Sut mae Covid-19 wedi amlygu gwahaniaethau polisi?
- Cyhoeddwyd
Felicity Evans, golygydd gwleidyddol BBC Cymru, sy'n edrych ar ddylanwad y pandemig ar y tirlun gwleidyddol yng Nghymru ac ar ddatganoli yn benodol.
Mae'n rhan o gyfres o erthyglau sy'n sôn sut mae'r pandemig wedi effeithio ar ein bywydau a'n rhagolygon.
Mae rhai o argraffiadau amlycaf effaith pandemig Covid ar wleidyddiaeth Cymru i'w gweld ar hyd y ffin 160 milltir rhwng Cymru a Lloegr.
Mae'r ffin yn un sydd heb rwystrau, gyda tua 16 miliwn o bobl yn byw o fewn 50 milltir iddi.
Cyn dyfodiad Covid a'r cyfyngiadau, roedd yna 2.6m o gerbydau yn ei chroesi bob wythnos.
Ychydig yn ôl felly, fe allai prysurdeb rhai o ardaloedd y ffin fod yn hawdd wedi ei gwneud hi'n anodd credu fod llywodraethau Cymru wedi dilyn polisïau yn wahanol i Loegr mewn meysydd fel addysg ac iechyd am gyfnod o 20 mlynedd.
Ond fe wnaeth Covid ddod â'r realiti i'r wyneb ac yn fwy amlwg i bawb - pobl fel Deborah Burch.
Deborah yw perchennog tafarn The Boat ym Mhenallt ar lannau'r Afon Gwy yn Sir Fynwy.
Mae pont fechan wrth yr afon yn golygu siwrne o ddau funud yn unig ar droed cyn cyrraedd Lloegr.
Felly fe wnaeth Deborah ddod yn gyfarwydd iawn ag esbonio i eraill fod rheolau Covid yn wahanol yng Nghymru i Loegr.
"Rydyn ni'n cael gwybodaeth gan y cyngor sir, felly rydyn ni'n fwy ffodus na chwsmeriaid gan fod gennym ni ryw ddealltwriaeth o beth sy'n digwydd," meddai.
"Ond mae'n anodd weithiau cyfleu hynny i'r bobl sy'n dod yma."
Dywedodd fod y dafarn mor agos i Loegr fel bod cwsmeriaid ar adegau "ddim yn siŵr os ydyn nhw yng Nghymru hanner yr amser, felly mae hi'n gallu bod yn gymhleth".
Datganoli'n fwy amlwg
Dywedodd fod y ffaith bod y cyfnod clo wedi para am rai misoedd wedi codi ymwybyddiaeth o ddatganoli ar ddwy ochr y ffin.
"Rwy'n credu o bosib cyn hyn bod pobl ddim yn sylwi fod yna ddwy lywodraeth. Rwy'n meddwl fod pawb ychydig bach yn fwy ymwybodol yn wleidyddol nawr."
Mae ei staff a'i chwsmeriaid yn gytûn.
Sgwrsiais â chwpwl o Loegr oedd ar wyliau cerdded yn Nyffryn Gwy, ac yn mwynhau'r golygfeydd.
"Fe aethom i ogledd Cymru yn gynharach yn y flwyddyn, ac roedd popeth wedi cau - roedd hynny'n dipyn o sioc," medden nhw.
"Roedden ni'n gwybod am ddatganoli, ond ddim yn sylweddoli ei fod o wedi gwneud pethau mor wahanol."
Mae Tom ac Alisha yn gweithio yn y dafarn. Mae'r ddau yn dweud eu bod nhw, yn ogystal â gweini bwyd, hefyd wedi bod yn esbonio i bobl am ddatganoli.
Doedd yr un o'r ddau yn ddigon hen i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd diwethaf, ond y flwyddyn nesaf fe fydd ganddyn nhw'r hawl.
A ydy'r pandemig wedi gwneud gwahaniaeth, o ran eu bwriad i bleidleisio?
"Mae hyn wedi gwneud fi'n fwy tebygol o bleidleisio," meddai Tom.
"Mae 'di dangos fod yna rai gwahaniaethau, ac os ydy pleidleisio yn cael effaith ar hynny rwy'n fwy tebygol o bleidleisio."
Mwy am bleidleisio?
Dywedodd Alisha ei bod wastad wedi bwriadu pleidleisio'r flwyddyn nesaf, ond fod y rheolau "wedi bod yn bur wahanol ar adegau, felly mae'n bendant wedi gwneud pethau'n fwy eglur".
Felly os yw'r pandemig wedi gwneud pobl yn fwy ymwybodol o ddatganoli, ydi hynny'n golygu y bydd yna fwy o bobl yn pleidleisio'r flwyddyn nesaf?
Hyd yma dyw'r caran sy'n pleidleisio o ran etholiadau'r Senedd heb gyrraedd 50%.
Ac mae'r Athro Laura McAllister o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd yn rhybuddio yn erbyn rhagdybio hynny.
"Does yna ddim sicrwydd. Dyw bod â gwybodaeth ddim o reidrwydd yn golygu fod pobl â diddordeb," meddai.
"Mae yna ffactorau eraill allai effeithio pethau, fel a oes yna deimlad go iawn y bydd yna gystadleuaeth go iawn yn yr etholiad."
Tra ein bod dal yng nghanol y pandemig, mae'n anodd dod i benderfyniadau cadarn ynglŷn â sut mae hyn oll yn siapio gwleidyddiaeth yng Nghymru.
Mae cymaint o bethau yn parhau yn ansicr, gan gynnwys sut y bydd yr etholiadau ym mis Mai yn cael eu cynnal os yw rheolau Covid yn parhau mewn grym.
Ond fe fydd yr etholwyr, fel sydd o hyd yn digwydd, yn rhoi'r atebion maes o law.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Medi 2020
- Cyhoeddwyd27 Mai 2020
- Cyhoeddwyd1 Mai 2020