Pryder am coronafeirws wrth i brifysgolion ailddechrau

  • Cyhoeddwyd
Chloe Williams
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi'm yn meddwl fod o'n deg pwyntio'r bys at bobl ifanc," meddai Chloe Williams

Gyda myfyrwyr i ddychwelyd i brifysgolion dros yr wythnosau nesaf, mae 'na ofnau y bydd nifer yr achosion o coronafeirws yn cynyddu eto.

Fel y rhan fwyaf o adeiladau cyhoeddus bellach, does dim prinder arwyddion a sticeri ar gampws Prifysgol Glyndŵr yn Wrecsam.

Mae'r systemau un ffordd a'r pwyntiau diheintio dwylo yn amlwg.

Mae'r rheiny ar gyfer y nifer llai o bobl fydd ar y campws pan ddaw dechrau'r tymor.

Myfyrwyr 'ddim yn colli allan'

Fel arfer mae 5,000 o fyfyrwyr a 700 o staff yn mynd a dod ar y campws.

Ond bydd llai o ddysgu wyneb yn wyneb eleni, a llawer yn rhagor o ddysgu ar y we.

O dan reolau pellhau cymdeithasol, bydd theatr ddarlithio oedd y dal 160 o fyfyrwyr y llynedd yn dal rhyw 20 yn unig y tymor yma.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Eirian Thomas y bydd myfyrwyr yn cael "yr un gwasanaeth rhagorol ag y maen nhw wedi ei gael erioed"

Er hynny, mae Eirian Thomas o Brifysgol Glyndŵr yn mynnu na fydd myfyrwyr ar eu colled.

"Mi fydd myfyrwyr yn cael yr un gwasanaeth rhagorol ag y maen nhw wedi ei gael erioed," meddai.

"Mi fydd y profiad ychydig yn wahanol, ond fyddan nhw ddim yn colli allan ar ddim byd."

Fflat yn cyfrif fel un aelwyd

Mae'r rheolau hefyd yn ymestyn i'r neuaddau preswyl lle bydd fflat ar gyfer wyth myfyriwr yn cael ei gyfrif fel un aelwyd.

Mae hynny'n golygu na ddylai'r rhai fydd yn preswylio yno fynd i aelwydydd eraill, na gwahodd myfyrwyr eraill yn ôl i'w haelwyd nhw.

Mae sawl rhybudd wedi bod yn y dyddiau diwethaf bod trosglwyddo wedi digwydd mewn cartrefi â chyfran uchel o'r achosion newydd o Covid-19 sydd wedi eu cadarnhau yn ddiweddar mewn pobl ifanc rhwng 20 a 30 oed.

Mae gwyddonwyr y llywodraeth ar bwyllgor SAGE wedi rhybuddio y gallai ailagor prifysgolion arwain at gynnydd mewn achosion yn lleol.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd theatr ddarlithio oedd y dal 160 o fyfyrwyr y llynedd yn dal rhyw 20 yn unig y tymor yma

"Mae pob stiwdant wedi seinio contract ac os ydyn nhw'n methu sticio i'r rheolau, fyddan nhw'n rhoi stiwdants eraill mewn peryg," medd Chloe Williams, is-lywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr.

"Mae pawb yn responsible am gadw social distance. Dwi'm yn meddwl fod o'n deg pwyntio'r bys at bobl ifanc. Dim plant sy'n dod i'r brifysgol, maen nhw'n oedolion."

'Nerfus ond edrych ymlaen'

Felly sut mae myfyrwyr yn teimlo am fywyd prifysgol ar ei newydd wedd?

Ar ôl graddio mewn cyfrifiadureg y llynedd, mi fydd Emyr Owen yn dychwelyd i Brifysgol Glyndŵr fis Hydref i wneud cwrs meistr.

"Dwi'n edrych ymlaen at ddod yn ôl. Wrth gwrs mi fydd 'na newidiadau, mi fydd o'n wahanol completely efo dod yn ôl i'r llety," meddai.

"Dipyn bach yn nerfus efallai achos dwi ddim isio dal Covid-19.

"Dwi'n edrych ymlaen ond dwi hefyd am fod yn ymwybodol o'r newidiadau ac o bopeth sy'n mynd ymlaen."

Bydd y glas fyfyrwyr yn cyrraedd Prifysgol Glyndŵr ar 28 Medi, a myfyrwyr yr ail a'r drydedd flwyddyn yn dychwelyd yr wythnos wedyn.