'Y flwyddyn waetha' bosib i raddio'

  • Cyhoeddwyd
Mabli Tudur ac Elan Meirion

I nifer o raddedigion 2020, mae'r dyfodol yn gallu edrych yn ansicr o safbwynt gwaith.

I ddwy sydd wedi graddio o golegau perfformio eleni, mae'r cyfleoedd am waith yn y diwydiant hwnnw wedi dod i ben yn gyfan gwbwl am y tro, gyda'r theatrau ar gau a'r llwyfannau yn wag.

Yma mae Elan Meirion a Mabli Tudur yn trafod y profiad o raddio yng nghanol pandemig:

Ffynhonnell y llun, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Elan Meirion - "Roedd yn siom i fethu perfformio a bod neb yn gallu dod i'n gweld ni ar ôl gweithio mor galed"

"Hon ydy'r flwyddyn 'waetha bosib i raddio, yn enwedig o gwrs perfformio. Does neb eisiau graddio y flwyddyn yma," meddai Elan Meirion sydd newydd orffen ei chwrs MA mewn perfformio yng Ngholeg Cerdd a Drama, Caerdydd.

Mae Elan yn un o gannoedd o fyfyrwyr sydd yn barod i gychwyn gyrfa mewn diwydiant sydd wedi cau.

Fe ddaeth y clo mawr wrth iddi hi a'i chyd-fyfyrwyr baratoi i gymryd rhan mewn sioe yn y brifysgol, uchafbwynt i'r gwaith yr oedden nhw wedi bod yn gweithio ato yn ystod y flwyddyn.

"O'n ni ar ganol rhoi sioe at ei gilydd a tua wythnos cyn oedd o fod ymlaen oedd yn rhaid cau'r coleg i lawr. Mynd adre wedyn a neud pethau ar draws Zoom, sy' bach yn anodd i gwrs perfformio.

"Roedd yn siom i fethu perfformio a bod neb yn gallu dod i'n gweld ni ar ôl gweithio mor galed," meddai Elan a dreuliodd y clo mawr yn gweithio ar ei sioe derfynol dros y we.

Tair wythnos yn ôl, fe ddaeth y criw yn ôl at ei gilydd i berfformio'r sioe wnaethon nhw weithio arni dros Zoom, ond gyda dim ond 12 o bobl yn y gynulledifa, meddai Elan, roedd hynny'n siom.

"Ti'n cerdded mlaen i'r llwyfan a ti'n disgwyl gweld y gynulleidfa yn llawn. Ond dim ond ambell i berson oeddan ni'n gallu gweld.

"Fel arfer ar ddiwedd cwrs MA mewn Perfformio, mae asiantau o'r diwydiant yn dod i wylio'r showcase ond eleni o'n ni'n gorfod ffilmio ein hunain yn canu adre, ei yrru at y tiwtoriaid a wedyn roedd hwnna'n mynd at asiantau ac ar wefan y Coleg Cerdd a Drama.

"Trwy wneud e dros y we, wnaeth e gyrraedd fwy o bobl na fyse wrth wahodd pobl i'r coleg i wylio'r sioe, felly oedd hynny yn un peth da i ddod allan ohono."

Ond dydy'r cyfryngau cymdeithasol a pherfformio'n rhithiol ddim yn gallu cymryd lle sefyll ar lwyfan, ac i fyfyriwr sydd wedi breuddwydio am berfformio am flynyddoedd, mae wynebu dyfodol ansicr yn siom.

Disgrifiad o’r llun,

Elan yn perfformio gyda'i thad, y canwr Rhys Meirion cyn i'r theatrau gau a'r cyngherddau gael eu gohirio

"Dwi wedi bod yn cadw fy hun yn brysur, mae'r coleg di cadw fi'n brysur a dwi di bod yn cadw i fynd tan rŵan, felly dwi heb feddwl gormod am y peth [bod y theatrau wedi cau].

"Ond efallai dros yr wythnosau nesa' yma fydd hi'n teimlo bach yn rhyfedd a gorfod aros misoedd cyn cael perfformio ar y llwyfan.

"Mae'r theatrau wedi cau ac mae'n debygol mai Gwanwyn 2021 fydd pethau'n ail agor - ar y cynharaf."

