Newid byd yng nghartref Glyn Nest wrth iddo gyrraedd 50
- Cyhoeddwyd
Roedd yna gryn ddathliad i fod yng nghartref gofal Glyn Nest yng Nghastellnewydd Emlyn y mis hwn a hynny wrth i'r cartref, sy'n eiddo i enwad y Bedyddwyr, ddathlu ei ben-blwydd yn hanner cant.
Ond yn sgil cyfyngiadau haint coronafeirws mae'r dathliadau wedi'u gohirio am y tro.
"Fe fydd rhaid cael parti go iawn y flwyddyn nesaf, mae Covid wedi rhoi stop ar bethau 'leni," medd y rheolwraig Jayne Evans.
Dywed Ms Evans, a ddaeth i weithio i'r cartref gyntaf yn1986 ac sydd wedi dychwelyd yno, nad oes cyfnod tebyg wedi bod i'r saith mis diwethaf.
"Rhaid cadw'r 28 sy'n byw yma yn gwbl saff - dyna'r flaenoriaeth," meddai.
'Gweddïo na ddaw Covid'
"Fi'n cyfaddef fi wedi bod yn stressed iawn ond rwy'n credu bo fi'n dod mas o'r cyfan yn berson cryfach.
"Ni wedi dod trwyddi mor belled, ond cofiwch, fi'n gweddïo bob nos nad yw Covid yn dod 'ma.
"Mae bywyd y deiliaid wedi altro yn llwyr. Ro'n i wedi dechrau 'neud ymweliadau gardd a wedyn wedi cynllunio bod teuluoedd yn cael dod i'r conservatory ond mae hynna i gyd ar stop eto nawr ac ry'n ni nôl lle'r oedden ni.
"Ni'n deulu i'r rhai sy'n byw 'ma - yn enwedig yn ystod y saith mis diwethaf. Ni gyd yn helpu'n gilydd a'r prif nod yw cadw pawb yn hapus.
"Pam mae rhywun yn gofyn am farwolaethau mewn cartrefi gofal - wi'n gweud wrthyn nhw am beidio edrych ar y newyddion."
Agorodd cartref Glyn Nest ym mis Medi 1970 ond fe ddaeth y freuddwyd i'w sefydlu ryw 30 mlynedd cyn hynny gan wraig o'r enw Bessie Daniels.
Roedd hi wedi colli ei gŵr y Parchedig Gwilym Daniels pan oedd yn 32 oed a gwelodd yr angen am "sefydlu cartref i'r hen a'r methedig o dan enwad y Bedyddwyr".
Ni fu fyw i weld y cartref yn agor ond wedi ei marwolaeth yn 1963 fe wnaeth nifer o wragedd eraill sicrhau bod ei breuddwyd yn dod yn wir.
'Hafan glyd ar fin y glyn'
Un sy'n byw yn y cartref heddiw yw Myra Davies, nith Bessie Daniels, ac mae hi hefyd wedi bod yn drysorydd y cartref.
"Does 'na ddim lle tebyg - mae'r ystafelloedd yn fawr, yr ardd yn hyfryd a'r gofal yn dda. Mae wedi bod yn anodd y misoedd diwethaf wrth gwrs. £10 yr wythnos oedd y gost i ddechrau i aros yma," meddai.
Mae Beti Davies, yr un mor ganmoliaethus a than ei farwolaeth yn ddiweddar roedd ei gŵr y Parchedig D. Islwyn Davies, cyn-Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Bedyddwyr Cymru, yn byw yn y cartref hefyd.
"Mae byw yn Glyn Nest yn brofiad hyfryd iawn. Ro'n i'n dau bron yn 90 yn cyrraedd yma.
"Rhaid canmol y cartref yn fawr. Fuodd fy ngŵr farw ym Mai eleni ond fe wnaeth y staff yma bopeth drosto fe."
"Do'n i erioed yn meddwl y byddai Glyn Nest yn dod yn gymaint o ran o fy mywyd i, meddai Hywel Davies, mab Beti a'r diweddar Barchedig Islwyn Davies.
"Wi'n cofio Dad yn mynd i lot o bwyllgorau pan ro'n i yn dechrau'r Brifysgol ond ar y pryd doedd gen i fawr o ddiddordeb - pwy fyddai'n meddwl bod Dad a Mam wedi mynd yno i fyw? Ond mae safon y gofal yn y cartref yn benigamp - ac mae naws y lle yn barchus, crefyddol a Chymreig."
Y Parchedig Irfon Roberts yw cadeirydd y pwyllgor tŷ a phwyllgor y cyfarwyddwyr. Er bod y cartref yn fenter fasnachol dywed bod "ymroddiad gwirfoddolwyr a chefnogaeth eglwysi ledled Cymru" wedi cyfrannu'n fawr at lwyddiant Glyn Nest.
Gan ddyfynnu englyn Wyn Owens, Mynachlog Ddu, dywed bod y cartref yn 'Hafan glyd ar fin y glyn'.
'Parti mawr yn 2021!'
"Mae pawb yma fel mamgu a thadcu i ni'r staff," ychwanega'r rheolwraig Jayne Evans.
"Ma' colli rhywun yn hynod anodd gan bo ni'n un teulu mawr."
"Ro'n i wedi meddwl dathlu'r garreg filltir bwysig hon ym mis Medi ond ma' Covid wedi dod ar ein traws.
"Ond ni'n mynd i ddod mas o'r pandemig 'ma a bydd parti mawr y flwyddyn nesaf.
"Am y tro fe wnawn ni neud yn siŵr bo ni'n rhoi bwyd a gofal i bawb a chadw pawb yn saff," ychwanegodd Ms Evans.
Gellir clywed y cyfweliadau yn llawn yn rhifyn dydd Sul, Medi 21 o Bwrw Golwg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mai 2020
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2020