Saith o heddweision yn dioddef ymosodiadau yn Y Rhyl

  • Cyhoeddwyd
heddlu

Dywed Heddlu'r Gogledd fod saith o'u swyddogion wedi dioddef ymosodiadau dros y penwythnos yn ardal Y Rhyl.

Fe wnaeth un unigolyn ymosod ar dri o swyddogion, ac mewn dau ddigwyddiad arall ar wahân cafodd dau o swyddogion eu brathu.

Dywedodd Mark Jones o Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru fod ymosodiadau o'r fath yn gywilyddus a'u bod yn galw ar Wasanaeth Erlyn y Goron i sicrhau bod yr unigolion yn cael eu cosbi.

"Er na chafodd y swyddogion anafiadau difrifol, does yna ddim amehaueth y bydd yr ymosodiadau yn cael effaith ar y swyddogion.

"Mae pob ymosodiad ar aelodau o'r gwasanaethau brys yn ymosodiad ar gymdeithas."

Dywedodd y dirprwy brif gwnstabl Richard Debicki fod ymosodiadau o'r fath yn gwbl annerbyniol, a bod yn rhaid i'r rhai sy'n gyfrifol wynebu grym y gyfraith.