Ysgrifennu llyfr ar ôl darganfod hapusrwydd yn yr Eidal

  • Cyhoeddwyd
Dewi Tudur wrth ei ddesg yn arlunioFfynhonnell y llun, Dewi Tudur

Symudodd yr arlunydd Dewi Tudur a'i wraig Linda i Toscana yn yr Eidal yn 2011 ar ôl iddo brofi cyfnod tywyll y mae'n ei ddisgrifio fel 'breakdown'. Yno fe ddaeth o hyd i hapusrwydd unwaith eto.

Yma, mae Dewi yn sôn am ei fwriad i gyhoeddi llyfr am ei brofiad a hynny, mae'n gobeithio, mewn tair iaith.

Yn yr Eidal 'ma oedden ni, yn eironig iawn, yn ffilmio ac yn ail-droedio'r llwybr gymeron ni fel teulu yn y chwedegau. Ac yna yn y bore, dychwelyd yn ôl i Lanrwst, a mi ddaeth bob peth i ben.

Ges i breakdown. Do'n i'm yn sylweddoli ar y pryd ond o'n i'n llosgi'r gannwyll ddwy ochr - [roedd] nifer o ffactorau dweud y gwir.

Roedd hi'n gyfnod o dros flwyddyn dw i'n credu o ddim isio gweld neb, mewn cragen, lle tywyll ofnadwy.

Dw i'n cofio un diwrnod yn 2011 Linda yn fy llusgo i i Thomas Cook ym Mrychdyn. Dywedodd Linda wrth y ferch yn y siop ein bod ni eisiau mynd i'r Eidal. Dyma hi'n agor y dudalen gyntaf ac yn rhoi ei bys ar Villa Pittiana, a dyma Linda'n dweud "Mae hynna'n berffaith, we'll take it." A dyna ddigwyddodd.

Dychwelyd i'r Eidal

Dyma ni'n glanio yn Villa Pittiana yma yn Toscana ar ein gwyliau.

Mi ddaeth Villa Pittiana yn rhyw nefoedd bach i mi ar y pryd - ysbyty, afallon, paradwys... be' bynnag 'dach chi isio'i alw fo. Ac mi nes i wella. Mi sylweddolodd Linda fy mod i'n troedio o gwmpas y lle yn hapusach.

Ffynhonnell y llun, Dewi Tudur
Disgrifiad o’r llun,

Dewi Tudur tu allan i Villa Pittiana

O ddydd i ddydd ro'n i'n dechrau siarad efo pobl. Bigais i ddarn o sbwriel un diwrnod a dyma ryw lais tu ôl i mi'n dweud nad fy lle i oedd gwneud hynny. Ro'n i wedi arfer gwneud yn rhinwedd fy swydd fel athro am flynyddoedd, yn pigo sbwriel pobl eraill i fyny.

Pwy oedd o ond rheolwr y villa a dyma fo ymhen ychydig yn fy nghyflwyno i berchennog y villa. A f'yntau wedyn yn cynnig swydd i mi fel arlunydd preswyl.

Gweithio a gwella

Roedd o'n golygu 'mod i'n cael cartref am ddim am dair blynedd. Dim arian yn cael ei drosglwyddo o gwbl ganddo fo na finna', a 'mod i'n mynd yna'n ddyddiol i weithio a defnyddio un 'stafell yn y villa fatha stiwdio i mi. Oedd o'n gyfnod braf ac o 'chydig i 'chydig mi nes i wella a dod allan o 'nghragen.

Dwy flynedd yn ôl ges i'r syniad am lyfr am hogyn bach yn tyfu i fyny yma yn Toscana yn yr Eidal wedi'i seilio yn y chwedegau, oherwydd gafon ni hafau hir yn y chwedegau. [Stori am] gyfeillgarwch rhwng hogyn bach a gwas y neidr.

Dw i'n credu bod y gwas wedi cael cam, dweud y gwir, oherwydd mae yna ryw stori eu bod nhw'n bethau sy'n ymosod, ac yn gysylltiedig efo rhywbeth dieflig. Ond dydyn nhw ddim, dydyn nhw'm yn pigo o gwbl.

Mae 'na rywbeth amdanyn nhw, y ffordd maen nhw'n hedfan yn osgeiddig, llyfn a chwim.

Ges i 'mwlio lot yn 'rysgol ac o'n i'n meddwl fysa hi wedi bod yn braf cael rhyw warcheidiwr yna - fel sy'n wir i bawb ynde? Nes i feddwl 'sa gwas yn bryfyn fysa'n fy ngwarchod i.

Dechreuais i wneud ychydig o luniau.

Ffynhonnell y llun, Dewi Tudur

Ymhen rhyw bythefnos, dair wythnos, ro'n i wedi gwneud rhyw ddau neu dri o luniau. A dyma'r stori'n syrthio i'w lle.

Mae 'ngwaith i'n fregus, ac yn ddiarwybod mi ddaeth y stori a 'ngwaith i ffitio. Fel mae gwas y neidr yn gwibio ac yn cyffwrdd wyneb y dŵr mae fy arddull i yn adlewyrchu hynny, 'mod i'n cyffwrdd wyneb y papur wrth weithio.

Heb i mi sylweddoli dyma'r stori a 'ngwaith y dod at ei gilydd.

Dewey, Galileo a Lapo

Be' nes i un noson oedd teipio cynhyrchwyr llyfrau mawr yn Llundain a dyma Austin Macauley yn dod fyny a nes i yrru rhyw ddau lun iddyn nhw.

Rhyw dri mis wedyn ges i e-bost yn dweud gawn ni glywed mwy am y stori. Chlywais i ddim byd am fisoedd.

Dyma fi'n digwydd mynd i fyny i Villa Pittiana a dyma Claudia yn y reception yn dweud bod 'na rhyw amlen mawr i mi; contract gan Macauly i ddweud bod 'na olau gwyrdd, eu bod nhw'n hoffi'r stori yn fawr.

O'n i wedi gwirioni, yn enwedig pan 'dach chi'n byw mewn lle unig ac anial fel ydan ni yma ar y fferm yn Toscana. Mae cael rhywbeth fel 'na o Canary Wharf yn rhywbeth wnaeth daro nerf efo fi. O'n i reit emosiynol ar y pryd.

Ffynhonnell y llun, Dewi Tudur

Wrthi'n gweithio ar sgwennu'r llyfr ydw i ar hyn o bryd. Dylunio y sgwennu. Dim dibynnu ar ffonts o gyfrifiadur a ballu. O'n i'n meddwl 'sa hynny'n fwy personol i'r llyfr.

Dewey and The Dragonfly yw teitl y stori. Ond mae 'na obaith fod gan gwmni yng Nghymru ddiddordeb yn y stori ac mae'n siŵr mai Galileo a'r Gwas fysa'r teitl.

Y teitl yn Eidaleg fysa Lapo - enw bach Toscanaidd, hen ffasiwn - e la Libellula. Dyna i chi enw urddasol i was y neidr, ynde, libellula. Felly Lapo e la Libellula.

Mae rhywbeth reit hudolus am y peth.

Hefyd o ddiddordeb: