Byw fy 'mywyd go iawn' fel menyw drawsryweddol
- Cyhoeddwyd
Mae hi bron yn ddwy flynedd ers i Zoey Allen o Gaerdydd ddod allan fel dynes drawsryweddol. Er fod nifer o bethau wedi newid iddi hi ers hynny, dydi cariad ei gwraig, Kelly, a'u dau o blant ddim yn un ohonyn nhw; mae'r pedwar mor gryf ag erioed, ac wedi dysgu, datblygu a thrawsnewid gyda'i gilydd yn deulu LGBTQ+.
Zoey sydd yn dweud ei stori wrth Cymru Fyw:
Nos Calan 2018 oedd hi pan newidiodd popeth. Daeth blynyddoedd o guddio pwy o'n i i ben wrth i mi eistedd i lawr gyda Kelly a dweud wrthi mod i'n drawsryweddol.
Ar y pryd, roedden ni wedi bod yn briod am jest dros 10 mlynedd, a gyda dau o blant anhygoel - George (sydd nawr yn 11) a Molly (sy'n naw). Roedden ni wedi gorfod wynebu nifer o heriau yn ystod ein bywyd priodasol, fel y rhan fwyaf o gyplau a theuluoedd, ond wastad wedi bod gymaint mewn cariad, ro'n ni'n wedi gallu dod dros unrhyw beth gafodd ei daflu aton ni.
Fodd bynnag, roedd 'na wastad yr ofn 'ma yng nghefn fy meddwl pan oedd hi'n dod at wynebu fy nheimladau o fod yn gaeth yn y corff anghywir; y byddwn i'n colli pawb a phopeth.
Ond o'n i mor anghywir!
Dod yn Momma Zo
Roedd Kelly a fi yn siarad tan oriau mân y bore am wythnosau, yn crio ac yn trafod sut allwn ni symud ymlaen. Doedd hyn ddim yn rhywbeth roedd hi wedi ei ddisgwyl yn ei phriodas wrth gwrs, a dwi wedi bod mor lwcus ei bod hi'n deall ac yn derbyn.
O ran y plant, yr unig beth oedden nhw'n poeni amdano oedd fy hapusrwydd, ac yn fuan daethon nhw i fy nerbyn i'n annwyl fel eu 'Momma Zo'.
Erbyn Chwefror 2019, ro'n i wedi newid fy enw yn gyfreithiol, ac yn byw fy mywyd newydd - fy mywyd go iawn - fel Zoey. Wrth i amser fynd yn ei flaen, 'naethon ni dyfu'n gryfach gyda'n gilydd, a nes i ddechrau cofleidio pwy ydw i. Nes i ddechrau gwisgo wigs coch (wrth i fy ngwallt dyfu), a nes i ddechrau dal fy mhen ychydig yn uwch.
Mae fy swydd wedi bod yn wych ac wedi cwrdd â phob angen, ac er ein bod ni wedi colli ambell i ffrind ac aelod o'r teulu oherwydd eu diffyg cefnogaeth, roedd y cylchoedd newydd roedden ni'n cael ein croesawu iddyn nhw yn gynnes iawn.
Rhannu ein stori
Pan ddes i mas, roedd Kelly eisoes yn cadw blog ac yn ysgrifennu am ei bywyd, a siaradon ni am falle roi ein stori mas i'r byd. Ond o'n i'n ofnus ofnadwy, ac yn poeni beth fyddai hyn yn ei wneud i ni i gyd fel teulu.
Tua Mehefin 2019 'naethon ni ddechrau dogfennu ychydig mwy o'n profiadau ar-lein, gyda Kelly yn cymryd y llyw gynta'. O'dd hi'n trafod sut roedd hi wedi teimlo a rhai o'r pethau roedden ni wedi bod drwyddyn nhw yn barod fel teulu gyda rhiant trawsryweddol.
Trafodon ni enw ar gyfer y blog/flog newydd, a setlo ar Our Transitional Life. Er mai fi sydd yn drawsryweddol a fi fydd yn mynd drwy'r trawsnewidiad corfforol, dwi wastad wedi credu fod y trawsnewidiad yn rhywbeth i ni i gyd fel teulu, gan ein bod ni i gyd yn profi elfennau ohono, gyda'n gilydd.
