Teyrngedau i un o artistiaid 'mwyaf a phwysicaf' Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i un o gerflunwyr amlycaf Cymru, John Meirion Morris, fu farw yn 84 oed.
Mae'r cerflunydd o Lanuwchllyn, ger Y Bala yn gyfrifol am sawl penddelw sy'n anfarwoli rhai o ffigyrau diwylliannol amlycaf Cymru, yn cynnwys Saunders Lewis, Waldo, Dr Gwynfor Evans, Gerallt Lloyd Owen a Ray Gravell.
Fe ddyluniodd hefyd gofeb efydd anferth i goffa boddi Tryweryn yn y gobaith o'i gosod ar lan Llyn Celyn, ond oherwydd problemau ariannu, er ymgyrch gyhoeddus, ni chafodd y cynllun ei wireddu.
Yn 2001 fe dderbyniodd Wobr Glyndŵr am ei gyfraniad aruthrol i fyd y celfyddydau yng Nghymru.
Cafodd John Meirion Morris ei eni yn Llanuwchllyn lle roedd ei rieni yn berchen ar siop, ac fe astudiodd yng Ngholeg Celf Lerpwl rhwng 1956 a 1960.
Wedi cyfnod yn gweithio fel athro celf yn Llanidloes, cafodd ei swydd ddarlithio cyntaf yn Leamington Spa.
Aeth ymlaen i ddarlithio ym Mhrifysgol Kumasi yn Ghana ac ym Mhrifysgol Lerpwl cyn treulio rhai blynyddoedd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Dychwelodd i Lanuwchllyn yn 1977, gan ganolbwyntio ar ei waith celf, a "bwriadu dylunio cerrig beddau am gyfnod" yn ôl ei ferch, Iola Edwards.
Aeth yn ôl i ddarlithio, ym Mhrifysgol Bangor y tro hwn, cyn ymddeol tua dechrau'r 1990au a chanolbwyntio unwaith eto ar ei waith celf, er ei fod "wedi cerflunio ar hyd y blynyddoedd".
Bu sawl arddangosfa ar draws Cymru a cafodd model o Gofeb Tryweryn ei arddangos am dair blynedd yn Llysgenhadaeth Prydain yn Efrog Newydd.
Mae'r gofeb ar ffurf aderyn ac fe ddisgrifiodd John Meirion Morris blu'r adenydd "fel rhesi o bennau'n canu, a hyd yn oed yn gweiddi, yn union fel pe baent yn protestio". Roedd y ddelwedd, meddai, "yn mynegi ein sefyllfa wantan ni fel Cymry i warchod ein gwlad".
'Tawelwch a myfyrdod mewnol'
"Byddai'r delweddau a'r symbolau yn dod iddo wrth fyfyrio," meddai Iola Edwards, sydd hefyd yn artist ac wedi trafod Cofeb Tryweryn gyda disgyblion yn ardal Y Bala.
"Er nad oedd yn grefyddol yn yr ystyr draddodiadol, roedd yn grediniol fod tawelwch a myfyrdod mewnol yn rhoi ysbrydoliaeth fawr iddo.
"Roedd o'n gweld grymoedd yn y gwaith cynnar Celtaidd ac yn ngherfluniau gwaith Affricanaidd.
"Ei gredo oedd: 'Teyrnas nefoedd o'ch mewn chwi y mae'."
'Dwylo John fel camera'
"Ym marwolaeth John Meirion collodd Cymru un o'i hartistiaid mwyaf a phwysicaf," meddai un o'i ffrindiau, y dramodydd a'r llenor Aled Jones Williams. "Meddai ar weledigaeth hollol unigryw.
"Gweledigaeth wedi ei seilio ar ei ddirnadaeth ef o'r byd Celtaidd ydoedd, yr ysgrifennodd amdani yn ei lyfr pwysig Y Weledigaeth Geltaidd.
"Y mae rhywbeth elfennol iawn am ei weithiau, yn drybola o gyntefigrwydd, hen waed, peth trais, a'r creiddiol-hanfodol; a'r cwbl wedi eu cyflwyno a phrydferthwch meistr ar ei grefft.
"Cofier hefyd am y penddelwau o enwogion ein gwlad. Dwylo John fel camera yn cyflwyno portread cysact, ond yn bwysicach na'r tebygrwydd ei allu i ddal rhywsut hanfod yr unigolyn. Efallai mai'r penddelwau fydd ei wir waddol yn y man.
"Ei air mawr oedd 'presenoldeb'. A dyna sy'n tasgu o'i holl weithiau: yn eu gwydd meddienir yr un sy'n edrych arnynt gan eu presenoldeb nerthol a bywiol. Ond y presenoldeb mwyaf oedd John ei hun: John, mawr ei ddynoliaeth, hael ei ddyngarwch."
Mae John Meirion Morris, yn gadael gwraig, Gwawr, eu merch, Iola a'u mab, Alwyn. Mae'r cerflun 'Pieta' yn cofio mab arall, Dylan, a fu farw o diwmor ar yr ymennydd yn 2002.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Medi 2019
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd28 Medi 2012