Coronafeirws: Tair marwolaeth a 462 achos newydd
- Cyhoeddwyd
Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod tair marwolaeth a 462 achos newydd o Covid-19 wedi eu cofnodi yng Nghymru yn y 24 awr ddiwethaf.
Roedd dwy o'r marwolaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg a'r drydedd yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Bu un farwolaeth ar 28 Medi a'r ddwy arall ar 29 Medi.
O'r achosion positif newydd, roedd 68 yn Rhondda Cynon Taf, 51 yn Abertawe, 46 yng Nghaerdydd a 30 yn Sir y Fflint.
Roedd 26 achos ym Mhen-y-bont ar Ogwr, 18 yn sir Conwy, 18 ym Merthyr Tudful, 16 yn Sir Gâr, ac wyth ym Mlaenau Gwent.
Mae'n golygu, yn ôl ffigyrau'r corff, bod 24,845 o achosion positif wedi'u cofnodi yng Nghymru hyd yma, a 1,625 o farwolaethau.
Yn gynharach dydd Gwener dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford ei fod yn agored i'r syniad o ailgyflwyno cyfyngiadau ar deithio yng Nghymru er mwyn atal ymwelwyr o ardaloedd clo yn Lloegr.
Yr wythnos hon fe wnaeth Mr Drakeford alw ar Boris Johnson i wahardd pobl sydd dan gyfyngiadau clo yn Lloegr i deithio i Gymru ar wyliau, ond dywedodd fore Gwener ei fod yn dal i ddisgwyl am ymateb.
Nid oes modd i bobl sydd mewn ardaloedd dan gyfyngiadau lleol yng Nghymru adael y sir heb "esgus rhesymol".
Nid yw mynd ar wyliau yn cael ei ystyried fel un o'r rhesymau yma, ond yn Lloegr nid yw'r fath gyfyngiad yn bodoli.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2020