Apêl am dyst i wrthdrawiad angheuol ar yr A40

  • Cyhoeddwyd
Iwan Lloyd JonesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd gweddw Iwan Lloyd Jones ei fod yn "ŵr cariadus, addfwyn, hael a meddylgar"

Mae Heddlu Dyfed-Powys sy'n ymchwilio i wrthdrawiad angheuol ar yr A40 ger Llandeilo yn awyddus i siarad â thyst.

Bu farw Iwan Lloyd Jones, 60 oed, o ardal Capel Isaac yn dilyn y gwrthdrawiad ar y cyffordd gyda hen Ffordd Caerfyrddin, am 14:30 ddydd Mercher, 9 Medi.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi cael eu galw i'r gwrthdrawiad rhwng car Citroën Xsara llwyd a beic modur Triumph Daytona melyn.

Mae swyddogion yn awyddus i siarad â'r fenyw a ffoniodd am ambiwlans yn fuan wedi'r gwrthdrawiad gan ddefnyddio ffôn symudol rhywun arall.

Maen nhw'n gofyn iddi gysylltu gyda nhw drwy wefannau cymdeithasol neu drwy ffonio 101 a gofyn am yr ned Ymchwilio Gwrthdrawiadau Difrifol.

Yn gynharach ym mis hwn dywedodd gweddw Iwan Lloyd Jones, Mandy Jones, ei bod hi wedi colli ei ffrind gorau.

"Mae e wedi gadael bwlch mawr yn fy nghalon, ond mae'n gysur meddwl y bydd e wastad o 'nghwmpas i 'ngwarchod a gofalu amdana i," meddai hi yn ei theyrnged.