Rheolau'n 'gymysglyd' wrth briodi ac yn achosi 'pryder'

  • Cyhoeddwyd
Priodferch yn cerdded lawr yr eilFfynhonnell y llun, Getty Images

Pan oedd Ella Ashford yn cerdded lawr yr eil roedd ei darpar ŵr yn disgwyl amdani yn gwisgo mwgwd dros ei wyneb.

Yn sgil y pandemig mae cyplau yn dweud bod newidiadau i'r cyfyngiadau wedi golygu gwneud newidiadau funud olaf i'w diwrnod mawr.

Fe briododd Mrs Ashford, 24 ddiwrnod ar ôl iddi ddod yn orfodol gwisgo mygydau. Mae'n dweud nad yw hi'n gwneud unrhyw synnwyr bod ei thad wedi gorfod gwisgo mwgwd pan maen nhw yn byw gyda'i gilydd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw wedi bod yn gyson yn eu canllawiau ar gyfer cyplau.

Yng Nghymru mae priodasau a phartneriaeth sifil yn gallu digwydd ers diwedd Mehefin ond mae yna reolau cadw pellter a dim ond 30 o bobl sydd yn gallu mynychu.

Ffynhonnell y llun, Phil Boorman
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yn rhaid i dad Ella a'u morwynion wisgo mygydau pan wnaeth hi briodi

Ers i'r rheolau newid ym mis Medi mae gwisgo gorchudd hwyneb yn rhywbeth sy'n rhaid gwneud mewn llefydd dan do yng Nghymru, gan gynnwys mewn llefydd addoli a swyddfeydd cofrestru.

Mae'n rhaid i westeion a'r briodferch a phriodfab wisgo mygydau ond mae hawl gan gyplau i'w diosg er mwyn cael "cusan, wrth wneud yr addunedau, ac ar gyfer y ddawns gyntaf" - dim ond bod y gwesteion yn aros dau fetr i ffwrdd.

Yn ogystal mae llefydd sydd yn gweini alcohol yn gorfod rhoi'r gorau iddi am 22:00.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o leoliadau wedi colli llawer o arian am fod priodasau wedi eu canslo

Yn yr ardaloedd lle mae yn gyfnod clo lleol mae hawl gan bobl i fynd i'r seremoni ond ddim i'r brecwast priodas wedyn.

Yn Sir Benfro wnaeth Ella a James ddyweddïo ac roedden nhw'n edrych ymlaen at y diwrnod mawr.

Ar ôl gwneud nifer o newidiadau wrth i'r pandemig daro fe ddaeth hi'n orfodol gwisgo mygydau ddyddiau cyn eu priodas.

"O'n i yn reit drist pan wnes i ddarganfod hyn. O'n i'n meddwl bydden ni yn edrych yn wirion yn cerdded i fyny'r eil mewn mwgwd a fy ffrog briodas," meddai Ella o Gaerdydd, sydd yn therapydd galwedigaethol.

Ond yn y diwedd cafodd wisgo ei fêl fel gorchudd hwyneb.

O dan reolau newydd does dim rhaid i bobl wisgo mwgwd pan maent yn bwyta neu yfed. Fe roddodd yr eglwys lle'r oedd Ella a James yn priodi ddiod i'r cwpl ac fe wnaethon nhw gerdded lawr yr eil gan gynnig llwnc destun i'w gwesteion.

Ond pan oedd hi yn gwrando ar y darlleniadau a chyn arwyddo'r gofrestr bu'n rhaid iddi wisgo masg.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Mi oedd fy nhad, a dwi'n byw gydag o, yn gorfod gwisgo mwgwd i hebrwng fi fyny'r eil, sydd ddim yn gwneud unrhyw sens i fi," meddai.

O dan y cyfyngiadau dim ond 30 o bobl sydd yn cael mynd i'r brecwast priodas gan gynnwys y staff a'r cwpl. Mae'r niferoedd yn amrywio yn y seremoni, yn dibynnu ar ba mor fawr yw maint y lleoliad.

Er bod y cwpl wedi dymuno cael nifer o ffrindiau a theulu yno mae'n dweud iddyn nhw gael diwrnod "hyfryd."

Yn Lloegr 15 o bobl, gan gynnwys y cwpl, sydd yn cael mynd i briodas neu bartneriaeth sifil.

Yn ôl Carolyn Pearse, sydd yn cynllunio priodasau i gyplau yn Lloegr a Chymru mae'r rheolau newydd yn gymysglyd ac yn gwneud i bobl deimlo'n bryderus.

Ffynhonnell y llun, Carolyn Louise Wedding Planners
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Carolyn Pearse ddyweddïo ychydig ddyddiau cyn i'w hardal wynebu cyfyngiadau lleol

Fe wnaeth hi benderfynu yn gynnar i ohirio seremonïau ac mae rhai cyplau meddai wedi gohirio'r diwrnod mawr fwy nag unwaith am fod y sefyllfa yn un sy'n newid.

"Rydyn ni yn trio cynllunio ar gyfer cymaint o senarios gwahanol. Dwi'n teimlo dros y cleientiaid. Dydyn nhw ddim yn gwybod lle maen nhw'n sefyll," meddai.

Ond am nad yw nifer yn gallu mynychu mae pobl yn canolbwyntio ar gael "ansawdd" ar y diwrnod yn ystod y seremonïau bach, meddai.

Darparu 'cysondeb'

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod nhw yn ceisio cydbwyso "gobeithion pobl sydd am briodi" yn ystod pandemig gyda'r "angen gwirioneddol i leihau'r risg".

Dywedodd llefarydd eu bod wedi cyhoeddi canllawiau a chyfyngiadau sy'n cael eu "hadolygu'n gyson."

"Rydyn ni wedi bod yn ofalus i ddarparu cysondeb a dydyn ni ddim wedi gorfod mynd yn groes i'r gofynion yma," ychwanegodd.

"Byddwn wastad yn gwneud penderfyniadau ar sail y dystiolaeth wyddonol rydyn ni'n derbyn, gyda lles ac iechyd pobl y peth pwysicaf."