'Pam bod ambiwlans wedi bod mor hir yn dod at fy mab?'

  • Cyhoeddwyd
Chris Ellis is in an induced coma in hospitalFfynhonnell y llun, Catherine Stewart
Disgrifiad o’r llun,

Mae Chris Ellis mewn coma yn yr ysbyty

Mae mam i ddyn sy'n wael iawn yn yr ysbyty gyda llosgiadau difrifol am wybod pam ei bod wedi cymryd oriau i ambiwlans ddod ato.

Roedd Chris Ellis o Frynsaithmarchog ger Corwen yn Sir Ddinbych yn trwsio car yn ei gartref fis diwethaf pan ddigwyddodd y tân.

Fe wnaeth ei bartner Catherine Stewart alw 999 a gofyn am ambiwlans ond dywed y teulu na chyrhaeddodd ambiwlans nes i'r gwasanaethau tân hysbysu Ambiwlans Awyr Cymru.

Ffynhonnell y llun, Catherine Stewart
Disgrifiad o’r llun,

Chris Ellis gyda'i bartner Catherine Stewart

Mae Philomene Williams-Ellis am i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru fod yn atebol am yr hyn sydd wedi digwydd.

Dywedodd y Gwasanaeth Ambiwlans ei bod yn ymddiheuro'n fawr ac yn cynnal ymchwiliad llawn i'r hyn ddigwyddodd.

'Haeddu gwell'

Dywed Ms Williams-Ellis: "Rwy'n hollol benderfynol ac nid wyf am ildio. Dydw i ddim eisiau i hyn ddigwydd i deulu arall.

"Rwyf am gael cyfiawnder i'm mab. I fi roedd o wedi'i adael fel darn o gig wedi llosgi ac mae o'n haeddu gwell."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Philomene Ellis-Williams nad yw am i hyn ddigwydd i'r un teulu arall

Ychwanegodd Ms Stewart: "Fe ffoniais i 999 a gofyn am ambiwlans gan ddweud wrthyn nhw 'mae o ar dân, dyw e ddim yn gallu anadlu ac ry'n ni angen injan dân'.

"Fe ffonion nhw fi 'nôl ddau funud yn ddiweddarach gan ofyn i fi ei roi o dan ddŵr oherwydd yr anafiadau."

Dywed y teulu bod y criwiau tân wedi cysylltu â'r Ambiwlans Awyr wedi iddyn nhw weld cyflwr Chris ac yna ei fod wedi cael ei gludo i Ysbyty Whiston yn Prescot lle gafodd driniaethau i'w groen.

Mae bellach mewn coma a dyw ei deulu ddim yn gwybod faint o effaith y bydd ei losgiadau yn cael ar ei fywyd yn y dyfodol.

Ffynhonnell y llun, Catherine Stewart
Disgrifiad o’r llun,

Cyflwr y car wedi'r tân ym Mrynsaithmarchog

Dywedodd Jason Killens, prif weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Ry'n yn ymwybodol bod hwn yn gyfnod hynod o ofidus i deulu Mr Williams-Ellis ac ry'n yn meddwl amdanynt.

"O ystyried natur ddifrifol yr hyn sydd wedi digwydd, mae ymchwiliad ar y gweill i wybod yn union beth ddigwyddodd ac union achos yr oedi annerbyniol - digwyddiad ry'n yn ymddiheuro'n fawr amdano.

"Ry'n yn gobeithio cwblhau'r ymchwiliad cyn gynted â phosib. Fel sefydliad ry'n wedi ymrwymo i ddysgu gwersi a gwella ein gwasanaeth.

"Ry'n hefyd wedi cynnig cyfarfod â theulu Mr Williams-Ellis er mwyn trafod canfyddiadau'r ymchwiliad a'r hyn yr ydym wedi'i ddysgu.

"Ry'n yn meddwl yn ddwys am Mr Williams-Ellis a'i deulu yn ystod y cyfnod anodd hwn."