'Posib osgoi' gorwario £60m ar adnewyddu Ysbyty Glan Clwyd
- Cyhoeddwyd
Costiodd gwaith adnewyddu ar ysbyty yng ngogledd Cymru dros £60m yn fwy na'r gyllideb wreiddiol, yn ôl archwilydd.
Mae £171m wedi ei wario er mwyn tynnu asbestos a gwella cyfleusterau Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.
Ond yn 2012, £110.4m oedd wedi ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru er mwyn cwblhau'r gwaith.
Mae archwiliad wedi canfod y byddai modd osgoi'r gorwario oni bai am wendidau yn yr achosion busnes a diffygion rheoli.
Roedd y gorwariant o bron i 55% o'r gyllideb wreiddiol yn deillio o'r angen i weithredu'n gyflym a natur y gwaith, meddai Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod yr adroddiad yn "cydnabod bod y rhaglen waith yn gymhleth oherwydd bod yr ysbyty wedi parhau i weithredu wrth i'r gwaith gael ei wneud".
Cafodd y gwaith ei ddechrau yn Ysbyty Glan Clwyd yn dilyn dau ddigwyddiad yn ymwneud ag asbestos - deunydd sy'n niweidiol iawn i bobl os caiff ei anadlu.
Mae gwaredu'r deunydd yn gallu bod yn gymhleth, ac yn 2012 fe gytunodd Llywodraeth Cymru ar gyllideb o £110.4m i gwblhau'r gwaith.
Yn ôl Archwilio Cymru cafodd 300,000 tunnell o wastraff halogedig ei dynnu o'r safle erbyn 2019 - ond ar gost llawer uwch na'r bwriad.
Yn ôl adroddiad y corff archwilio, roedd terfyn amser yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi creu "heriau" i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Llywodraeth Cymru.
Mae hefyd yn nodi:
Ni wnaeth y bwrdd iechyd na'r llywodraeth "fynd i'r afael yn llawn â gwendidau yn yr achosion busnes" cyn eu cymeradwyo;
Bod diffygion sylweddol wrth reoli'r prosiect yn 2014 pan ddaeth i'r amlwg y byddai gorwariant;
Bod Llywodraeth Cymru wedi darparu £53.2m yn ychwanegol i'r cynllun, a'r bwrdd iechyd wedi darparu £7.2m o'i adnoddau ei hun.
Ychwanegodd yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton, ei bod yn "bosibl y gellid bod wedi osgoi'r gorwario sylweddol iawn pe bai pryderon ynghylch yr achos busnes gwreiddiol wedi'u datrys yn briodol ar y cychwyn".
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi derbyn bod y gyllideb wreiddiol yn "rhy optimistaidd".
Ychwanegodd cyfarwyddwr cynllunio a pherfformiad y bwrdd, Mark Wilkinson, bod yr angen i ddechrau'r gwaith yn sydyn, a "natur tynnu asbestos o safle sy'n dal i weithredu" wedi achosi'r costau uwch.
Dywedodd hefyd bod y bwrdd wedi cymryd camau yn 2014 i wella rheolaeth o'r prosiect a chynlluniau canlynol.
Dywedodd bod "gwersi wedi eu dysgu" o'r cynllun "uchelgeisiol a chymhleth, sydd erbyn hyn wedi ei ddefnyddio fel enghraifft gan ymddiriedolaethau eraill yn y DU fel esiampl o sut i wneud gwelliannau helaeth i safle ysbyty gweithredol".
'Darlun brawychus'
Mae'r adroddiad "yn rhoi darlun brawychus o brosiect adnewyddu'r GIG sydd wedi mynd ymhell dros y gyllideb", yn ôl cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd, Nick Ramsay.
Dywedodd ei fod yn cydnabod cymhlethdod tynnu asbestos o ysbyty wrth barhau i roi gofal a gwasanaethau, ond bod y fath orwariant "yn awgrymu i mi fod rhai disgyblaethau prosiect ariannol sylfaenol wedi cael eu chwalu".
Ychwanegodd: "Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ceisio cael sicrwydd gan Lywodraeth Cymru a'r bwrdd iechyd nad yw hyn yn arwydd o broblemau ehangach wrth reoli prosiectau cyfalaf y GIG yng Nghymru."
Rhaglen waith 'gymhleth'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r cynllun gorffenedig yn Ysbyty Glan Clwyd wedi gwella'r cyfleusterau ar gyfer cleifion a staff yn sylweddol, gan gynnwys theatrau llawdriniaethau ac adran o'r radd flaenaf, chwarter argyfwng newydd ac uned gofal critigol newydd.
"Mae'r adroddiad yn cydnabod bod y rhaglen waith yn gymhleth oherwydd bod yr ysbyty wedi parhau i weithredu wrth i'r gwaith gael ei wneud.
"Mae hefyd yn nodi'r gwelliannau a wnaed gan y bwrdd iechyd a ninnau o ran rheoli cynlluniau cyfalaf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Awst 2020
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2020