Clwb Drefach: Ymddiheuriad wedi i 100 orfod hunan-ynysu

  • Cyhoeddwyd
Clwb Criced a Phêl-droed Drefach yn Sir Gaerfyrddin
Disgrifiad o’r llun,

Clwb Criced a Phêl-droed Drefach yn Sir Gaerfyrddin - tarddiad yr achos o heintio cymunedol wedi noson wobrwyo yno

Mae clwb chwaraeon wedi ymddiheuro ar ôl i 100 o bobl orfod hunan-ynysu, ac 14 o achosion o Covid-19 gael eu cysylltu gyda digwyddiad yno.

Daeth hyd at 80 o bobl i'r noson wobrwyo yng Nghlwb Criced a Phêl-droed Drefach ddiwedd Awst.

Mae'r clwb wedi ymddiheuro am "ein rôl wrth ledaenu feirws covid yn ein cymuned".

Er bod pabell wedi ei drefnu ar gyfer y digwyddiad, cafodd y seremoni ei symud y tu mewn ar ôl i'r babell gael ei difrodi.

Mewn datganiad, fe wnaeth y clwb gydnabod "nad oedd y mesurau helaeth sydd eu hangen i gadw pobl yn ddiogel yn cyrraedd y nod".

"Er bod ymgais i ddilyn y rheolau roedd ardaloedd nad oedd yn ddigon da, ac mae'n rhaid i ni fel Clwb Drefach gydnabod ein rhan..."

Disgrifiad o’r llun,

Arwydd mewn ffenest siop yn Drefach yn rhybuddio pobl oedd yn y noson wobrwyo i gadw draw

Ychwanegodd: "Rydyn ni'n ymddiheuro am yr hyn ddigwyddodd ac rydyn ni wedi dysgu o'n camgymeriadau. Rydyn ni'n gobeithio y gall bawb sy'n gysylltiedig â'r clwb faddau i ni."

Dywedodd y clwb nad oedd wedi derbyn cosb am yr hyn ddigwyddodd, ond ei bod wedi derbyn cymorth gan Gyngor Sir Gâr.

Mae glanhau trylwyr wedi ei gwblhau, meddai'r datganiad, a chydlynydd coronafeirws wedi ei benodi.