Gallai Caerdydd wynebu cyfyngiadau Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Caerdydd

Gallai prifddinas Cymru wynebu cyfyngiadau lleol wrth i'r nifer o achosion Covid-19 yno godi "yn gyflym".

Mae arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, wedi rhybuddio am gyfyngiadau ar deithio a chymysgu rhwng aelwydydd.

Dywedodd mewn cyfarfod rhithiol o'r awdurdod bod yr ardal wedi gweld 38.2 o achosion o coronafeirws am bob 100,000 o bobl dros y saith diwrnod diwethaf.

Ychwanegodd Mr Thomas fod y ddinas ar fin mynd i mewn i "ardal goch" Llywodraeth Cymru.

Os fydd hynny'n digwydd, yna dywedodd ei fod "yn disgwyl y byddwn yn gweithredu cyfyngiadau pellach fel yr ydym wedi gweld mewn rhannau eraill o dde Cymru".

Gofynnodd cynghorydd Ceidwadol, Jayne Cowan i Mr Thomas os fyddai Caerdydd yn wynebu cyfyngiadau o fewn y 48 awr nesaf.

Atebodd: "Fe edrychwn ni ar y ffigyrau eto yn y bore, a gwneud penderfyniad ar sail hynny."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 38.2 achos ymhob 100,000 wedi bod yng Nghaerdydd yn ystod yr wythnos ddiwethaf

Dywedodd Mr Thomas bod yna gynnydd sylweddol wedi bod mewn achosion positif pobl rhwng 35 a 50 oed.

Bydd unrhyw gyfyngiadau newydd yn cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru.

Cadarnhaodd Mr Thomas ei fod wedi cyfarfod â'r Prif Weinidog Mark Drakeford a'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething cyn y cyfarfod nos Iau.

Mae gan Gaerdydd boblogaeth o 366,903 a dyma fyddai'r seithfed ardal i weld cyfyngiadau ychwanegol yn cael eu cyflwyno.

Eisoes dyw trigolion Caerffili, Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Merthyr Tudful a Chasnewydd ddim yn cael gadael eu hardaloedd heb esgus rhesymol.