Roedd Elan Meirion wedi bwriadu mynd i fyw i Lundain y mis yma a dechrau mynd am glyweliadau ar gyfer sioeau, ond mae'r cynllun yna wedi gorfod newid am y tro.

"Rŵan dwi'n aros yng Nghaerdydd yn chwilio am waith rhan amser mewn bwytai nes bod yr auditions yn dechre dod i fewn.

"Mae 'na wefannau castio yn cynnig cyfleoedd i ddarllen sgripts a sesiynau Q&A gyda actorion a chyfarwyddwyr, felly dyna dwi'n neud ar hyn o bryd, mynd trwy Twitter a Instagram a gweld os oes cyfleoedd ar gael.

"Mae pawb yn yr un sefyllfa, dydy o ddim fel bod pawb arall yn symud ymlaen a fi ar ôl. Mae pawb yn yr un cwch, ac yn gefnogol iawn o'i gilydd."

Mabli Tudur - "Mae'r sefyllfa yma wedi newid fy nghynlluniau o ran swyddi a chlyweliadau yn gyfan gwbwl"

Ffynhonnell y llun, Mabli Tudur

"Fe orffennodd ein cwrs lot yn gynt na'r disgwyl, gyda dim ffarwel a dim closure," meddai Mabli Tudur o Greigiau ger Caerdydd a oedd yn astudio Theatr Cerdd ym Mhrifysgol Mountview yn Llundain, pan ddaeth cyfnod y clo mawr a'r coleg yn gorfod cau.

Wedi byw bywyd myfyriwr yn Llundain am dair blynedd, roedd Mabli Tudur yn gweld hi'n anodd addasu yn ôl i fywyd adre yng Nghreigiau, a delio gyda'r siom o orfod gorffen y cwrs yn ddisymwyth.

"Fel rhywun oedd yn graddio o ysgol ddrama, fe gollais i mas ar gyfleoedd hollol anhygoel gan gynnwys chwarae prif rhan mewn drama a pherfformio ein showcase ar lwyfan yn y West End.

Popeth yn digwydd am reswm

"Sylweddolais erbyn y diwedd fod pawb am golli mas ar rhywbeth yn ystod y cyfnod yma, felly fe dderbyniais taw nid fi oedd yr unig un.

"Mae'r sefyllfa yma wedi newid fy nghynlluniau o ran swyddi a chlyweliadau ac ati yn gyfan gwbwl, ond mae popeth yn digwydd am reswm yn fy marn i, felly dwi wedi dychwelyd yn ôl i Gymru yn y cyfamser fel bod modd i fi allu safio arian yn lle gwario ffortiwn ar rent yn Llundain.

"Does dim clyweliadau yn digwydd o gwbl ar hyn o bryd o ganlyniad i'r pandemig - mae'r sefyllfa out of my hands."

Er y bydd Mabli yn ceisio cadw mewn cysylltiad gyda phobl o fewn y diwydiant a pharhau i ymarfer ei chrefft, mae'n anodd i weld y theatrau ar glo a'r llwyfannau yn wag.

"Dwi'n cael dyddiau da a drwg. Rhaid i fi atgoffa fy hun yn ddyddiol bod y seibiant yma dros dro ac mi fydd ein llwyfannau a'n sgrins yn dangos cynnwys newydd a chyffrous cyn bo hir.

"Am nawr dwi'n gwneud jobsys bach er mwyn gallu safio arian a chadw'n hunan yn brysur drwy ddatblygu fy nghrefft.

"[Dwi'n teimlo galar am y diwydiant] bob dydd. Dwi'n caru'r diwydiant!"

Ffynhonnell y llun, Mabli Tudur

Barod i ail gychwyn

"Sai'n credu bod pobl yn sylweddoli pa mor ddibynol ydyn ni ar adloniant.

"Yn ystod lockdown, dwi di gweld cymaint o bobl yn cwyno am y ffaith bod dim angen funds i redeg y [celfyddydau], ond ar ddiwedd y dydd mae gan bob un person rhaglen deledu maen nhw'n hoff o wylio sydd i gyd yn cael eu cynyrchu gan bobl sy'n gweithio o fewn y diwydiant, so think twice cyn i chi rannu'ch barn am y peth!

"Dwi'n cymryd bob dydd fel y daw. Mi fydd hwn yn dod i ben a does dim syniad gyda chi pa mor barod fyddai [i ail gychywn arni]."

Hefyd o ddiddordeb: