'Gwersyll milwrol ddim yn gartref diogel i ffoaduriaid'

  • Cyhoeddwyd
GwersyllFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Gwersyll Penalun

Daeth oddeutu 100 o bobl ynghyd ar draeth Dinbych-y-pysgod dros y penwythnos i ddangos eu cefnogaeth i ffoaduriaid.

Lai nag wythnos yn ôl fe ddaeth i'r amlwg fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystyried cartrefu 250 o ffoaduriaid a cheiswyr lloches mewn cyn wersyll milwrol yn yr ardal.

Mae gwersyll hyfforddi Penalun ymysg nifer o leoliadau sydd yn cael eu hystyried.

Y grŵp Sefwch yn erbyn Hiliaeth drefnodd y brotest ar Draeth y Gogledd, a thanlinellwyd yn ystod sawl araith fod croeso i ffoaduriaid yn yr ardal, ond mae pryder am unrhyw gynllun i leoli'r ffoaduriaid mewn hen wersyll milwrol.

Yn ôl Dylan Lewis-Rowlands o Sefwch Yn Erbyn Hiliaeth, diogelwch yw'r flaenoriaeth.

"Ni ishe gweld y ffoaduriaid yn saff," dywedodd. "Dyna sy' bwysica'. A ni ishe pwysleisio fod y mwyafrif yn erbyn hiliaeth."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Dylan Lewis-Rowlands o Sefwch Yn Erbyn Hiliaeth, diogelwch yw'r flaenoriaeth

Mae Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, sydd hefyd yn aelod seneddol lleol, wedi cadarnhau fod y Swyddfa Gartref wedi bod yn edrych ar sawl safle ar draws y DU, gan gynnwys y cyn wersyll milwrol ym Mhenalun sydd rhyw ddwy filltir o Ddinbych-y-pysgod.

Yn ôl trefnwyr y brotest ar draeth Dinbych-y-pysgod, dyw gwersyll milwrol ddim yn gartref addas ar gyfer ffoaduriaid. Mae'n nhw'n dadlau y dylai ffoaduriaid gael cartrefi priodol yn yr ardal yn ogystal â chyfleoedd swyddi ac addysg .

Ac mae 'na feirniadaeth o'r modd y mae'r Swyddfa Gartref wedi delio a'r mater yn ôl Dylan Lewis-Rowlands.

Disgrifiad o’r llun,

Mae croeso i ffoaduriaid ym Mhenalun ond rhaid cael cartrefi diogel, medd ymgyrchwyr

"Dyw e ddim wedi bod yn ddemocrataidd. O 'nealltwriaeth i, doedden nhw ddim 'di gofyn i'r sir [Cyngor Sir Penfro]. Gyda safle milwrol - ar sail dyngarol, ma' raid i ti ofyn a fyddai'r ffoaduriaid yn saff. Ni yn gwrthwynebu y lle y bydden nhw'n cael eu rhoi."

'Dim ymgynghori'

Roedd llond dwrn wedi dod draw i'r traeth i ddatgan eu hanfodlonrwydd â'r cynlluniau a'r brotest. Yn ôl un wraig sy'n byw ym Mhenalun, does neb wedi ymgynghori â hi.

"Ni'n byw ar bwys. Ni 'di gweld yr heddlu yn patrolio, gwelyau yn mynd mewn i'r safle. 'Nath neb siarad â ni, a dylen hynny fod wedi digwydd."

'Trafodaethau ar y gweill'

Yn ôl Simon Hart AS, mae'r Swyddfa Gartref yn amcangyfrif y byddai'r safle yn gartref dros dro i tua 250 o bobl os yw'r dewis hwn yn cael ei dderbyn.

Dywedodd: "Rwyf mewn cyswllt gyda'r Ysgrifennydd Cartref a Chyngor Sir Benfro sydd yn siarad â Heddlu Dyfed-Powys a rhanddeiliaid eraill."

Yn ôl y cynghorydd lleol, Jonathan Preston, mae swyddogion wedi ymweld â'r gwersyll ac roedd cyfarfodydd yn cael eu cynnal i drafod y cynnig, gan gynnwys cyfarfod ddydd Llun rhwng Cyngor Sir Penfro a'r Swyddfa Gartref.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Llywodraeth Cymru wedi ei hymrwymo i fod yn Genedl Lloches, ond rhaid i ni sicrhau fod anghenion ceiswyr lloches yn cael eu diwallu ac y gallwn gefnogi unigolion i ymdoddi.

"Rydym yn gweithio gyda'r partneriaid perthnasol i sicrhau fod y pryderon hyn yn cael eu hateb a bod materion iechyd cyhoeddus hanfodol yn cael eu hystyried cyn bod unrhyw un yn cael eu symud."