Cefnogwyr Wrecsam gam yn nes tuag at werthu'r clwb
- Cyhoeddwyd
Mae cefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi cymryd y cam cyntaf tuag at ganiatáu buddsoddwyr i gymryd drosodd.
Pleidleisiodd rhan helaeth o aelodau Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam o blaid caniatáu i sgyrsiau gyda "dau unigolyn adnabyddus iawn o werth net uchel" fynd yn eu blaen.
Dywedir bod y pâr, a oedd yn dymuno aros yn ddienw, yn bwriadu buddsoddi £2m yn y clwb ar unwaith.
Pleidleisiodd cyfanswm o 1,223 o aelodau yn y cyfarfod cyffredinol arbennig ddydd Mawrth - gyda dim ond 31 yn erbyn.
Mae Wrecsam wedi bod o dan berchnogaeth y cefnogwyr ers 2011.
Ar ôl y cyfarfod, cyhoeddodd yr ymddiriedolaeth ddatganiad a ddywedodd: "Bydd y bwrdd nawr yn bwrw ymlaen â sgyrsiau, a bydd yn diweddaru aelodau ar y camau nesaf cyn gynted â phosib."
Dim ond os caiff ei gymeradwyo mewn cyfarfod cyffredinol arbennig yn ddiweddarach y gall y gwerthiant fynd yn ei flaen.
Bydd y trafodaethau'n parhau gyda thymor y Gynghrair Genedlaethol i fod i gael ei ohirio oherwydd effeithiau pandemig coronafeirws.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Medi 2020