Llywodraeth y DU i adeiladu ffordd osgoi M4?
- Cyhoeddwyd
Fe fyddai Llywodraeth y DU yn fodlon "ystyried unrhyw beth" er mwyn adeiladu ffordd liniaru newydd yr M4 o amgylch Casnewydd, yn ôl Ysgrifennydd Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu yn erbyn y cynllun.
Dywedodd Simon Hart AS ei fod yn credu bod modd parhau â'r cynllun ond ychwanegodd y byddai'n well gan weinidogion y DU "brosiect cydweithredol" gyda Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thagfeydd o amgylch Casnewydd.
Ychwanegodd er y gallai Llywodraeth y DU "fwy na thebyg" fwrw 'mlaen gyda'r cynllun , fe fyddai hynny'n "gymhleth" ac yn "ddadleuol".
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod yr M4 yn fater iddyn nhw, nid San Steffan, a bod eu penderfyniad "wedi ei wneud yn barod".
Y llynedd fe benderfynodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ddileu cynllun ffordd liniau'r M4 ar ôl i Lywodraeth Cymru ddatgan argyfwng hinsawdd.
Os bydd Mesur Marchnad Fewnol y DU a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn cael ei phasio, bydd yn rhoi'r grym i Lywodraeth y DU wario ar feysydd sydd wedi'u datganoli, fel seilwaith a datblygu economaidd.
Wrth siarad â rhaglen Politics Wales y BBC, dywedodd Mr Hart pe bai Llywodraeth y DU yn gallu "dod o hyd i ffordd" o adeiladu ffordd liniaru'r M4, yna byddai'n gwneud hynny.
Dywedodd Mr Hart nad oedd eisiau cael ei orfodi i osgoi Llywodraeth Cymru, ond dywedodd: "Mae yna ffyrdd rwyf yn amau y gallem eu dilyn yn ôl pob tebyg, byddai'n gymhleth, yn ddadleuol, a byddai angen blynyddoedd mae'n debyg o ryngweithio cyfreithiol.
"Byddai'n llawer gwell gennym i Lywodraeth Cymru ddod at y bwrdd [ac] edrych ar hwn fel prosiect cydweithredol."
Pan ofynnwyd iddo a fyddai'r pwerau newydd fydd yn cael eu rhoi iddyn nhw fel rhan o'r mesur newydd yn caniatáu i weinidogion y DU osgoi Llywodraeth Cymru pe bai modd, dywedodd Mr Hart: "Nid ydym byth yn diystyru unrhyw beth."
Ond dywedodd nad oedd y pwerau newydd "yno i geisio rhoi Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa anodd", ond i "wella'r hyn rydyn ni i gyd eisiau ei wneud sef creu swyddi a buddsoddi yng Nghymru".
Sut y bydd yn cael ei ariannu?
Dywedodd Mr Hart fod Llywodraeth y DU "eisoes wedi diystyru" defnyddio arian a gafodd ei ddarparu i Lywodraeth Cymru gan y Trysorlys trwy'r grant bloc, neu fformiwla Barnett, i ariannu prosiectau seilwaith oherwydd ei fod "wedi'i glustnodi ar gyfer pethau eraill".
Ychwanegodd "nad oes llawer o arian sbâr o gwmpas ar hyn o bryd".
Ond dywedodd y byddai'r Gronfa Ffyniant, sef yr arian a fyddai ar gael yn lle cyllid yr UE ar ôl y cyfnod pontio Brexit, yn "un opsiwn".
Fodd bynnag, yr wythnos diwethaf, cyhuddodd grŵp trawsbleidiol o ASau Lywodraeth y DU o wneud cynnydd "dibwys" yn ei chynlluniau i ddisodli cronfeydd yr UE yng Nghymru ar ôl Brexit.
Dywedodd cyn-ysgrifennydd Cymru, y Ceidwadwr Stephen Crabb, fod yna ddiffyg manylder am y gronfa hon, dri mis cyn diwedd cyfnod pontio Brexit, a bod hynny yn "gwbl annerbyniol".
Cyfaddefodd Mr Hart fod "cynnydd wedi bod yn araf" ond dywedodd ei fod "wedi'i ymgorffori mewn ymrwymiad maniffesto" na fyddai Cymru yn derbyn llai o arian.
"Rydyn ni'n sylweddoli bod y cloc yn tician. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn poeni amdani.
"Rwy'n dal fy nwylo i raddau i ddweud, 'Edrychwch, mae'n ddrwg iawn gen i nad yw hyn wedi digwydd mor gyflym ag y dylai fod wedi'i wneud, ond nid yw hynny'n golygu nad yw'n mynd i ddigwydd ac nid yw'n digwydd.'
"Ac nid yw'n golygu na fydd yn digwydd mewn pryd."
Ychwanegodd na fyddai "unrhyw bwynt terfyn" i'r cyllid.
Pan ofynnwyd iddo a allai warantu y byddai'r Gronfa Ffyniant yn dal i gael ei dyrannu ar sail yr ardaloedd sydd â'r angen mwyaf, dywedodd Mr Hart: "Os mai swyddi, bywoliaethau, cymorth i ffynnu yw'r dylanwadau ysgogol ar gyfer hyn - yna wrth gwrs.
"Mae hyn yn ein galluogi i'w wario'n iawn yn y lleoedd sydd ei angen fwyaf.
"Ac nid yw'r atebion i gyd yn gorwedd yng Nghaerdydd, ac nid ydyn nhw i gyd yn gorwedd yn San Steffan chwaith - maen nhw mewn gwirionedd yn gorwedd gyda'r 22 awdurdod lleol sy'n gyfrifol o ddydd i ddydd am rai o'r materion hyn."
'Penderfyniad M4 wedi ei wneud'
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod yr M4 yn fater iddyn nhw, nid San Steffan, a bod eu penderfyniad "wedi ei wneud yn barod".
"Rydyn ni'n dal wedi ymrwymo i daclo traffig gydag atebion sy'n ystyried her ddigynsail yr argyfwng hinsawdd a'r pwysau ariannol yn sgil 10 mlynedd o lymder a thoriadau i gyllidebau."
Ar y Gronfa Ffyniant, dywedodd y llefarydd ei bod hi'n "hollbwysig bod Llywodraeth y DU yn ymrwymo i gynnig cyllid i ni fel bod dim toriad i'r gefnogaeth i fusnesau a chymunedau yng Nghymru".
Mae BBC Politics Wales ar BBC1 Cymru am 10:00 ac yna iPlayer.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2019