Cyfyngiadau lleol yn dod i rym yn Llanelli nos Sadwrn

  • Cyhoeddwyd
Tŷ Nant, Llanelli
Disgrifiad o’r llun,

Mae profion Covid-19 yn cael eu cynnal ar safle Tŷ Nant, Trostre, Parc y Scarlets a Maes Sioe Caerfyrddin

Mae cyfyngiadau llymach wedi dod i rym yn Llanelli ers 18:00 nos Sadwrn.

Am y tro cyntaf yng Nghymru, bydd y mesurau yn y dref ond yn berthnasol i godau post penodol, yn hytrach nag awdurdod lleol.

Bydd mesurau tebyg yn dod i rym yng Nghaerdydd ac Abertawe am 18:00 nos Sul.

Cyfyngiadau lleol yn Llanelli, Abertawe a Chaerdydd

Dywedodd AS Llanelli, Nia Griffith y bydd y cyfyngiadau'n "anodd.. ond mae'n well i'w wneud e'n hwyr yn hytrach na'n hwyrach".

Ychwanegodd: "Yr hyn dydyn ni ddim eisiau yw gadael pethau'n rhy hwyr ac yna dyheu ein bod wedi gwneud mwy.

"Bydd yn effeithio ar wahanol bobol mewn gwahanol ffyrdd ond y teimlad yn gyffredinol yw bod angen i ni reoli hyn."

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething wrth raglen BBC Breakfast ddydd Sadwrn fod y sefyllfa'n "ddifrifol iawn" ac yn debyg iawn i'r darlun ym mis Chwefror.

"Wnaethon ni ddod â rhannau mawr o weithgaredd y GIG i ben bythefnos yn ddiweddarach [bryd hynny]," meddai. "Gawson ni gyfnod clo llawn ychydig dros dair wythnos wedi hynny.

Torri'r rheolau dan do

"Rydym wedi gweld cynnydd sydyn mewn achosion yn yr holl ardaloedd ble rydym yn gosod cyfyngiadau lleol ac mae hynny oherwydd cysylltiadau teuluol dan do... mae mwy o bobl na ddylai fod yn yr aelwyd, yn ymweld a chymysgu.

"Ac mae hynny'n ehangu i dafarndai hefyd ble, unwaith eto, dydy pobl ddim yn dilyn y rheolau.

"Rydych chi'n cael mynd allan i yfed ond dim ond gyda phobl o fewn eich aelwyd estynedig."

Ychwanegodd Mr Gething bod ymddygiad pobl yn eu 40au a 50au yn destun pryder cynyddol a bod mwy o gleifion eisoes yn gorfod cael triniaeth ysbyty.

Disgrifiad o’r llun,

Llanelli yw'r lle cyntaf yng Nghymru ble mae cyfyngiadau'n berthnasol i dref yn unig ac nid sir gyfan

Bydd modd i drigolion Llanelli ddarganfod ar-lein, dolen allanol os yw eu cod post ymhlith 13 ardal ble mae'r cyfyngiadau mewn grym.

Dywedodd Mr Gething ddydd Gwener fod wyth o bob 10 achos o'r feirws yn Sir Gaerfyrddin wedi'u cofnodi yn y dref.

Cafodd 85 o achosion coronafeirws eu cofnodi yno yn yr wythnos ddiwethaf, o'i gymharu â 24 ar draws gweddill y sir.

Mae cyfradd heintiadau ar draws y dref wedi codi i 152 o achosion i bob 100,000 o'r boblogaeth, o'i gymharu ag 18 i bob 100,000 yng ngweddill y sir.

Mae'n golygu fod Llanelli yn drydedd yn nhabl yr ardaloedd â'r cyfraddau wythnosol uchaf yng Nghymru. Blaenau Gwent sydd ar y brig gyda 202 achos i bob 100,000 a Merthyr Tudful yn ail gyda 169 i bob100,000.

Roedd yna 56 achos i bob 100,000 yn Abertawe dros yr wythnos a 38 i bob 100,000 yng Nghaerdydd.

Disgrifiad o’r llun,

Rhaid gweithredu i osgoi ehangu'r cyfyngiadau, medd arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin, Emlyn Dole

Rhybuddiodd arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin ddydd Gwener bod hi'n bryderus pa mor sydyn y cynyddodd nifer yr achosion positif yn ardal Llanelli a bod rhaid gweithredu "i dorri'r gadwyn o heintiau" ac osgoi'r posibilrwydd o orfod cyflwyno cyfyngiadau ymhob rhan o'r sir.

Dywedodd wrth Radio Wales ddydd Sadwrn: "Trwy'r broses brofi ac olrhain, rydyn yn gallu olrhain y cynnydd mewn achosion yn ôl... i fusnesau sydd efallai heb lynu wrth y cyfyngiadau pellter cymdeithasol fel y gweddill ohonom... mewn mannau ble mae pobl yn cwrdd."

Mae'r cyfyngiadau diweddaraf yn golygu y bydd tua 1.5m o bobl - bron i hanner poblogaeth Cymru - yn gorfod cydymffurfio â mesurau pellach i reoli achosion Covid-19.

Mae trigolion Caerffili, Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Merthyr Tudful a Chasnewydd eisoes yn gorfod aros yn lleol oni bai bod rheswm da dros adael.

Bydd Llywodraeth Cymru'n edrych ar yr ystadegau dros y penwythnos yn siroedd cyfagos Bro Morgannwg a Chastell-nedd Port Talbot i weld a oes angen ystyried cyfyngiadau yn fanno hefyd.