Pryder am effaith mesurau clo ar gwsg crwbanod
- Cyhoeddwyd
Mae gwarchodfa ar gyfer crwbanod yn dweud eu bod wedi derbyn cannoedd o alwadau ffôn gan berchnogion yn poeni y bydd cyfyngiadau clo lleol yn effeithio ar aeafgwsg eu hanifeiliaid.
Bob gaeaf mae canolfan Cymdeithas Rhyngwladol Crwbanod yn Sili, Bro Morgannwg yn gofalu am 200 o grwbanod mewn canolfan lle mae'r tymheredd wedi ei reoli'n ofalus.
Ond dywed yr elusen fod tua thraean o'u 500 o aelodau yn byw mewn ardaloedd sy'n wynebu cyfyngiadau, ac felly yn methu â theithio o'u cartrefi.
"Mae'r anifeiliaid yma mewn peryg," meddai un gwirfoddolwr.
'Tywydd anaddas'
Mae yna chwech o siroedd - Caerffili, Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Merthyr Tudful a Chasnewydd dan fesurau clo. Golygai hynny na all pobl fynd i'r siroedd nac eu gadael heb esgus rhesymol.
Dywedodd Ann Ovenstone, sylfaenydd yr elusen: "Mae'n rhaid iddyn nhw ddod yma er mwyn iddynt allu mynd i gysgu, oherwydd mae'n amlwg fod y tywydd yn y rhan fwyaf o Gymru yn anaddas ar gyfer hynny.
"Ond oherwydd bod yr holl siroedd mewn amodau clo, rydym yn poeni na fydd y bobl yma yn gallu dod â'u crwbanod yma."
Dywedodd un o'r gwirfoddolwyr, Celia Claypole: "Rydym yn cael galwadau drwy'r amser gyda phobl yn ffonio yn poeni na allant ddod yma.
"Dyw hyn ddim yn fwy pwysig na'r broblem iechyd sy'n ein hwynebu, ond mae'n ychwanegu at y pwysau a'r tensiynau ar bobl."
Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn glir o ran ardaloedd dan fesurau clo nad yw nôl neu gludo anifail anwes yn cael ei gyfrif yn daith angenrheidiol
Ond mae yna gymal sy'n caniatáu teithio ar gyfer lles anifail.
Dywedodd Ms Claypole eu bod wedi bod yn ceisio ateb i'r cwestiwn a ydynt yn dod o dan y categori yma.
"Rydym ni o'r farn fod yr anifeiliaid yma mewn peryg."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Medi 2020
- Cyhoeddwyd22 Medi 2020
- Cyhoeddwyd21 Medi 2020