'Hanfodol' i BBC Cymru symud i gartref newydd eleni

  • Cyhoeddwyd
CSq

Roedd yn "hanfodol" adleoli pencadlys BBC Cymru eleni er gwaethaf y pandemig, yn ôl cyfarwyddwr y gorfforaeth.

Cartref newydd yng nghanol dinas Caerdydd sy'n cymryd lle'r Ganolfan Darlledu yn Llandaf, ac mae'r BBC wedi buddsoddi £100m yn yr adeilad newydd.

Mae rhaglenni teledu newyddion y BBC ar fin cychwyn darlledu o'r pencadlys newydd, ddeufis ar ôl i'w gwasanaethau radio symud i'r adeilad newydd.

Dywedodd Rhodri Talfan Davies fod yr hen bencadlys bellach yn "hollol anaddas" ar gyfer darlledu cyfoes.

Y pencadlys newydd yn y Sgwâr Canolog ydy'r cyntaf yn y DU i ddefnyddio technoleg IP, ac mae'r BBC yn dweud i'r adeilad fod yr un gorau o'i fath yn Ewrop.

Mae'r adeilad eisoes yn gyfrifol am ddarlledu sianeli BBC One Wales a BBC Two Wales, a dechreuodd Radio Wales a Radio Cymru ddarlledu o'r safle ym mis Gorffennaf.

Cafodd y rhaglen deledu gyntaf ei darlledu o'r pencadlys newydd ddydd Mawrth, pan gafodd gêm bêl-droed merched Cymru yn erbyn Norwy ei chyflwyno o un o'r stiwdios newydd.

Yn ddiweddarach ym mis Medi bydd y rhaglenni teledu dyddiol Wales Today a Newyddion S4C yn cael ei darlledu o stiwdio newydd yn yr adeilad.

Dywedodd cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies: "Fyddech chi byth yn dewis symud darlledwr modern yng nghanol pandemig byd-eang. Ond roedd yn hanfodol. Allwn ni ddim fforddio, yn ystod cyfnod argyfwng fel hyn, i gael ein seilwaith darlledu yn gweithredu ar draws sawl safle.

"Mae hon yn dechnoleg fodern, sy'n addas at y diben. Mae Llandaf wedi heneiddio. Felly er gwaethaf holl gyfyngiadau pellhau cymdeithasol, roedd yn hollbwysig ein bod wedi symud, ac mae'r tîm wedi perfformio gwyrthiau i'n cael ni i'r pwynt hwn."

Mae mesurau pellhau cymdeithasol yn golygu y bydd tua 80% o'r staff yn parhau i weithio gartref, a dim ond yr aelodau staff hynny sy'n ymwneud ag allbwn darlledu hanfodol sy'n cael gweithio o'r adeilad.

Mae'r BBC wedi buddsoddi £100m yn yr adeilad newydd a dwedodd Mr Davies fod y prosiect dal o fewn ei gyllideb. Ychwanegodd y byddai cynulleidfaoedd yn gweld y gwahaniaeth.

Dydy'r BBC ddim wedi cadarnhau gwerth gyfan yr adeilad newydd oherwydd cytundeb cyfrinachedd yn ymwneud â gwerthaint adeilad Llandaf.

"Byddwn yn cyflawni'r prosiect hwn yn ei gyfanrwydd o fewn y gyllideb 'da ni wedi'i gosod, ac mae hynny'n wych.

"Buddsoddiad yw hwn mewn darlledu yng Nghymru am yr 20 neu 0 mlynedd nesaf. Dydyn ni ddim wedi buddsoddi llawer yn Llandaf am yr 20 mlynedd diwethaf wrth i ni aros i symud.

"Beth sydd gyda ni yma ydy'r dechnoleg, y cyfleusterau, y stiwdios - popeth sydd ei angen arnoch chi er mwyn i ddarlledwr modern allu gwneud ei gwaith creadigol gorau am yr 20 neu 30 mlynedd nesaf. Ac yn fwy na hynny, ry'n ni'n gobeithio bydd y gynulleidfa yn gweld y budd hwnnw ar y sgrin yn syth."

Ffynhonnell y llun, Patrick Olner

Mae'r adeilad newydd yn rhan o ailddatblygiad canol dinas Caerdydd. Y derfynfa fysiau newydd, sydd wedi'i gohirio, ydy darn olaf jig-so enfawr o adeiladau sydd wedi codi o flaen gorsaf Ganolog Caerdydd.

Mae Dr Jamie Medhurst o Brifysgol Aberystwyth yn dweud y bydd yr adeilad yn cynnig cyfle i'r BBC i newid.

"O ran meddwl am ddarlledu heddi, natur darlledu a gwneud hynny ar wahanol blatfformau fel y cyfryngau cymdeithasol, roedd angen newid i rywle fwy modern, a rhywle gwell i weithio ar gyfer yr oes darlledu newydd.

"Mae yn gyfle i'r gweithlu yn BBC Cymru i newid.

"Dyma adeilad newydd sbon, dyma gyfle newydd i'r BBC i gyrraedd cynulleidfa wahanol ond hefyd i ddenu pobl a mwy o amrywiaeth i mewn i'r BBC i weithio. Adeilad newydd, technoleg newydd, fformat newydd i'r ffordd mae'r BBC yn gweithio."

Mae symud o Landaf wedi arwain at lawer o hiraeth i Rhodri Talfan Davies - ond dim difaru.

"Ie, fyddai yn colli Llandaf. Roeddwn i'n arfer cerdded heibio'r adeilad hwnnw bob dydd pan o'n yn yr ysgol dros y ffordd. Ac ar yr adeg hynny fe greodd ynddo fi'r syniad o ramant darlledu, y sêr i gyd, a'r holl bethau hynny. Mae 'na atgofion anhygoel.

"Ond mae hefyd yn gwbl anaddas i'r hyn sydd ei angen ar ddarlledwr modern. Dyna sydd gennym ni yma yn y Sgwâr Canolog, a mwy na hynny, rydyn ni'n gallu bod yn llawer, llawer agosach at ein cynulleidfaoedd yng nghanol dinas anhygoel o amrywiol."