Teyrnged i 'ŵr addfwyn' fu farw mewn gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
Iwan Lloyd JonesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd gweddw Iwan Lloyd Jones ei fod yn "ŵr cariadus, addfwyn, hael a meddylgar"

Mae teulu dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ger Llandeilo yn gynharach fis Medi wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Iwan Lloyd Jones, 60 oed, yn dilyn gwrthdrawiad gyda char ar ffordd osgoi'r A40 ger y dre.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi cael eu galw i'r gwrthdrawiad rhwng car Citroën Xsara llwyd a beic modur Triumph Daytona melyn ar brynhawn 9 Medi.

Mewn datganiad, dywedodd ei weddw Mandy Jones: "Roedd Iwan yn ŵr cariadus, addfwyn, hael a meddylgar. Roedd e nid yn unig yn ŵr i mi, fe oedd fy ffrind gorau.

"Mae e wedi gadael bwlch mawr yn fy nghalon, ond mae'n gysur meddwl y bydd e wastad o 'nghwmpas i 'ngwarchod a gofalu amdana i.

"Bydd colled enfawr ar ei ôl - cysga'n dawel cariad bach. Caru ti."

Mae'r heddlu yn dal i apelio am dystion i'r gwrthdrawiad.

Dylai unrhyw un all fod o gymorth ffonio'r heddlu ar 101 gan nodi rhif digwyddiad 187 ar 9 Medi.