Galw am weithredu yn sgandal cyfranddaliadau Roadchef
- Cyhoeddwyd
Mae gwraig weddw yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu i alluogi cannoedd o ddioddefwyr sgandal cyfranddaliadau i dderbyn iawndal di-dreth ar ôl oedi hir.
Fe enillodd gweithwyr gwasanaethau traffyrdd frwydr gyfreithiol yn 2015 ar ôl colli miliynau pan gafodd cyfranddaliadau mewn cynllun gweithwyr eu trosglwyddo a'u gwerthu.
Ond fe ddaeth i'r amlwg fod £10m yn ychwanegol wedi ei gymryd mewn trethi.
Yn 2018 fe gafodd yr arian yma ei ddychwelyd - ond mae ffrae gyda swyddogion trethi yn golygu nad yw taliadau llawn wedi eu cwblhau.
'Llawer wedi marw heb gael yr arian'
"Mae llawer o bobl wedi marw ag sydd heb gael yr arian," meddai Eleanor Nicholls o Lanelli.
Roedd ei gŵr, Michael yn un o 600 o weithwyr a ddylai fod wedi manteisio o'r cynllun.
Roedd wedi gweithio yng ngwasanaethau Pont Abraham ar gyffordd 49 yr M4 am 18 mlynedd.
Ond bu farw yn 68 oed o ganser yr ysgyfaint yn Chwefror 2010.
Dros ddegawd yn ddiweddarach mae Eleanor yn parhau i aros am yr iawndal.
Nôl yn 1998 pan ddaeth y sgandal i'r wyneb, roedd undeb y GMB wedi amcangyfrif y dylai'r taliadau o'r cynllun cyfranddaliadau fod wedi bod tua £90,000 i weithwyr oedd yn gymwys.
Ar y pryd, fe gafodd y mwyafrif tua £2,300 yn unig.
"Roeddem ni'n dau wedi gweithio'n ddiflino i roi arian i un ochr ar gyfer dyfodol ein plant," meddai Eleanor, sydd nawr yn 74.
"Fe wnes i weithio mewn cartref gofal ac fe weithiodd o y shifftiau nos yn Roadchef felly roedd wastad rhywun yn y tŷ i edrych ar ôl fy mam oedrannus, oedd yn dechrau dioddef gyda dementia.
"10 mlynedd yn ôl, roeddem angen hoe ac fe lwyddom ni i fynd i Sbaen.
"Aeth Michael yn wael tra roeddem i ffwrdd ond roeddwn i'n credu mai'r tywydd poeth oedd yn gyfrifol.
"Pan ddaethon ni adref fe aeth i gael prawf pelydr-X ar ei frest, ac fe alwodd meddyg fi i mewn a dweud 'mae eich gŵr yn ddyn sâl iawn. Roedd 'na ddau diwmor, un ar yr ysgyfaint ag un ar yr ymennydd.
"Fe wnaeth oroesi am chwe wythnos yn unig."
Yn 1986, prif weithredwr cwmni Roadchef oedd Patrick Gee. Roedd am weld gweithwyr yn manteisio ar gynllun cyfranddaliadau - lle mae gan weithwyr ran o berchnogaeth cwmni - yn debyg i'r cynllun sy'n cael ei weithredu gan gwmnïau fel John Lewis.
Fe sefydlodd y cynllun cyntaf o'i fath yn y DU - lle'r oedd modd i staff dderbyn cyfranddaliadau yn y cwmni yn dibynnu ar ba mor hir yr oeddynt wedi bod yn gweithio i'r cwmni.
Ond bu farw Mr Gee yn sydyn yn 43 oed.
Ei olynydd oedd Timothy Ingram Hill. Fe lwyddodd i gymryd rheolaeth o gyfranddaliadau'r gweithwyr, gan wneud elw o £29m pan werthwyd y cwmni i fuddsoddwyr o Japan yn 1998.
Ond fe wnaeth ysgrifennydd y cwmni ar y pryd, Tim Warwick, dynnu sylw at yr hyn yr oedd Mr Ingram Hill wedi ei wneud, gan dreulio'r chwarter canrif nesaf yn ymladd ar ran y rhai oedd wedi colli'n ariannol o'i gartref ym Mro Morgannwg.
Fe gefnogodd yr ymddiriedolaeth oedd wedi ei sefydlu'n wreiddiol i reoli'r cynllun i'r gweithwyr eu hachos - ac fe gymerodd y Roadchef Employees Benefits Trust Limited (REBTL) achos cyfreithiol yn erbyn Mr Igram Hill.
