Rownd a Rownd yn dathlu 25 mlynedd

  • Cyhoeddwyd
Criw rownd bapur

Ar Fedi 11, 1995 fe ddarlledwyd Rownd a Rownd ar S4C am y tro cyntaf. 25 mlynedd yn ddiweddarach mae'r gyfres yn mynd o nerth i nerth ac mor boblogaidd ag erioed.

Ond sut daeth Rownd a Rownd i fodolaeth? A sut mae'r rhaglen wedi datblygu dros y blynyddoedd?

Susan Waters a Robin Evans oedd cynhyrchwyr cynta'r gyfres.

"Nath S4C roi tendr allan, roedden nhw eisiau sebon i blant - y cynllun i ddechrau oedd rhoi slot chwarter awr i'r rhaglen" meddai Susan. "Roedd Robin Evans a fi'n eistedd yn y swyddfa gyda year planner gwag o'n blaenau, achos ni oedd wedi bod yn gwneud yr hen Gemau Heb Ffiniau - felly daeth y tendr ar yr adeg iawn i ni."

Roedd Susan Waters yn gweithio ar y rhaglen o 1995 tan iddi ymddeol yn 2018.

"Doedden ni ddim eisiau i'r gyfres droi o gwmpas dim ond ysgol, fel Grange Hill. Felly aethon ni ati a meddwl pa jobsus oedd plant yn ei gwneud - ac edrych allan drwy ffenest rhyw ddiwrnod a gweld plant ar rownd bapur, ac o fan'no daeth y syniad, felly rownd bapur yw Rownd a Rownd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gyfres wedi ei lleoli ym Mhorthaethwy, Ynys Môn. Cymeriadau cynnar y gyfres o'r chwith i'r dde: Ffion, Meical, Eifion, Guto, Nia a Glenda 'BCG'.

"Pedwar o blant ar rownd bapur a throi o gwmpas eu teuluoedd, a'r watering hole mewn ffordd oedd y siop a'r caffi, yn hytrach na thafarn."

Fe ddaeth y rownd gomisiynu ar yr union adeg iawn, meddai Robin Evans, a oedd yn cynhyrchu'r rhaglen gyda Susan ar y dechrau:

"Daeth y tendr fyny ar gyfer opera sebon i blant, a dyma ni'n meddwl bo' genna ni ddim byd i'w golli ac aethon ni ati i 'neud cais - Susan, Cefin (Roberts) a fi.

"Mi gychwynnodd yn y slot chwarter awr lle'r oedd pennod ond yn mynd am ryw ddeuddeg munud i ddeuddeg munud a hanner, felly dim ond un criw bychain oedd 'na. Cytundeb chwe mis oedd o i ddechrau, ond ma'r chwe mis 'na 'di mynd yn dipyn o anghenfil 25 mlynedd yn ddiweddarach!"

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd pennod gyntaf Rownd a Rownd ei darlledu ar 11 Medi 1995. Roedd y gyfres wedi'i seilio ar rownd bapur, gyda Ffion (canol) yn benderfynol o ddilyn olion traed ei brawd, Dylan (chwith). Nia (ar y dde) oedd un o wynebau cyfarwydd cynta'r caffi.

Gweithio'n gyflym cyn dechrau ffilmio

Roedd y broses o gael Rownd a Rownd ar yr awyr wedi iddo gael ei gomisiynu yn gorfod dilyn amserlen dynn yn ôl Susan:

"Roedd 13 o gwmnïau wedi trio am y tendr. Roedd angen darparu storïau a pheilot cyn gwneud y penderfyniad. Gafon ni'r tendr ar 10 Ionawr 1995, ac roedd y gyfres fod ar yr awyr erbyn mis Medi! Felly roedd rhaid i ni ffeindio lleoliad, a chafon ni hen warws, iard goed leol - wnaethon ni gymryd 10 wythnos i drawsnewid y lle i fod yn siop ac ati.

"'Naethon ni gysylltu â Cefin Roberts a Rhian yng Nglanaethwy. Roedd Cefin yn sgwennu straeon ar gyfer y sioe, a Rhian wrth gwrs yn helpu ni gyda chastio lot o'r plant. Doedd y plant i gyd ddim o Glaenaethwy, ond y rhan fwya' ohonyn nhw - roedd 'na lot mwy o blant ar y sioe yn y dyddiau hynny wrth gwrs na sydd nawr.

"'Naethon ni 26 rhaglen chwarter awr i gychwyn, wedyn yn sydyn reit aeth yr ail gyfres yn 52 rhaglen, ac yna roedden nhw'n slot hirach a newid y slot i 6pm, ac erbyn hyn wrth gwrs mae'n 'mlaen yn hwyrach."

