Mesur Masnach: David Melding yn ymddiswyddo o'i gabinet
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol Ceidwadol blaenllaw wedi cyhoeddi ei fod yn ymddiswyddo o gabinet yr wrthblaid yn Senedd Cymru, a hynny o achos mesur arfaethedig Llywodraeth y DU ar fasnach.
Dywedodd David Melding ei fod yn gadael y swydd o achos ei anfodlonrwydd gyda chyfraith newydd fydd yn rhoi mwy o rym i weinidogion yn San Steffan i wario ar gynlluniau yng Nghymru.
Mae'r mesur drafft yn trosglwyddo grymoedd i wario ar ardaloedd fel isadeiledd, diwylliant a chwaraeon o'r Undeb Ewropeaidd i Lywodraeth y DU.
Ond dywed Llywodraeth Cymru fod y mesur yn "dwyn grymoedd" gan lywodraethau datganoledig.
Mewn llythyr at Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, dywedodd Mr Melding: "Rydych yn gwybod fod gen i fy amheuon ers tro am elfennau o agwedd Llywodraeth y DU tuag at ddatblygu perthynas newydd gyda'r Undeb Ewropeaidd, a llinynnu llywodraethiant ddatganoledig gyda gofynion marchnad fewnol o fewn y DU.
"Nid yw cyhoeddi mesur drafft y Farchnad Fewnol heddiw yn gwneud dim i leihau fy mhryderon am y peryglon sydd yn wynebu ein undeb 313 mlwydd oed.
"Yn wir maent wedi eu gwaethygu'n sylweddol gan benderfyniadau'r prif weinidog yn ystod y dyddiau diwethaf."
Ychwanegodd datganiad Mr Melding nad oedd yn bosib iddo barhau yn ei swydd fel Cwnsler Cyffredinol yr wrthblaid tra'r oedd yn meddu ar y fath wrthwynebiad.
"Yn ychwanegol, rwyf yn credu ei bod hi'n amser i mi roi'r gorau i fy holl ddyletswyddau gyda'r cabinet cysgodol gan y byddaf yn credu y bydd angen i mi siarad yn erbyn yr hyn yr wyf yn ei gredu sydd yn ddiffyg gwladweinyddiaeth ar amser mor hanfodol i fodolaeth y DU fel gwladwriaeth rhyng-genedlaethol."
'Amseroedd cyfansoddiadol afreolaidd'
Dywedodd y byddai'n parhau i gynnig ei gefnogaeth i arweinydd ei blaid o'r meinciau cefn, a'i bod yn fraint i gael gweithio fel rhan o gabinet yr wrthblaid, "ond fod yr amseroedd cyfansoddiadol afreolaidd hyn" wedi ei "orfodi i gymryd y fath gamau".
Roedd Mr Melding wedi cyhoeddi yn mis Chwefror eleni y byddai'n camu o'r neilltu cyn etholiad 2021.
Mae Mr Melding, sy'n cynrychioli Canol De Cymru, yn un o'r ychydig aelodau sydd wedi gwasanaethu yn y Senedd yn ddi-dor ers creu'r Cynulliad yn 1999.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Medi 2020
- Cyhoeddwyd9 Medi 2020
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd9 Mai 2019