£10m wedi ei drosglwyddo
Yn Ionawr 2014 fe ddyfarnodd yr Uchel Lys fod Mr Ingram Hill wedi torri ei ddyletswydd ariannol i weithwyr Roadchef, ond nid oedd unrhyw awgrym ei fod wedi torri'r gyfraith.
Fe gafwyd setliad ariannol rhyngddo a REBTL yn 2015, gyda'r gobaith o gau pen y mwdwl ar y mater.
Ond yna fe ddaeth i'r amlwg fod £10m o arian cyfranddaliadau wedi ei drosglwyddo i Adran Cyllid a Thollau ei Mawrhydi.
Dyma oedd dechrau brwydr arall.
Roedd deddfwriaeth gafodd ei basio yn 2003 i fod yn golygu fod cynlluniau cyfranddaliadau gweithwyr fel hyn i fod yn rhydd o daliadau trethi.
Ond am fod yr asedau ariannol wedi eu cymryd o'r cynllun gwreiddiol bum mlynedd ynghynt, roedd yn ymddangos fod gweithwyr Roadchef wedi disgyn rhwng dwy stôl gyfreithiol.
Yna yn 2018 fe roddodd Adran Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yr arian yn ôl i'r ymddiriedolwyr.
Ond mae anghydfod yn parhau: ddylai'r rhai oedd i fod i dderbyn taliadau iawndal orfod talu treth yn unigol ar y taliadau hynny?
Nid hyn ddylai ddigwydd medd y rhai sydd i fod i dderbyn yr arian. Maen nhw wedi derbyn cefnogaeth gan ymgyrchwyr, ymddiriedolwyr a grŵp o aelodau seneddol.
Tan y bydd y mater yn cael ei ddatrys, fe fydd dioddefwyr y sgandal yn parhau i aros - 25 mlynedd wedi i hyn ddigwydd.
Yn anffodus, bu farw Tim Warwick, oedd wedi taflu goleuni ar yr hyn yr oedd wedi digwydd, yn sydyn mewn ysbyty yng Nghaerdydd fis Awst eleni.
Mae gweddw Michael Nicholls, Eleanor, yn parhau i aros.
"Bu farw Michael 10 mlynedd yn ôl ac rydw i wedi bod yn ymladd trwy'r amser i gael yr hyn sy'n ddyledus," meddai.
"Mae'n peri gofid i mi gael hyn i gyd ar fy meddwl ac ail-fyw y cyfan eto. Mae cymaint o bwysau arna i. Rwy'n cael llythyrau ac yn meddwl 'ydy hyn wedi cael ei ddatrys o'r diwedd?'
"Ond yr oll mae'r llythyrau yn ei ddweud yw 'sori, sori'. Mae'n rhwystredig. Rwy'n ceisio ei roi yng nghefn fy meddwl, ond mae'n anodd.
"Dewch â hyn i derfyn, dyna fyddai fy neges i'r llywodraeth. Allwn ni ddim dal ati fis ar ôl mis, flwyddyn ar ôl blwyddyn fel hyn."
Mae Eleanor wedi cael cefnogaeth ei AS lleol, llefarydd materion Cymreig y blaid Lafur, Nia Griffith.
"Mae angen i gyn-weithwyr Roadchef a'u teuluoedd, fel Mrs Nicholls, gael yr arian sy'n ddyledus iddyn nhw cyn gynted â phosib," meddai.
"Mae'n warthus eu bod nhw wedi gorfod aros mor hir.
"Fel ASau, rydyn ni wedi cael cyfarfodydd gyda gweinidogion y trysorlys i bwysleisio'r brys o gywiro'r hyn sydd wedi digwydd, ond does dim llwyddiant hyd yma."
'Angen dod â'r llanast i ben'
Fe godwyd y mater gyda'r Prif Weinidog Boris Johnson gan Neil Gray o'r SNP yn gynharach eleni yn Nhŷ'r Cyffredin.
Dywedodd Mr Johnson y bydd y canghellor "yn croesawu'r cyfle i drafod y mater penodol" yn bersonol.
Wrth sôn am yr anghydfod, ychwanegodd cadeirydd REBTL Christopher Smith: "Mae angen i'r Adran Gyllid ddod â'r llanast hwn i ben, gan ganiatáu i ni ddosbarthu'r arian yn ddi-dreth i'r rhai sydd gyda buddiannau yn y mater."
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi: "Oherwydd cyfrinachedd trethdalwyr, ni allwn wneud sylwadau ar fanylion yr achos, ond rydym yn gweithio i ddod â'r mater i ben."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mai 2016
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2015