Ymosod ar gyfreithwyr ceiswyr lloches yn 'tanseilio cyfiawnder'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ysgrifennydd Cartref wedi tanseilio'r system gyfreithiol gyfan ar ôl labelu cyfreithwyr hawliau dynol fel "ymgyrchwyr", yn ôl Carwyn Jones AS.
Mae Priti Patel wedi rhoi'r bai ar "gyfreithwyr sy'n gweithredu" am atal ceiswyr lloches rhag gadael y Deyrnas Unedig drwy gyflwyno heriau cyfreithiol.
Ond dywed y cyn-brif weinidog - oedd yn fargyfreithiwr ac yn gyn-brif gynghorydd cyfreithiol Senedd Cymru - mai "dyletswydd yr ysgrifennydd cartref yw sicrhau bod cyfiawnder yn Lloegr a Chymru", a bod ei sylwadau yn "tanseilio cyfiawnder yn y ddwy wlad".
Mae'r Swyddfa Gartref wedi gwrthod ein cais am ymateb.
Dechreuodd y ffrae ddiwedd mis Awst ar ôl i'r Swyddfa Gartref gyhoeddi fideo ar y cyfryngau cymdeithasol, oedd yn dweud bod rheoliadau caeth yn caniatáu i "gyfreithwyr sy'n ymgyrchu i ohirio ac amharu ar symud ceiswyr lloches allan o'r wlad".
Cafodd y fideo ei ddileu ar ôl cael ei feirniadu gan Gymdeithas y Cyfreithwyr.
Cyfeiriodd Ms Patel at "gyfreithwyr sy'n gweithredu" ar Twitter hefyd.
'Dylai hi ddim bod yn ysgrifennydd cartref'
Dywedodd Yr Athro Jones: "Dwi erioed wedi gweld sefyllfa lle mae pobl yn ymosod ar farnwyr a chyfreithwyr fel hyn. Tanseilio rôl cyfreithwyr, tanseilio'r system gyfiawnder yn gyfangwbl.
"Nid chwarae mewn ffordd wleidyddol yw hon, ni'n siarad am yr ysgrifennydd cartref.
"Dyletswydd yr ysgrifennydd cartref yw sicrhau bod cyfiawnder yn Lloegr a Chymru ac wrth ddweud hyn mae'n tanseilio cyfiawnder yn y ddwy wlad. Ddylai hi ddim bod yn ysgrifennydd cartref."
Mae Ann Evans yn gyfreithwraig gyda chwmni Duncan Lewis yng Nghaerdydd.
Yn ddiweddar bu'n cynrychioli ceisiwr lloches yn yr Uchel Lys, lle gwnaed y penderfyniad i atal awyren siartredig rhag mynd ag 20 o geiswyr lloches i Sbaen.
Mae'n dweud bod tystiolaeth yn awgrymu y byddai'r unigolion yn ddigartref ac na fyddai cymorth ar gael iddyn nhw yn Sbaen.
'Gwahaniaeth rhwng byw a marw'
Yn ôl Ms Evans, mae galw cyfreithwyr mewn achosion fel rhain yn "ymgyrchwyr" yn annheg.
"Yr awgrym ynghlwm â'r term yna ydy bod gennym ni gymhelliant gwleidyddol a dydy hynny ddim yn wir o gwbl.
"Mewn rhai achlysuron mae'n golygu'r gwahaniaeth rhyngddyn nhw'n byw a ddim yn byw - neu ella yn dychwelyd a chael eu cam-drin.
"Felly mae'n bwysig iawn ein bod ni'n rhoi'r wybodaeth briodol ymlaen i'r Swyddfa Gartref ac i'r llys," ychwanegodd.
Un o gleientiaid Ann yw Hassan - nid ei enw iawn - a rannodd ei stori gyda ni drwy gyfieithydd mewn cyfweliad hir ac emosiynol.
Cafodd ei fagu yn Syria yn ystod rhyfel cartref yno ac roedd yn astudio i fod yn filfeddyg.
Ond ar y diwrnod yr oedd fod i sefyll ei arholiad terfynol, yn 21 oed, cafodd ei gipio gan awdurdodau'r wlad a'i arteithio am 17 diwrnod.
Cafodd bag ei osod dros ei ben ac roedd ei ddwylo wedi'u clymu y tu ôl i'w gefn.
'Ro'n i eisiau marw'
"Aeth fy nychymyg yn wyllt - y peth gwaethaf oedd sŵn y menywod yn sgrechian," meddai.
Yn noeth, heb gwsg, bwyd na diod, byddai'r swyddogion yn gofyn iddo "gyfaddef".
"I beth?" byddai'n gofyn.
Roedd yn cael ei guro wrth iddo hongian gerfydd ei freichiau o'r nenfwd.
Pe bai'n llewygu roedd bwced o ddŵr yn cael ei daflu drosto i'w ddeffro cyn i'r artaith ddechrau eto.
"Ro'n i eisiau marw 10 neu 15 gwaith y dydd. Roedd meddwl am farwolaeth yn gysur o'i gymharu â'r hyn yr oeddwn yn mynd drwyddo."
Llwyddodd Hassan i ffoi i Libanus, lle arhosodd am ddwy flynedd a hanner.
Yna, cerddodd Hassan ar draws Ewrop i Sbaen - lle treuliodd dair wythnos mewn canolfan ar gyfer ffoaduriaid - a dyna pam mae'r awdurdodau Prydeinig yn ceisio sicrhau ei fod yn mynd yn ôl i wneud cais am loches yno.
Cyrhaeddodd Hassan, sydd bellach yn 24 oed, Brydain yn y pendraw ac mae wedi cael ei gartrefu yn Lerpwl.
Mae'n disgwyl i glywed a fydd hawl ganddo i aros yma.
Yn y cyfamser mae'n dweud ei fod yn gobeithio o hyd y bydd yn y diwedd yn cael byw bywyd heddychlon gyda'i deulu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd8 Awst 2018