'Pobl ddim yn bwyta'n iawn oherwydd Covid'

  • Cyhoeddwyd
Woman with surgical mask looks out of a windowFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae rhai pobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl yn llwgu eisiau bwyd oherwydd eu pryderon am Covid, yn ôl un elusen.

Dywed Growing Space bod yn well gan bobl "fynd heb fwyd" na gadael eu cartrefi i fynd i siopa.

Yn ôl clinigwyr ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan, gellir disgwyl cynnydd yn nifer y bobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl y gaeaf nesaf.

Maen nhw'n dweud bod pobl sydd eisoes â phroblemau yn fwy pryderus yng nghyfnod y pandemig.

Un sydd wedi gweld ei gorbryder yn gwaethygu yn y pandemig yw Rhiannon Currie - cymaint felly fel ei bod yn aml yn peidio bwyta.

'Yn fwy diogel adre'

"Rwy'n teimlo lot gwell pan dwi adre gan bo fi'n gwybod bo fi'n ddiogel rhag pob dim," meddai.

Ffynhonnell y llun, Morrisons
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai pobl gyda chyflyrau iechyd meddwl yn ofn mynd i siopa yn ystod y pandemig

Pan mae Rhiannon yn teimlo'n llwglyd, mae'n well ganddi archebu bwyd o'r archfarchnad ond weithiau mae'n cymryd dyddiau i'r archeb gyrraedd ond mae'n well ganddi hynny na gadael ei chartref.

"Os rwy'n teimlo bod angen mynd i'r siop, 'nai berswadio fy hun i fynd neu dwi'n meddwl 'nai fynd fory yn lle heddiw ac felly rwy'n gohirio'r siopa o hyd," meddai.

Dywed Growing Space, sy'n helpu cleifion iechyd meddwl i gael bwyd a meddyginiaeth eu bod yn disgwyl "ton" o bobl a fydd angen help yn ystod y misoedd nesaf.

'Yn rhy ofnus i siopa'

Mae'r elusen yn cynnal pob math o driniaethau ar draws ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ac maen nhw'n gobeithio ehangu eu gwasanaeth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro oherwydd y cynnydd yn y galw.

Dywedodd y Prif Weithredwr Bill Upham: "Ry'n ni'n gwybod fod pobl yn fodlon llwgu am eu bod yn rhy ofnus i fynd i siopau.

"Mae rhai wedi bod yn rhy ofnus i gasglu eu meddyginiaethau ac felly yn isel iawn o ganlyniad. Ry'n wedi cludo bwyd a meddyginiaethau i bobl."

Yn ôl Amy Mitchell, un o reolwyr therapi galwedigaethol ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan mae nifer mwy o bobl wedi cael eu cyfeirio atynt yn y misoedd diwethaf ac mae gorbryder ymhlith pobl ar gynnydd.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Dywed byrddau iechyd y bydd cymorth pobl ar gael i bobl sydd â gorbryder yn ystod y pandemig

"Mae sawl rheswm i gyfri am y cynnydd - unigrwydd yw un am nad yw'n bosib cymdeithasu ac mae pobl yn dod atom am eu bod methu rheoli eu gorbryder," meddai.

"Rwy'n credu y bydd mwy o bobl yn cael eu cyfeirio atom yn y gaeaf."

Ychwanegodd ei bod yn credu "bod gorbryder yn ystod y pandemig yn golygu nad yw pobl yn bwyta'n iawn nac yn cymryd eu meddyginiaethau fel y dylen nhw ond bod gan y bwrdd iechyd gynlluniau lles a'u bod yn cynyddu eu darpariaethau ar gyfer y gaeaf fel bod pobl yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth ddigonol".