'Y berthynas rhwng Cymru a Llundain yn waeth nag erioed'
- Cyhoeddwyd
Yn gynharach wythnos yma fe ddywedodd Boris Johnson ei fod yn awyddus i fwrw 'mlaen gyda chynlluniau i greu ffordd osgoi i leihau y pwysau traffig ar yr M4 ger Casnewydd.
Daeth hyn er gwaetha' penderfyniad Llywodraeth Cymru na fyddai'r prosiect yn cael ei hadeiladu.
Mae rhai wedi cyhuddo Prif Weinidog Prydain o danseilio ac amharchu datganoli. Ond ble mae'r cyfrifoldebau yn gorwedd? A pha mor ddwfn yw'r drwgdeimlad rhwng Llywodraeth Cymru a'r Llywodraeth yn San Steffan?
Mae Dr Dan Wincott yn Athro yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae'n rhannu ei farn gyda BBC Cymru Fyw.
Mae'r berthynas rhwng y llywodraethau yng Nghymru a Llundain yn waeth nag y buont erioed. Bu cyfnodau o gydweithrediad agos dros bandemig Covid-19. Er hyn, yn gynyddol mae anghydweld wedi bod ynglŷn â pholisïau allweddol fel a ddylid caniatáu i bobl o ardaloedd yn Lloegr sydd â lefelau heintiau uchel dan lockdown lleol i ymweld â mannau twristiaeth yng Nghymru sydd â lefelau heintiad isel.
Mae Llywodraeth Cymru a gweinyddiaeth Boris Johnson wedi'u rhannu'n ddwfn ynghylch Brexit a'r goblygiadau mewnol i'r Deyrnas Unedig.
'Power-grab'
Nid yn unig bo'r ddwy lywodraeth yn anghytuno; mae ganddyn nhw ddealltwriaeth gwbl wahanol o'r sefyllfa. Maen nhw'n siarad heibio'i gilydd, ac yn siarad â chynulleidfaoedd gwahanol.
Mae Mark Drakeford wedi disgrifio Bil Marchnad Mewnol Llywodraeth y Deyrnas Unedig fel power-grab enfawr, tra bod Michael Gove yn dweud ei fod yn atgyfnerthu datganoli.
Yng Nghymru, mae'r drafodaeth ynghylch adeiladu ffordd osgoi newydd i'r M4 o amgylch Casnewydd i osgoi Twneli Brynglas wedi crisialu natur y berthynas bigog rhwng Caerdydd a Llundain heddiw. Byddai pwerau ariannol newydd sy'n dod o'r Mesur y Farchnad Fewnol yn rhoi cyfle ychwanegol i Lywodraeth y DU wario arian cyhoeddus yn uniongyrchol yng Nghymru - ac yn y tiriogaethau datganoledig eraill hefyd.
Mae'n bosib rhagweld y bydd y gwario yn cynnwys polisïau ar faterion sydd wedi'u datganoli i Lywodraeth Cymru - fel ffordd osgoi yr M4.
Does gan y pwerau ddim cysylltiad uniongyrchol gyda Mesur y Farchnad Fewnol - sy'n ymwneud â rheoleiddio gweithgaredd economaidd ledled y Deyrnas Unedig wedi Brexit. Mae Llundain yn pwysleisio'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn parhau i reoleiddio nwyddau a gwasanaethau sy'n cael eu cynhyrchu yng Nghymru, a'i fewnforio yma.
'Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru'
Yn ôl Jeremy Miles (Cwnsler Cyffredinol Cymru) bydd effaith ymarferol y rheolau yn tanseilio datganoli. Dywedwch petai safon rhyw nwyddau yn is yn Lloegr o'i gymharu â Chymru, byddai Llywodraeth Cymru'n methu atal y cynnyrch hwnnw rhag cael ei werthu yma.
Mae'r anghydfod ynghylch ffordd osgoi yr M4 yn wahanol. Efallai bod lle i ddadlau o ddifri ynghylch a yw traffordd newydd trwy Lefelau Gwent - neu yn wir ryw ffordd arall o amgylch y tagfeydd a grëwyd gan Dwneli Brynglas - yn beth da neu'n beth drwg.
Ond nid oes yna le i ddadlau ynghylch pa lywodraeth sydd â'r gallu cyfreithiol i wneud y penderfyniad. Mae'n fater sy'n gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru.
Mae'n debyg bod y pwerau gwariant newydd y mae Llywodraeth y DU yn roi i'w hun yn ei gwneud hi'n haws i Boris Johnson neilltuo cyllid yn uniongyrchol i'r ffordd osgoi.
'Dewis gwleidyddol gan Boris Johnson'
Ond, mwy na thebyg dydi Mesur y Farchnad Fewnol ei hun ddim yn crybwyll yr M4. Mae'n fater y mae Prif Weinidog y DU wedi dewis ei hyrwyddo o amgylch y Bil.
Mae o wedi gwneud dewis gwleidyddol i ailagor dadl am y penderfyniad y mae Mark Drakeford eisoes wedi'i gymryd i beidio ag adeiladu'r ffordd osgoi.
Hyd yn oed pe bai'r pwerau newydd arfaethedig yn dod yn gyfraith, ni fyddent yn caniatáu i Johnson adeiladu'r ffordd osgoi.
Byddai angen cytundeb a chydweithrediad Llywodraeth Cymru o hyd ar gyfer unrhyw arian sy'n cael ei roi yn uniongyrchol gan Llywodraeth San Steffan, ar faterion fel caniatâd cynllunio ar gyfer y draffordd newydd. Oni bai bod Johnson yn dewis mynd cam ymhellach fyth a defnyddio pwerau 'sofran' San Steffan i ddeddfu bod y ffordd yn cael ei adeiladu.
Wrth gwrs mae dimensiwn pleidiol i'r anghydfod gwleidyddol hwn; dydi hi ddim yn berthynas gyfeillgar rhwng Johnson a'r Ceidwadwyr a Llafur yng Nghymru. Ac eto mae penderfyniad Johnson i roi sylw i bolisïau gwariant cyhoeddus yn ein hatgoffa o'r hyn a fydd yn cymryd lle ffrydiau cyllido'r Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit.
Ychydig iawn o sylw sydd wedi ei roi i'r hyn sy'n cael ei alw'n Cronfa Ffyniant Gyffredin (Shared Prosperity Fund), ac mae hyd yn oed rhai o gefnogwyr Johnson - Aelodau Seneddol Ceidwadol o Gymru - yn cwyno. Dywedodd Stephen Crabb fod y datblygiadau a'r diffyg gwybodaeth yn 'gwbl annerbyniol'.
Yn fwy sylfaenol, mae blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth yn edrych yn wahanol yn Llundain a Chymru. Un opsiwn yw cryfhau'r coridor presennol o de-ddwyrain Cymru i Fryste a Llundain, yn ogystal â'r A55 o ogledd Cymru â gogledd-orllewin Lloegr.
Mae buddsoddi i wella'r cysylltiadau o fewn Cymru hefyd yn opsiwn. Gallai cysylltiadau yng Nghymru - ac efallai hefyd ar draws y ffin i Loegr ag eithrio y llwybrau teithio ar hyd arfordiroedd y gogledd a'r de - fod yn drawsnewidiol.
Mae Drakeford ar un ochr i Dwneli Brynglas a Johnson ar y pen arall am waed ei gilydd yn creu gwleidyddiaeth ddramatig, ond polisi cyhoeddus gwael.
Hefyd o ddiddordeb