofiad eang yr aelodau yn atgyfnerthu'r bwrdd a byddant yn gallu rhannu eu dealltwriaeth a'u safbwyntiau er mwyn llywio trafodaethau."

Mae hefyd wedi diolch i'r aelodau sydd yn gadael y bwrdd am eu gwaith.