Chwaraeon prifysgol yn 2020: 'Popeth mor wahanol'
- Cyhoeddwyd

Mae chwarae camp yn y brifysgol yn rhan fawr o fywyd nifer o fyfyrwyr; mae nifer yn dewis coleg penodol yn arbennig oherwydd y cyfleoedd chwaraeon sydd ar gael, ac ambell un yn llwyddo i barhau yn y gamp ar ôl graddio.
Ond eleni, oherwydd canllawiau Covid-19, mae'r profiad am fod yn dra gwahanol i nifer. Dim sesiynau hyfforddi arferol, dim twrnameintiau a chystadlaethau, a dim cymdeithasu gyda'ch tîm.

Mae Annell Dyfri newydd ddychwelyd i'r ail flwyddyn yn y brifysgol yng Nghaerdydd, ac wedi arfer â gwneud llawer o chwaraeon ochr-yn-ochr â'i hastudiaethau, fel pêl-rwyd gyda'r Gymdeithas Gymraeg, hoci dros y brifysgol a'i phrif gamp, nofio. Mae yna wahaniaethau mawr yn barod o'i gymharu â'r llynedd, meddai:
"Yn amlwg ni heb cael y go-ahead i chwarae pêl-rwyd, achos mae cyswllt ac ati, a fi'n gwybod ma'r tîm nofio wedi sôn falle gwneud cwpl o sesiynau o land training...
"Mae'n rhyfedd bod nôl yng Nghaerdydd achos mae'n teimlo mor normal, achos dwi gyda ffrindie uni fi, ond mae popeth mor wahanol."

Mae'r sefyllfa yn debyg ym mhob prifysgol.
Capten tîm rygbi merched Cymru, Siwan Lillicrap, yw pennaeth yr adran rygbi ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae hi'n ymwybodol iawn o pa mor wahanol yw pethau eleni.
Mae'n rhaid i'r adran ddilyn nifer o ganllawiau - gan y brifysgol, y Llywodraeth ac Undeb Rygbi Cymru - o ran gwirio symptomau, gwybod pwy sydd yn hyfforddi pryd a rheolau o ran cadw pellter a glanhau offer.
Ond mae hi'n gobeithio na fydd y cyfyngiadau yn golygu fod niferoedd y bobl sydd yn cymryd rhan yn y campau hyn yn gostwng yn yr hir-dymor, gan fod nifer o chwaraewyr dros y blynyddoedd wedi dechrau eu gyrfaoedd mewn prifysgolion.
"Mae rhai o'r merched [tîm rygbi Cymru] wedi dod trwyddo Prifysgol Abertawe. Pan maen nhw'n dod aton ni ni, mae'r opportunity i fod yn rhan o high-performance programme, pryd ni'n gwneud gym, speed work, sgiliau ayyb.
"Gobeithio fydd ein niferoedd ni ddim yn dropio, ond mae e lan i ni i roi procedures mewn lle a bod y stiwdants yn teimlo'n saff pan maen nhw'n dod i trainio."

Un sy'n diolch am y profiad a gafodd gyda rhwyfo yn y brifysgol ym Manceinion, yw Zak Lee-Green, a enillodd fedal arian ym Mhencampwriaethau Rhwyfo'r Byd.
"O'dd profiad fi yn rili dda. 'Nes i symud lan i lle oedd dau berson wedi mynd i tîm GB yn barod; un person oedd wedi bod yn y Gemau Olympaidd. Unwaith 'nes i gyrraedd Manceinion, o'n i'n syth yn ymarfer gyda phobl o safon rili uchel," meddai.
Heb y ddarpariaeth mewn prifysgolion, byddai'n anodd i nifer gael cymryd rhan mewn camp fel rhwyfo, meddai.
"Wrth gwrs mae angen clwb rhwyfo, afon dda, a mae fe'n costio lot o arian; mae'r cychod mor expensive nawr. Yn y brifysgol, dyna lle mae pawb, dwi'n meddwl, yn 'neud y mwya' o'u ymarfer a dysgu. Dyna lle i 'neud lot o rwyfo, os ti ishe parhau gyda fe."

Mae Sam Saer (rhes flaen, cyntaf ar y dde) yn chwarae pêl-droed dros Brifysgol Abertawe
Un arall a gafodd ei ddenu i brifysgol benodol er mwyn gallu gwella yn ei gamp oedd Sam Saer. Llwyddiant tîm pêl-droed Prifysgol Abertawe a'i ddenodd i fynd i astudio yno yn y lle cyntaf, meddai, ac fe'i helpodd i deimlo'n rhan o'r gymuned yno:
"Un o'r rhesymau es i i brifysgol Abertawe oedd oherwydd fod y pêl-droed yna mor dda. Oedden nhw'n trial anelu i gyrraedd uwch-gynghrair Cymru, ac oedd hynny'n rhywbeth o'n i'n hoffi'n fawr iawn.
"Cwrdd ar ôl gemau â phobl... o'dd e wedi helpu [fi] i setlo lawr lot yn y brifysgol, oherwydd do'n i ddim rili'n 'nabod unrhyw un, ac oeddech chi jest eisiau dod i 'nabod pobl cyn gynted â phosib. Ac o'dd e'n rili da ar gyfer hwnna."

Mae cyfeillgarwch Annell (trydydd o'r dde) gyda'i chyd-chwaraewyr yn rhan bwysig o'r profiad - ond mae'n rhywbeth sydd yn anoddach i'w gynnal eleni, meddai
Mae'r agosatrwydd hwnnw rhwng cyd-chwaraewyr yn rhywbeth sydd yn bwysig i Annell hefyd, ac yn rhywbeth y mae hi'n poeni y bydd y cyfyngiadau yn cael effaith wael arno:
"Roedd yna gymhelliant yn y tîm i fynd i hyfforddi, a mae'n anodd iawn nawr cael y cymhelliant 'na i hyfforddi'ch hun.
"Ni 'di gwneud ffrindiau - a dim ond ar y cae chwarae oedden ni'n eu gweld nhw. Jest gobeithio allwn ni dal gadw mewn cysylltiad gyda phobl eraill."
Hefyd o ddiddordeb: