Trên Llangennech: 'Brêcs diffygiol' wedi niweidio olwynion

  • Cyhoeddwyd
Llangennech
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 10 o wagenni yn cludo hyd at 75.5 tunnell o danwydd yr un

Nam ar y brêcs oedd yn gyfrifol am achosi damwain trên ger Llanelli wnaeth arwain at ollwng 330,000 litr o danwydd, yn ôl arolygwyr.

Fe wnaeth y nam achosi i'r trên adael y cledrau gan arwain at dân enfawr, gyda 300 o bobl ym mhentref Llangennech yn gorfod gadael eu cartrefi ar 26 Awst.

Dywedodd ymchwilwyr o'r RAIB - y corff sy'n ymchwilio i achosion damweiniau trên - fod olwynion y trên yn ôl pob tebyg yn gweithio yn ôl yr arfer wrth adael purfa Robeston yn Aberdaugleddau ar ddiwrnod y ddamwain.

"Ond ar ryw adeg yn ystod y daith" fe wnaeth brêcs y drydedd wagen ddod ymlaen, meddai'r arolygwyr.

Yn ôl adroddiad cychwynnol yr arolygwyr fe wnaeth y wagen yna, a'r naw oedd yn ei dilyn, ddod oddi ar y cledrau.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth 10 o danciau tanwydd oddi ar y cledrau

Daeth y trên a'r ddwy wagen arall i stop o fewn 180 metr.

Dywed yr ymchwilwyr fod y gyrrwr wedyn wedi datgysylltu'r wagenni a gyrru 400 metr o safle'r ddamwain.

Yna, rhoddodd wybod i signalwr am y ddamwain.

Roedd y trên yn teithio ar gyflymdra o 30mya pan ddigwyddodd y ddamwain.

Ffynhonnell y llun, Steve Liddiard
Disgrifiad o’r llun,

Roedd safle'r ddamwain ger aber Afon Llwchwr

Mae pryder fod y digwyddiad wedi achosi niwed mawr i'r diwydiant cocos lleol, ac i'r amgylchedd.

Dywed yr RAIB y bydd yr ymchwiliad yn ceisio atebion i pam fod y brêcs wedi dod ymlaen, hanes cynnal a chadw y wagen, ac unrhyw ffactorau eraill y gallai fod wedi achosi'r ddamwain, a sut bod hyn wedi arwain at ollwng y tanwydd.

Roedd y trên, syn eiddo i DB Cargo UK, yn teithio i ganolfan dosbarthu tanwydd yn Theale, Berkshire.