Disgrifiad o’r llun,

Ymunodd yr actor Owain Arthur gyda Rownd a Rownd ar ddiwedd y 90au. Mae bellach wedi gwneud enw iddo'i hun yn y West End, ar y sgrin fach ac ar y sgrin fawr

'Gambl' Ffilmiau'r Nant

"Roedd genna ni ein llygad ar le mae'r set ym Mhorthaethwy yn 1995," meddai Robin Evans, "ac unwaith enillwyd y comisiwn fe wnaethpwyd y gambl gan Ffilmiau'r Nant, lle o'n i'n gweithio ar y pryd, i brynu'r adeilad er mai cytundeb chwe mis oedd gennym ni.

"Yn gyffredinol mae Rownd a Rownd wedi bod naill ai yn yr adeilad hwnnw a 'chydig o dai o gwmpas Porthaethwy ar hyd y blynyddoedd, tan yn gymharol ddiweddar lle mae mwy o setiau'n cael eu hadeiladu."

Addasu i gynulleidfa newydd

Dros y blynyddoedd mae'r rhaglen wedi newid o fod yn rhaglen i blant i fod yn rhaglen i oedolion hefyd, fel esboniai Susan:

"Mae'n esblygiad naturiol mewn ffordd, a hefyd esblygiad oherwydd eu bod nhw efallai eisiau rhywbeth o'r gogledd yn rheolaidd. Roedd Rownd a Rownd lot mwy naïf yn y dyddiau cynnar, am mai rhaglen i blant a phobl ifanc oedd hi.

Disgrifiad o’r llun,

Teulu tanllyd Walsh, a'u cwmni tacsi, K-Kabs

"Reit ar y cychwyn roedden ni'n dweud 'mi allen ni wneud pob stori ond bod o'n dod o safbwynt bobl ifanc' - erbyn hyn allwch chi ddweud bod y rhaglen yn gwneud yr un straeon ond o safbwynt yr oedolion.

"Mi roedd 'na sôn am gyffuriau a bwlio, ac yn un o'r cyfresi cynta' fe gafon ni un o'r cast yn marw ar ôl cymryd cyffuriau mewn disgo."

Ffynhonnell y llun, Rondo
Disgrifiad o’r llun,

Y cyn-bencampwr byd John Parrott yn gwneud ymddangosiad ar y rhaglen

Ond fe roedd hi'n dipyn o her yn ôl Robin i newid Rownd a Rownd o slot blant am 5pm i raglen hwyrach a fyddai'n apelio i bobl hŷn:

"Mae 'di bod yn dipyn o strach a bod yn berffaith onest dros y blynyddoedd, achos cychwynnodd hi fel rhaglen plant bur. 'Da ni 'di bod yn arbrawf, yn rhaglen dwywaith yr wythnos, ymlaen am 5pm, ymlaen am 6.30pm ac 7.30pm, ac maen nhw rŵan ymlaen am 8.30pm.

"Felly mae'r tîm i gyd wedi gorfod addasu dros y blynyddoedd, ac wedi llwyddo yn amlwg neu 'sa fo ddim dal o gwmpas."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Manon a Menna - efeilliaid eiconig y gyfres

'Dim pwnc tabŵ'

Mae Robin yn dweud ei bod wedi bod sialens i addasu dros y blynyddoedd, ond bod bosib ymdrin â phynciau trwm os yn eu gwneud yn y ffordd gywir.

"Roedd y pwyslais mor gryf ar blant pan oedd y rhaglen 'mlaen am 5pm - mae hi wedi bod yn dipyn o dasg addasu ar hyd y blynyddoedd. Pan mae slot yn newid i 8.30pm mae hi'n andros o naid, alli di ddim jest cael gwared â'r cast ifanc am fod hi 'mlaen yn hwyrach - mae rhaid iddo ddigwydd yn ara' deg ac yn synhwyrol."

Disgrifiad o’r llun,

Kelvin, Osian a Justin - triawd o ffrindiau anhebygol y gyfres. Dim ond Kelvin, neu Kevin i roi iddo ei enw iawn, sydd yn dal ar ôl.

"Er roedd hi'n rhaglen i blant, dwi'n cofio doedd 'na ddim un pwnc oedd yn dabŵ, mae i gyd yn dibynnu ar sut ti'n ei drin o. Dim bo' fi'n rhan ohono, ond ma' nhw newydd ddelio efo marwolaeth o ganser yn y gyfres ddiwethaf - mae'n bwysig bod nhw'n gwneud pethau felly a bod ni wedi gwneud pethau felly dros y blynyddoedd.

"Mae 'na rai wedi marw o gyffuriau ar Rownd a Rownd cyn heddiw, pobl yn dwyn ceir ac yn crashio nhw, smyglo cyffuriau... pynciau dirifedi 'sa ti'n meddwl 'sa'n anodd i raglen blant fel oedd hi ar y pryd, ond cyn belled bo' chi'n gwneud hi mewn ffordd deimladwy a sensitif does 'na ddim rheswm pam na ddylid ei gwneud nhw."

Ffynhonnell y llun, Rondo
Disgrifiad o’r llun,

Rhys (Robin Eiddior) ar y dde gyda'i deulu ar y gyfres

Fe gafodd tîm Rownd a Rownd gymorth gan bobl a oedd wedi gweithio ar raglenni mawr Saesneg, fel esboniai Susan:

"Gafon ni lot o help gan Phil Redmond a'i wraig Alexis Redmond, sydd o Abertyleri. Nhw oedd wedi creu Grange Hill, Brookside ac Hollyoaks. Roedden nhw'n rhan o'r dewis pwy oedd yn ennill y tendr, gafon ni lot o tips ganddyn nhw o ran straeon, a bod popeth yn bosib jest bo' chi'n gwneud y pethau o fewn rheolau OFCOM ac o safbwynt bobl ifanc.

Disgrifiad o’r llun,

Dewi Pws oedd yn chwarae rhan Islwyn Morgan, perchennog y siop bapur, am 12 mlynedd o ddechrau'r gyfres gyntaf hyd at 2007.

"S4C drefnodd ein bod ni'n cael mynd yno efo'n cynllunydd ni a'r tîm cynhyrchu i weld sut oedd Phil ac Alexis Redmond yn gweithio, achos roedden nhw'n eithaf enwog ar y pryd am allu troi pethau allan yn rhesymol, ac yn gyfresi poblogaidd."

Gyda llwyddiant a thwf y rhaglen fe olygai bod y tîm cynhyrchu tu ôl y camera wedi tyfu dros y blynyddoedd hefyd:

"Mae'r criw erbyn hyn yn anferth, am eu bod nhw'n troi allan lot fwy," meddai Susan. "Dim ond llond llaw ohonom ni oedd 'na ar y cychwyn, gyda fi a Robin yn cynhyrchu a Cefin yn creu'r straeon i gyd, a'r awduron Gareth F. Williams a Lleucu Roberts. "

Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl teulu wedi mynd a dod yn ystod y 25 mlynedd diwethaf gan gynnwys Michelle a'r criw. O'r chwith i'r dde: Nain, Dani, Michelle, Britney, Jonathan, a Sheree.

Mae Susan yn falch bod y rhaglen wedi torri tir newydd mewn un ystyr o ran y cast.

"Dwi'n credu mai ni oedd y gyfres gyntaf i gael actores efo Down's Syndrome, Mared o Wrecsam, ar y pryd roedd hynny'n anghyffredin iawn - roedd hi'n ffantastig!"

Apêl y rhaglen

Felly beth yw apêl y rhaglen dros y blynyddoedd a pham ei bod hi'n parhau i fod mor boblogaidd?

"Dwi'n credu bod yr hiwmor sydd yn y gyfres yn bwysig," meddai Susan. "Dwi'n credu bod y gwylwyr yn gallu uniaethu gyda'r cymeriadau yn y rhaglen.

"Y peth dwi fwya' prowd ohono ydy bod gymaint o'r cast ifanc 'di mynd 'mlaen i dal i actio a chyfrannu tu ôl y sgrin - lot 'di mynd yn gweithio fel pobl camera, cyfarwyddwyr a hefyd newyddiadurwyr."

Ffynhonnell y llun, Rondo
Disgrifiad o’r llun,

Mae sêr ifanc Rownd a Rownd wedi mynd 'mlaen i lwyddo mewn sawl maes - actio, cyflwyno a chyfarwyddo i enwi ond tri.

Mae Robin hefyd yn dweud bod hiwmor yn bwysig, a ffeindio'r elfen gredadwy yn y straeon:

"Hygrededd y cymeriadau ac mae hiwmor yn bwysig iawn i Rownd a Rownd. Pan wyt ti yn delio efo rhywbeth ofnadwy o sensitif a thrist mae rhaid pecynnu hwnnw efo 'chydig o hiwmor o'i gwmpas yn lle bod o'n mynd yn rhy llethol. Credadwy 'di'r gair pwysig.

"Mae lot yn dweud wrtha i "ew ma' Rownd a Rownd yn real". Does 'na ddim byd ar deledu yn real nac oes; hygrededd di'r peth, ac os 'di nhw'n gredadwy, mae o'n gweithio."

Hefyd o ddiddordeb: