Ystyried safle ym Mhenfro ar gyfer cartrefu ffoaduriaid
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth y DU yn ystyried defnyddio cyn wersyll milwrol ger Dinbych-y-Pysgod ar gyfer cartrefu cannoedd o ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Mae Gwersyll Hyfforddi Penalun ymysg nifer o leoliadau sydd yn cael eu hystyried fel cartref dros dro i hyd at 250 o bobl.
Mae Ysgrifennydd Cymru Simon Hart, sydd hefyd yn aelod seneddol lleol, wedi cadarnhau fod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi bod yn edrych ar sawl safle ar draws y DU, gan gynnwys y safle ym Mhenalun.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Mr Hart ei fod wedi siarad gyda'r Ysgrifennydd Cartref am y gwersyll.
"Un safle sydd yn cael ei hystyried ar hyn o bryd yw Gwersyll Hyfforddi Penalun," meddai.
"Mae'r Swyddfa Gartref a'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn gweithio'n galed i sicrhau fod Gwersyll Hyfforddi Penalun yn cydymffurfio gyda rheolau Covid-19 ac fe fyddai'n cael ychydig iawn o effaith ar y gymuned leol.
"Mae'r Swyddfa Gartref yn amcangyfrif y byddai'r safle yn gartref dros dro i tua 250 o bobl os yw'r dewis hwn yn cael ei dderbyn.
"Rwyf mewn cyswllt gyda'r Ysgrifennydd Cartref a Chyngor Sir Benfro sydd yn siarad gyda Heddlu Dyfed Powys a rhanddeiliaid eraill."
Dywedodd y cynghorydd lleol Jonathan Preston fod swyddogion wedi ymweld â'r gwersyll ac roedd cyfarfodydd yn cael eu cynnal i drafod y cynnig, gan gynnwys cyfarfod ddydd Llun rhwng Cyngor Sir Benfro a'r Swyddfa Gartref.
"Yr ymateb oedd nad oedd unrhyw benderfyniad wedi ei wneud ac fe fydd rhagor o gyfarfodydd gyda rhanddeiliaid eraill - gan gynnwys Llywodraeth Cymru," meddai.
"Pentref bychan yw Penalun gyda 600 o bobl ac mae'r gwersyll yn ffinio gyda'r pentref.
"Rwyf wedi awgrymu dau fale arall mwy addas - byddai safle'r Awyrlu ym Mreudeth yn well dewis gan nad yw'n cael llawer o ddefnydd.
"Mae na ganolfan yr Awyrlu yn Swinderby yn Sir Lincoln na fyddai'n effeithio cymaint ar y gymuned.
"Rwy'n deall yn iawn yr angen a'r dyletswydd i ddarparu lloches i'r bobl hyn. Ond mae pobl yn pryderu am yr effaith os bydd hyn yn digwydd ar ein diwydiant twristiaeth bregus."
Aros am 'eglurhad llawn'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fe glywsom ni am hyn gan Lywodraeth y DU ddydd Gwener ac nid ydym eto wedi derbyn yr eglurhad llawn yr ydym wedi ofyn amdano.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi ei hymrwymo i fod yn Genedl Lloches, ond rhaid i ni sicrhau fod anghenion ceiswyr lloches yn cael eu diwallu ac y gallwn gefnogi unigolion i ymdoddi.
"Rydym yn gweithio gyda'r partneriaid perthnasol i sicrhau fod y pryderon hyn yn cael eu hateb a bod materion iechyd cyhoeddus hanfodol yn cael eu hystyried cyn bod unrhyw un yn cael eu symud."
Fe gyfeiriodd Cyngor Sir Benfro ymholiadau BBC Cymru at y Swyddfa Gartref.
Dywedodd llefarydd ar ei rhan: "Yn ystod yr amseroedd digynsail hyn mae'r llywodraeth yn gweithio gydag ystod o bartneriaid ac ar draws adrannau i sicrhau llety ychwanegol ac mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cynnig defnydd o rai o'i safleoedd.
"Wrth ddefnyddio llety wrth gefn rydym yn gweithio'n agos gyda sefydliadau, gan gynnwys awdurdodau lleol ac asiantaethau'r gyfraith i sicrhau gwerth am arian a bod ceiswyr lloches bregus, a fyddai fel arall yn amddifad, yn cael llety addas tra bod eu ceisiadau'n cael eu prosesu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Awst 2020
- Cyhoeddwyd19 Awst 2020
- Cyhoeddwyd18 Medi 2019