Nawr, ry'n ni'n gweithio gyda'n gilydd ar y blog a sianeli cymdeithasol, yn rhannu rhai o'n profiadau fel teulu, cwpl ac unigolion, gyda finnau fel menyw drawsryweddol.
Ry'n ni'n ceisio taclo rhai o gamargraffiadau cymdeithas am bobl drawsryweddol, a wir yn gobeithio gallu normaleiddio teuluoedd mwy amrywiol. Ry'n ni'n hoffi rhannu'r pethau positif a negyddol er mwyn dangos fod popeth ddim wastad yn rainbows and butterflies, ac weithiau fod pethau'n gallu bod wir yn anodd.
Mae bod yn drawsryweddol yn rhan o pwy ydw i, ond nid dyna'r cyfan ydw i.
Yn ystod y lockdown, 'naeth Kelly a fi lansio cwmni gemwaith. Mae gennyn ni gasgliad Pride mawr sydd yn helpu i godi arian i elusennau LGBTQ+. Mae'n wych cael rhywbeth arall i gydweithio arno, ac hefyd rhoi yn ôl i'r gymuned LGBTQ+.
Ry'n ni'n ddiweddar wedi arwyddo gydag asiant llenyddol, ar gyfer llyfr lluniau ry'n ni'n dwy wedi ei ysgrifennu, o'r enw This is Momma Zo. Mae'n llyfr hwyliog, llawn gwybodaeth i blant ac oedolion. Mae'n fy nhrafod i fel Momma Zo, a rhai o'r profiadau ry'n ni wedi eu hwynebu, a hynny o safbwynt ein merch Molly.
Ein gobaith yw y bydd yn llwyddiant ac yn arf addysgol, nid yn unig i blant, ond hefyd i rieni ac athrawon. Efallai y gallai helpu'r rheiny sydd ddim yn deall am deuluoedd gyda rhiant trawsryweddol, rhai sydd yn mynd drwy'r un peth, neu rhai sydd wir eisiau dysgu am amrywiaeth.
'Rhan o pwy ydw i'
Dwi'n barod wedi dod mor bell yn fy nhrawsnewidiad, gan mod i ar hormonau ers Gorffennaf diwethaf, ac mae gen i, o'r diwedd, fy nhroed yn nrws gwasanaethau rhywedd y GIG.
Ond dwi dal i wynebu nifer o heriau. Dwi dal yn gorfod siafio, ac yn cael triniaethau laser i dynnu blew'r wyneb, sydd yn anhygoel o boenus! (Dwi wedi cael mwy nag un tatŵ, ond does yna ddim byd yn brifo mwy na chael dy wefus uchaf wedi ei zappio!)
Mae pobl yn cam-gymryd fy rhywedd yn aml, yn enwedig pan dwi ar y ffôn. Mae hi'n syndod faint o bobl sydd yn eich galw yn Sir, Madam, mate, pal, love ac yn y blaen, hyd yn oed cyn gofyn os mai rhagenwau gwrywaidd neu fenywaidd neu rywbeth arall 'dych chi'n eu defnyddio. Mae'n gallu bod yn boenus iawn.
Dwi'n agosach at deimlo'n fwy benywaidd yn fy nghorff a'n edrychiad, ond mae fy llais yn rhywbeth nad oes modd ei newid heb lawdriniaeth. Gallwn i safio arian i gael llawdriniaeth, ond dwi'n ganwr a dwi wir ddim eisiau peryglu fy llais.
Yn ffodus, dwi wrthi'n dechrau ar gwrs o therapi llais, a fydd, gobeithio, yn fy helpu i ddelio â sgyrsiau ffôn yn y dyfodol agos.
Mae bod yn drawsryweddol yn rhan o pwy ydw i, ond nid dyna'r cyfan ydw i. Mae'n dod law yn llaw â dyddiau a phrofiadau anhygoel o heriol, ac emosiynau sydd yn fy mwrw i'r llawr rhai dyddiau. Ond mae hefyd yn dod â'r cyfle i estyn mas a helpu eraill gyda phrofiadau tebyg i'n rhai i a Kelly.
Dwi'n wraig, dwi'n 'Momma', dwi'n ganwr, gemydd ac awdur, ond yn bwysicach, dwi'n fi.
Hefyd o ddiddordeb: