Trafodaethau am safle Wylfa Newydd yn parhau
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib nad yw'r cynlluniau ar gyfer codi atomfa yn Wylfa ar ben, yn ôl llythyrau sydd wedi eu derbyn gan Lywodraeth San Steffan.
Bythefnos yn ôl dywedodd cwmni Hitachi nad oeddynt am barhau â'u diddordeb yn y cynllun £20bn.
Ond mae datblygwyr safle Wylfa Newydd - Horizon Nuclear Power - wedi anfon dau lythyr at weinidogion San Steffan yn dweud fod trafodaethau gyda chwmnïau eraill yn parhau.
Yn wreiddiol roedd penderfyniad ynglŷn â rhoi hawl cynllunio ar gyfer y cynllun i fod i gael ei wneud ddydd Mercher 30 Medi, ond bydd nawr yn cael ei ohirio tan 31 Rhagfyr.
Fe wnaeth prif weithredwr Horizon Nuclear ysgrifennu at weinidog Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol y DU, Alok Sharma, ar 22 Medi a 28 Medi.
Roedd y llythyrau yn gofyn am "estyniad byr" ar gyfer y dyddiad pan fydd Llywodraeth y DU yn penderfynu a fyddai'n rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer cynlluniau gwreiddiol Hitachi.
Mae Horizon wedi gwrthod rhoi unrhyw fanylion am y cwmnïau sy'n rhan o'r trafodaethau newydd gan fod y rhain mewn cyfnod "sensitif".
Wrth ymateb i gais Horizon Nuclear am gael oedi'r broses caniatâd cynllunio dywedodd yr Ysgrifennydd Ynni: "Dan yr amgylchiadau, mae'n briodol i newid y dyddiadau cau ar gyfer y cais cynllunio i 31 Rhagfyr 2020."
Cyhoeddodd Hitachi yn Ionawr 2019 eu penderfyniad i atal yr holl waith ar y cynllun, a fyddai wedi costio hyd at £20bn, wedi methiant i ddod i gytundeb ariannol.
Yn ôl y datblygwyr, fe fyddai'r atomfa wedi cyflenwi trydan ar gyfer hyd at bum miliwn o gartrefi a chyflogi 9,000 o weithwyr yn ystod y cyfnod adeiladu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Medi 2020
- Cyhoeddwyd15 Medi 2020