'Ro'n i am rannu 'mhrofiad o golli babi yn Gymraeg'
- Cyhoeddwyd
Mae un o bob pedwar beichiogrwydd yn aflwyddiannus ond teimlad nifer y rhai sy'n colli babanod yw ei fod yn parhau yn bwnc nad yw pawb yn fodlon siarad amdano.
A hithau'n wythnos sy'n ceisio gwneud pobl yn fwy ymwybodol o golli babanod mae un ferch o Langefni ar Ynys Môn wedi cyhoeddi blog, dolen allanol ar y cyfryngau cymdeithasol i rannu ei phrofiad ac i annog eraill i wneud hynny hefyd.
Mae Carys McKenzie wedi colli dau fabi a'r "tro cyntaf roedd e'n brofiad sobor o unig", meddai.
'Arwain at gyfnod tywyll'
"Pan rown i a'm mhartner wedi penderfynu cael plant roeddwn wedi disgwyl iddo ddigwydd yn naturiol.
"Fe gymrodd hi bum mis i fi feichiogi oedd yn teimlo'n eitha hir ar y pryd ond yn fuan daeth y beichiogrwydd i ben wedi'r hyn mae'n nhw'n ei alw yn missed miscarriage lle mae'r corff yn meddwl ei fod yn dal i ddisgwyl babi," meddai Carys.
"Roedd canfod nad oedd y babi yn fyw yn sioc anferth. Roedd o'n brofiad gwbl ofnus ac fe arweiniodd at gyfnod reit dywyll i fi.
"Doeddwn i ddim yn teimlo'n fi fy hun ddim mwy, ro'n i ar goll - yn unig. Doedd neb yn deall. Roeddwn i'n rhoi gwên ar fy wyneb ond do'n i ddim yn iawn."
Y cam nesaf i Carys oedd ceisio beichiogi eto ac fe gymerodd hi ddwy flynedd ond ym mis Awst eleni fe gollodd hi fabi arall.
Pob stori yn bwysig
"Mi wnes i ddelio yn well gyda phethau tro yma a rywsut mi ro'n i'n hanner disgwyl o.
"Beth arall wnes i wneud i oedd gadael ffrindiau i wybod sut ro'n i'n teimlo. 'Nes i ddim cadw fo'n gyfrinach.
"A dyma feddwl wedyn sut y byddai'n llais i yn cael ei glywed a dyma a ysgogodd y blog," ychwanegodd Carys.
Mae'n dweud bod yna lot o ddeunydd a chyfrifon Instagram Saesneg o gwmpas ond fawr ddim yn Gymraeg.
"Dyma fi'n meddwl pam ddim cychwyn un yn Gymraeg," meddai Carys, "mae'n bwnc cymhleth ac mae'r blog yna i rywun sydd eisiau darllen fy mhrofiad.
"Dwi'n gobeithio y bydd o fudd ond dwi hefyd am i bobl eraill rannu eu profiadau - mae pob stori yn bwysig."
Yn y cyfamser yn Sir y Fflint mae elusen newydd wedi ei ffurfio i gefnogi rhieni sydd wedi colli babanod. Y gobaith yw creu côr ar-lein er mwyn dod â rhieni sy'n galaru at ei gilydd.
Fe sefydlodd Philippa Davies o'r Wyddgrug yr elusen Our Sam wedi "ymateb enfawr" i ddrama a ysgrifennodd am ei phrofiad o golli merch farw-anedig wyth mlynedd yn ôl.
Mae'n gobeithio y bydd cyflwyno ei phrofiad hi a rhieni eraill drwy gerddoriaeth, theatr a ffilm yn "cyfleu y profiad a'r effaith o golli baban".
'Angen pob cymorth wedi profiad mor ofnadwy'
"Fe ges i Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) wedi fy mhrofiad i ac fe gymerodd hi dair blynedd i gael y gefnogaeth iawn.
"Mae elusen Our Sam am ei gwneud hi'n haws i rieni rannu eu profiadau yn gyhoeddus gan fod colli babi yn barhau i fod yn bwnc nad yw'n hawdd siarad amdano.
Bydd côr, a fydd yn cael ei adnabod fel Our Stars, yn cael ei gefnogi gan dri cherddor proffesiynol sydd wedi gwirfoddoli i roi cymorth. Y cyfan sydd ei angen er mwyn ymuno yw cyfrifiadur," ychwanegodd Philippa Davies.
Yn y dyfodol mae elusen Our Sam yn gobeithio denu cyllid a grantiau fel eu bod yn gallu creu ymwybyddiaeth a hyfforddi pobl broffesiynol fel gweithwyr iechyd sy'n ei chael hi'n anodd cefnogi rhieni sydd wedi colli babanod.
"Chi wir angen pob cymorth pan mae rhywbeth mor ofnadwy yn digwydd i chi," meddai Ms Davies.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd26 Medi 2018
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2017